Rhoi’r ‘Mam’ yn ‘Mamiaith’

Ar noson braf o wanwyn yn 2004, fe gerddais i drwy Soho, Llundain i gwrdd â’m ‘blind date’ – boi o’r enw Geraint Huw. Yn ôl y ffrind wnaeth drefnu’r noson, roedd Geraint yn dal ac yn dywyll ac yn Gymro. Roedd e hyd yn oed yn siarad Cymraeg! “Welsh? Is that actually a language?” meddai fi – y twmffat anwybodus.

Er gwaethaf pob tebygolrwydd, fe aeth y dêt yn dda. Ges i lapswchad, a fy ngeiriau cyntaf o Gymraeg: ‘P’nawn Da’. Doedd dim clem ‘da fi ar y pryd, ond roedd cyfeiriad fy mywyd ar fin newid yn llwyr ac yn gyfangwbl.

Pedair blynedd ar ddeg wedyn, dyma fi’n briod â Geraint Huw, yn byw yng Nghrymu, yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, yn sgwennu nofel yn y Gymraeg ac yn magu fy mhlant trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn fy mhrofiad i, mae bod yn rhiant yn golygu bodoli mewn stâd barhaol o deimlo’n euog. Ydw i’n rhoi’r gorau i’m plant? Ydyn nhw’n cael gormod o deledu? Digon o sylw? Gormod o sylw? Ond, mae bod yn ddysgwraig yn codi cwestiwn ychwanegol: ym mha iaith ddylwn i siarad gyda fy mhlant?

Fi yw’r rhiant sy’n treulio’r rhan fwyaf o amser gyda’r plant felly fi sy’n rhoi’r ‘mam’ yn eu ‘mamiaith.’ Mae’n dipyn o gyfrifoldeb. Dylse mamiaith fod yn lle y byddech chi’n ffeindio cymorth, lle chi’n gallu mynegi’ch eich hunain yn naturiol, lle chi’n gallu bod yn chi eich hunain. Pe taswn i’n dewis Saesneg ar gyfer iaith y tŷ, efallai byddai’n atal fy mhlant rhag teimlo’n gartrefol yn y Gymraeg. Ar y llaw arall, pe taswn i’n siarad Cymraeg yn y tŷ, a fyddai’n teimlo fel ‘fi fy hun’ gyda fy mhlant?

Yn amlwg, mae digon o bobl yn defnyddio’r ddwy iaith adre ond roedd teimlad ‘da fi, pe taswn ni’n siarad y ddwy iaith adre, yn glou iawn, baswn i’n dechrau diogi – fe fyddai’n troi at Saesneg a syrthio mas o’r arfer o siarad Cymraeg. Wedyn, beth oedd y pwynt yn yr holl ymdrech rwyf wedi neud i ddysgu’r iaith hyd yn hyn? Cymraeg amdani te. Ond… dyw fy Nghymraeg i ddim yn berffaith. Ydy hi’n bosib fe fyddai’n amddifadu fy mhlant o Gymraeg a Saesneg da?

Y gwir yw, mae fy ofnau yn ffynnu o ragfarn. Fel person sy’ ‘di cael ei magu’n unieithog – a hithau’n iaith y mwyafrif – mae’n anodd i fi ddychmygu pa mor wahanol yw’r profiad o dyfu lan gydag iaith lleiafrifol fel eich mamiaith. Ond mae’r dystiolaeth yn blwmp ac yn blaen: sai’ erioed ‘di cwrdd â Chymro neu Gymraes Cymraeg sy’ ddim yn gallu siarad Saesneg hefyd.

Wrth iddyn nhw dyfu, mae fy mhlant yn rhoi pen ar fy ofnau. Mae fy nghroten chwe mlwydd oed yn cywiro fy Nghymraeg weithiau – sy’n dangos bod ei chrap ar y Gymraeg yn gryfach na fy un i yn barod. Ac er pob ymdrech eu rhieni i ddarparu popeth yn Gymraeg, mae’r plant yn dod â Saesneg mewn i’r tŷ wrth iddynt ddarganfod Netflix a CBeebies, ac wrth iddynt ddewis llyfrau a chylchgronnau Saesneg. Mae’n nhw mynnu ar y ddwy iaith.

Wrth dyfu lan yn ddwyieithog, mae plant yn cael y gorau o’r ddau fyd: gwreiddiau dwfn yn ei gwlad, a’r dull i estyn y tu hwnt. Tra bod ysgolion Cymraeg yn neud jobyn ffantastig o greu’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg, dyw hynny ddim yr un peth â chreu siaradwyr â Chymraeg fel eu mamiaith. Mae hynny yn gyfrifoldeb i ni, y rhieni. Mae addysgu yn gallu dod a’r iaith mewn drwy ddrws y cartref – cariad sy’n ei chadw hi yno.

Mae Sarah Reynolds yn awdur a dysgwraig. Gyrraeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2016. Mae ei nofel gyntaf yn y Gymraeg, Dysgu Byw, ar gael yn eich siop lyfrau leol neu ar www.gomer.co.uk. Gweler blog Sarah: www.saesnesyngnghymru.com

 

3 Comments

  1. Niall

    “The truth is my fears are borne of prejudice.”

    I don’t think that’s true. Your fears were certainly reasonable, and in some circumstances it’s better to leave one language to a particular parent.

    But no two families are identical, and the number of variables affecting what the right decision is is huge.

    I’m glad it worked for you, but don’t let yourself think that the families who opt for “one parent, one language” aren’t just as capable of bringing up competent native speakers than those who opt for a monolingual household.

  2. Jorge Alexandre de Sousa Gomes

    Fantastic testimony, diolch yn fawr iawn! And congratulations: besides being so intelligent, you are also a wonderful mother and your husband no doubt is a wonderful parent too! Your kids are eager to learn and improve their language skills, this is truly a blessing as well! What a wonderful, bilingual family!!

Gadael Ymateb i Jorge Alexandre de Sousa Gomes Diddymu ymateb