Chwilio am nofelau Cymraeg i’w darllen dros yr haf? Beth am y pump nofel newydd yma gan awduron a chyhoeddwyr Cymru!
Dadeni gan Ifan Morgan Jones – Lolfa – £9.99
Llyfr y mis ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru – Mehefin 2017.
Nofel ffantasi gyffrous sy’n symud o gefn gwlad Cymru i ferw’r Cynulliad yng Nghaerdydd ac i berfeddion Tŵr Llundain, wedi’i phupro â thalp go lew o ddiwylliant a hanes Cymru.
Cwlwm Creulon gan Eiddwen Jones – Atebol £6.99
Nofel hanesyddol afaelgar wedi’i lleoli yn sir y Fflint a swydd Cumbria ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Does dim dianc rhag y twyll ddaw i blagio Phoebe Hughes, morwyn ifanc ar fferm Caeau Gwylltion.
Pry ar y Wal gan Eigra Lewis Roberts – Gomer £8.99
Nofel am fywyd mewn pentref cyffredin yng ngogledd Cymru, lle caiff bywydau’r trigolion eu hysgwyd pan fo Owen Myfyr Owen yn dychwelyd i fyw i’w bentref genedigol, gan fygwth datgelu cyfrinachau pawb. ‘Dyma Eigra ar ei gorau…’ Manon Rhys.
Fabula gan Llyr Gwyn Lewis – Lolfa £8.99
Buenos Aires, Rhufain, Dulyn, Barcelona, Kyoto, Aberystwyth a Bro Morgannwg: dyna rai o’r lleoedd y mae gwyfynod y gyfrol hon yn hedfan iddynt. Cânt eu galw’n nes at ddiddymdra wrth hofran yn y trwch adain gwybedyn sydd rhwng hanes a stori. Ym myd y fabula, gall ffuglen droi’n wirionedd, a ffaith yn freuddwyd.
Llif Coch Awst gan Hywel Griffiths – Barddas £8.95
Dyma gasgliad cynhwysfawr o gerddi’r prifardd Hywel Griffiths, yn cynnwys cerddi sy’n ymwneud â thir a daear Cymru, ei hinsawdd, ei chymunedau, ei hanes a’i chwedlau.
Mae’r llyfrau yma ar gael gan y gweisg, ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru ac yn eich siop lyfrau leol.
Cofiwch anfon eich adolygiad draw i mam@mamcymru.wales ac os oes gyda chi awgrymiadau am lyfrau da, byddem wrth ein bodd yn clywed am rhain hefyd!