Wnes i dysgu Cymraeg, chi’n gallu dysgu e hefyd!

Nicky gyda’r cyflwynydd Alun Williams, yn ffilmio eitem am ei brofiad o ddysgu Cymraeg ar gyfer rhaglen Bore Da, S4C.Dysgu Cymraeg gyda Nicky…

“Mae’n ddrwg gyda fi. Sori Mamau. Eich gwasanaeth arferol wedi cael ei darfu gan rhywun ar lein. Rydym ni’n gobeithio adfer y gwasanaeth arferol mor fuan â phosibl”

Gadael i fi esbonio! Dw i ddim yn Mam. Dw i ddim yn menyw. Mae gwraig gyda fi ers 2014. Mae dau moch cwta gyda ni os mae nhw’n cyfri?!

Nicky Roberts ydw i. Dw i’n dod o Gwm Rhondda – dych chi’n nabod e? Mae’n lle, ble does neb yn siarad Cymraeg o gwbl…. os chi’n credu beth chi’n clywed. Wel – mae’n wir mewn ffordd, achos wnes i tyfu lan byw yn lle o’r enw Tonypandy. Dwi’n dweud celwyddau nawr, jyst does neb yn nabod Tre-Edmond – felly rhaid i fi ddweud Tonypandy.

Mae Cymraeg yn gallu teimlo fel ‘foreign’ os chi’n tyfu lan yn lle fel Tonypandy. Es i ysgol pan oedd athrawes dal yn dangos fideos ar y teledu yn lle dysgu chi sut i siarad yr iaith. Dauddeg pump blwyddyn wedyn a beth dwi’n cofio o’r ysgol?

“Bore Da”

“Eisteddwch”

“Bore Da Blwyddyn Wyth! Mrs Price Ydw i. Eisteddwch”

Felly, roeddwn i’n iawn (dim ond os oeddech chi’n moyn i mi eistedd lawr, neu dweud ‘Good Morning’ – popeth arall? Na, dim cyfle – dim yn mynd i ddigwydd. Sori!)

Dw i wedi wastad wedi teimlo fel Cymro. Dw i’n cyfri fy hun fel Cymraeg gyntaf, Ewropeaidd ail – nid ‘British’ o gwbl. Jyst fel llawer o bobl sydd yn byw yn lleodd fel Cwm Rhondda a lleodd arall yn De Cymru, ond dw i jyst byth cael y cyfle i dysgu’r iaith yn iawn.

Fyddai ddim mynd rhy bell i’r gwleidyddiaeth a’r system addysg (Oedd rhaid i fi ddefnyddio geriadur i ffeindio mas beth oedd ‘politics’ gyda llaw) Ond ie, pan roeddwn i yn yr ysgol, doedd dim rhaid i chi astudio Cymraeg ar ol troi yn 14 oed. Doedd dim angen i wneud Cymraeg ar gyfer TGAU. Felly, oedd rhaid i fi ddewis rhwng astudio ‘IT’ neu Cymraeg.

Mae ‘IT’ wedi bod wych i fi. Dw i’n gweithio fel ‘Technical Architect’ ar hyn o bryd. Dyma fy ‘swydd breuddwyd’ Wnes i lefel-A ac ar ol hynny es i Prifysgol Morgannwg i astudio ‘Software Engineering’. Wnes i newid i astudio ‘Computer Science’ ar ol blwyddyn un o’r cwrs, achos roeddwn i’n dechrau casau yr ‘obscure maths’ roeddwn i’n gorfod astudio!

Es i mewn  i’r ‘byd gwaith’. Wnes i ddechrau reit yn y gwaelod (ac wnaeth e teimlo fel y gwaelod!), yn Lloyds TSB ger M4 yn Pen-y-bont ar Ogwr.

Dros amser, wnes i ddysgu sut i siarad Ffrangeg yn rhugl. Ar ol ychydig blwyddyn o hywl wnes i symud gyda fy ngwaith i Abertawe – byd hollol gwahanol i Gwm Rhondda! Oedd popeth yn gwahanol. Dod o dref bach fel Tonypandy, oedd rhaid i chi ddal y bws olaf erbyn 6.30pm neu oeddech yn sownd yn y cymoedd am nos. Pan wnes i symud i Abertawe dw i’n gallu cofio y tro gyntaf welais i fws yn mynd trwy fy stryd am 10 y nos! Amserau crazy!

Wnes i gwrdd fy ngwraig i, Lara mewn tafarn ofnadwy; ‘Y Hanbury’ Paid trio ffeindio fe plis! Ar ol blwyddyn gyda’n gilydd penderfynon ni symud yn ol i Gwm Rhondda fel bod Lara gallu mynd i Prifysgol Morgannwg (doniol sut bywyd gweithio mas ie?) i astudio Celf.

Fast forward ychydig flynyddoedd. Rydym ni priodi, wnaeth Lara cwpla prifysgol ac wnaeth hi ddechrau gweithio yn stiwdio yn Porth, Cwm Rhondda yn gwneud crochenwaith.

Ar ol blynyddoedd heb pasport (Cofiwch nawr! Dw i’n dod o Tonypandy. Mynd rhywle fel Aberaeron yn bell i fi!), Penderfynnais i gael un. Pendyfernais I mynd ar y ‘trip o’r lifetime!

Beth dych chi’n gwneud pan chi byth wedi bod dramor cyn nawr? Mae’n hawdd! Archebu 14 gwyliau mewn blwyddyn! Rome, Paris, Copenhagen, Malmo, Berlin, Vilnius (ie.. Lithuania, oedd rhaid i fi ffeindio mas hynny hefyd!), Paris eto am Ewros!, Manceinion, Paris unwaith eto (Pam lai? Mae pawb yn hoffi Paris!), Brussels, Barcelona, Budapest, Amsterdam cyn cwpla’r blwyddyn yn y dref hyfryd, Aberystwyth.

Wnaethom ni ddim treulio llawer o amser yn bob tref, jyst penwythnos yma ac yno. Mwyaf o nhw oedd archebu gyda lastminute.com neu rhywbeth fel hynny, llawer o dels rhad!

Pam o’n i’n mynd i’r Ewros i wylio Cymru chwarae yn erbyn Gogledd Iwerddon yn Paris gyda Lara. Rhywbeth dechrau clicio yn fy mhen, dw i ddim yn gwybod beth – ond roeddwn i’n siwr bod rhywbeth yn dechrau. Roeddwn i’n teimlo embaras achos dw i’n gallu siarad Ffrangeg yn rhugl gyda gyd y bobl Ffrangeg. Dw i’n gallu cerdded mewn unrhyw bar yn Paris, archebu dioddydd, rhannu jocs gyda’r ‘locals’, dweud wrthyn nhw popeth am Gymru. Ond roeddwn i’n becso am rhedeg mewn i Cymro neu Cymraes oedd  yn gallu siarad Cymraeg. Beth bydda I’n gwneud? Beth bydda i’n ddweud?

Des i adre ar ol y gem a dechrau i feddwl am beth i wneud. Roeddwn i eisiau dysgu’r iaith, iaith fy ngwlad.

Ychydig misoedd wedyn dw i’n cofio siarad gyda Lara yn ein tŷ yn Porth am ddechrau dysgu Cymraeg. Wnaeth Lara cytuno gyda fi. Wnaeth hi wneud Cymraeg yn ysgol hefyd nes roedd hi 16 oed, ond fel fi hefyd, mae hi wedi anghofio popeth ac eithrio ‘Yn fy marn i’ felly oedd lot o gwaith gyda ni os roeddwn ni mynd i wneud e!

Clywes i llawer o pethe gret am ‘SaySomethinginWelsh’ app. Roeddwn i meddwl “Pam lai trio fe? Dw i’n gwybod dim byd o gwbl ar hyn o bryd. Efallai mae’n ofnadwy, ond byddai dysgu rhywbeth ie?”

Wnes i ddechrau gyda’r cwrs. Peth cyntaf, oedd rhaid i fi dewis rhwng ‘Cwrs Gogledd’ a ‘Cwrs De’ Waw! Penderfyniadau mawr reit ar y ddechrau. Roeddwn i’n dal yn byw yn Cwm Rhondda ar yr amser, felly roeddwn i mynd i dysgu ‘Llaeth’, ‘Gyda’ ac ‘Allwedd’ yn lle ‘Llefrith’, ‘Efo’ a ‘Goriad’

Pan ddechreuodd Lara a fi, ni’n dechrau i fynd i dafarn lleol; ‘Clwb Y Bont’ ym Mhontypridd (even now I still don’t know if I’ve mutated that correctly!!) ble oedd cyfle gyda ni i ymarfer prynnu diodydd yn Cymraeg drwg, dechrau gyda ‘Dau peint Carlsberg os gwelwch yn dda?’ symud ymlaen i ‘Ga’i ddau beint o Carlsberg, plis?’ cyn cael llawer o hyder a trio mas rhywbeth ffansi fel ‘Alla’i gael dau beint o Carlsberg, plis?’ a gwneud dyn tu ol bar meddwl bod ni’n siaradwyr rhugl, oedd rhaid i ni ddweud ‘Na, dw i ddim yn deall beth wedais ti!’ pan mae’r dyn dechrau siarad yn Cymraeg cloi!

Wnes i ddechrau sianel YouTube; ‘Learn Welsh with Nicky’ jyst fel modd i gadw diddordeb fi. Wel, mae hynna’n celwydd. Oedd yn mwy o’r ffordd i teimlo cyfrifoldeb. Os pobl tanysgrifio, oedd rhaid i fi wneud mwy o fideos. Wnaeth fy sianel cymryd bant, nid yn yr un ffordd fel Zoella neu KSI! Mewn ffordd Cymraeg.

Wnes i wneud fy fideo cyntaf ar ol dysgu am dwy a hanner wythnos. Pan dw i’n gwylio fideo yn ol nawr dw i’n cringe ond hefyd dw i’n teimlo dipyn bach o balchder at beth o’n i’n  cyflawnu. Mwyaf pobl hoffi y fideo, mae un dyn casau e. Dw i ddim yn gwybod pam? Oedd fe’n ffrind ar yr amser. Ond oedd dim byd ond beirniadaeth gyda fe am rhai rheswm?

“Ti’n gwneud e anghywir” wedodd e.

“Ti’n ofnadwy” wedodd e.

“Ti’n siarad geiriau yn y drefn anghywir” weddod e.

Weddod e ddim wrtha i yn Gymraeg, achos wnaeth e gwrthod i siarad Cymraeg gyda fi achos wnaeth e meddwl roedd fy Nghymraeg yn rhy ddrwg!

Ti ddim yn gallu gadael pobl fel hyn i ddod a ti lawr, ac ers hynny dw i wedi cwrdd dim byd ond pobl hyfryd, sydd wedi helpu fi llawer a deall pan dw i’n cymysgu neu wneud camgymeriadau.

Yn ffodus dw i’n gweithio gartref, jyst fel Lara nawr. Ar ol ymweld Aberystwyth dros Nadolig 2016, wnaethon ni ddewis i symud yma. Wnes i llogi van mawr a symud popeth oedd gyda ni 100 milltir lan y ffordd.

Rydym ni wedi wastad hoffi Aberystwyth. Dw i wedi bod yn dod yma ers roeddwn i’n ifanc ar gyfer gwyliau gyda fy nheulu, a Lara wedi bod dod yma hefyd. Daeth Tad Lara yma i astudio yn Prifysgol Aberystwyth yn y saithdegau. Wnes i ofyn i Lara i briodi fi yng Nghei Newydd, jyst lawr y A487 yn 2013, felly mae’n dref bwysig i ni.

Mae byw yn Aberystwyth yn rhoi llawer o cyfloedd i ni i ddefnyddio’r iaith ar y stryd, mewn tafarnau, cymdeithasol, gwneud ffrindiau a chael mwy o hyder gyda’r iaith oherwydd hynny.

Wnaethom ni dewis i drio byw ein bwydau yn llwyr yn y Gymraeg, os yn bosibl. Roedd yn ddiddorol a dweud y lleiaf! Sut dych chi’n gwneud pan chi’n moyn rhywbeth i’w fwyta ond chi ddim yn gwybod y gair am ‘Mushroom Risotto’? Dych chi’n jyst yn coginio ffa pob o hyd achos chi ddim yn gwybod y gair am hwn? Neu dych chi’n ffeindio y gair am ‘Mushroom Rissotto’ (‘Risotto Madarch’, apparently!)

Dyw dysgu Cymraeg ddim yn hawdd bob amser. Mae diwrnod da pan rhai bobl meddwl dw i’n rhugl a mae diwrnodau gwael pan fi’n anghofio sut i ddweud rhywbeth syml!

Dw i wedi ffeindio ‘Clwb Clonc’ yn Siop y Pethe, Aberystwyth ble dw i a Lara’n gallu cwrdd dysgwyr arall a siarad am ein profiadau o dysgu’r iaith bob wythnos. Mae fe’n rhoi ni cyfle i glywed lleisiau arall a cael profiad o siarad gyda siaradwyr rhugl pwy sydd yn siarad cloiach na ni!

Peth da yw cael ffrindiau sydd yn siarad gyda chi dim ond yn Gymraeg! Mae ffrindiau gyda ni yn Aberystwyth, fel Llio, Heulwen (Mam Cymru!), Emily, Marc, Aled, Lowri, Geraint o’r Cwps neu Tom o Glwb Pel Droed Tref Aberystwyth – fydden I byth yn siarad Saeseg gyda rhain – gret!

Efallai chi’n darllen hwn a meddwl ‘Beth yw pwynt yr erthygl yma? Mae’r dyn yma yn ysgrifennu’n ofnadwy!’ Y pwynt yw, dw i wedi bod dysgu Gymraeg ers chwe mis. Dw i ddim wedi gwneud unrhyw beth arbennig, wnes i dreulio awr neu ddwy y dydd yn dysgu’r iaith a nawr dw i’n gallu siarad yn go-iawn gyda siaradwyr arall, dw i’n gallu gwneud fideo ar YouTube, dw i’n gallu ysgrifennu ar gyfer blog fel hwn.

Os dw i’n gallu gwneud e, chi’n gallu gwneud e. Mae cyfrifoldeb arnon ni i gadw yr iaith yn fyw. Dw i ddim yn siarad yn berffaith o gwbl. Dw i’n gwneud camgymeriadau bob amser. Dw i byth wedi dysgu sut i ysgrifennu neu sillafu yn Gymraeg – hwn yw’r peth hiraf fi wedi neud.

Trio fe mas! Tro nesaf chi’n cerdded lawr y stryd neu brynu rhywbeth mewn siop, jyst dweud ‘Shwmae’ a gweld beth sydd yn digwydd. Chi byth yn gwybod, falle bydd agor pennod nesaf i chi hefyd?!

 Gan Nicky Roberts

 

2 comments

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: