Dwyieithrwydd

Dwyieithrwydd gan Richard Curtis o’r blog RJC 7’s.

https://www.theguardian.com/science/2016/aug/07/being-bilingual-good-for-brain-mental-health

Wrth gyflawni gwaith ymchwil ar ddwyieithrwydd, mi oedd hi’n bleser i ddod ar draws erthygl yn y Guardian yn esbonio manteision magwraeth dwyieithog. Yn ddiweddar mae union yr un papur newydd wedi cyhoeddi erthygl erchyll yn erbyn y Gymraeg. Mewn gwirionedd fe ymatebodd @rhiannonlucyc hefyd yn y Guardian, yn wych i’r erthygl,

Dwr Cymru - Stop Cyn Creu Bloc

https://amp.theguardian.com/education/2017/jun/22/sad-english-parents-afraid-children-taught-welsh

Fodd bynnag, mae hi o hyd yn teimlo’n rhyfedd i fi bod angen trafod gwerth dwyieithrwydd yng Nghymru.

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/restaurant-owner-says-deals-anti-13256874#ICID=Android_WalesOnlineNewsApp_AppShare

Pam bod lleiafrif o bobl yn ofni’r gallu i siarad mwy nag un iaith? Yr wyf yn  siarad mwy nag un iaith, Cymraeg a Saesneg.  Yr wyf yn ymfalchïo yn fy ngwlad ac yn gwerthfawrogi pob cyfle yr wyf wedi derbyn. Mae llawer o bobl, os nad y mwyafrif o bobl, sydd yn byw yng Nghymru yn cefnogi’r Gymraeg a phetai’r pobl yn symud i Gymru neu yn rhan o Gymru, yn aml maent yn dymuno dysgu’r Iaith.

Welsh Water - Stop the Block

http://neurosciencenews.com/brain-time-language-6562/amp/

Mae’r gallu i siarad mwy nag un iaith yn sicr o fantais.  Mae’r ymchwil newydd yn dangos eich bod yn gallu cadw eich meddwl yn ifanc gan fod yn ddwyieithog.

Mae’r erthygl yma yn dangos yn glir manteision dwyieithrwydd,

Pan rydw I’n siopa yng Nghaerddydd yr wyf yn ymdrechu i siarad Cymraeg,  efallai gan gynnig cyfarchion neu ddiolch. Teimlaf yn gyfforddus i siarad Cymraeg mewn cwmni ac yn sicr yr wyf yn ‘joio cynnal sgwrs gydag unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith. Mae’r erthygl isod yn dangos sut mae pobl sydd eisoes wedi symud i Gymru wedi dysgu Cymraeg.

http://cymraeg.llyw.cymru/More/myexperience/Learn/AnnaSkalistira-Bakratseva?lang=en

Fe ges i’r fraint ddoe i wrando ar araith Katherine Davies yn dangos gweledigaeth ein Llywodraeth i gefnogi’r Gymraeg. Defnyddwyr yr iaith sydd angen inni ddatblygu nid siaradwyr yn unig. Heb os nac oni bai mae’r gallu i siarad Cymraeg yn agor drysau at swyddi. Mae hyd yn oed swyddi ar drydar sydd yn dangos y galw i bobl sydd gyda’r sgiliau ieithyddol.

http://www.lleol.cymru/classified/swyddog-datblygu-gwent.html

http://www.lleol.cymru/classified/gweithiwr-plant-ieuenctid-a-theuluoedd5953a339408ed.html

Mae siawns euraidd yn ein hanes i wneud ein gwlad yn ddwyieithog! Gyda’r safonau proffesiynol  newydd i athrawon, mi fydd hi’n bosib i ddatblygu gweithlu dwyieithog gyda’r iaith yn fyw ym mhob sefydliad.

Yn yr ail gynhadledd, cefais gyfle i wrando ar ddisgyblion yn trafod eu treftadaeth. Roedd pump ysgol wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu ffilm arbennig. Gan gynnal gwaith ymchwil o’r ardaloedd lleol a chwrdd gyda thrigolion o’r ardal fe lwyddodd i greu dathliad o Gymru o ‘Ar lan y Môr ‘I’r cymoedd,

Mae cydio yn ein hetifeddiaeth ac iaith yn rhan o siwrne pob plentyn yng Nghymru  a bydd y gallu i siarad mwy nag un iaith yn creu cyfleoedd newydd iddynt. Gyda gymaint o bryderon yn y byd, gadewch inni gydio’n dynn yn y siawns i rannu ein diwylliant a dathlu’r Gymraeg fel iaith sydd yn fyw!

Hoffai Mam Cymru ddiolch i Richard Carbis o’r blog RJC 7’s am adael inni rannu ei erthygl am ddwyieithrwydd ar blogzine Mam Cymru!

Gadael Ymateb