Heb Iaith, Heb Genedl

Un o’r pynciau trafod ar sioe Jeremy Vine ar Radio 2 yr wythnos hon, oedd cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Siaradodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg, yn frwdfrydig ac yn angerddol am sut, a pham, y penderfynodd ddysgu siarad Cymraeg. Pwysleisiodd yn eglur pa mor anhepgor yw rôl yr iaith wrth ffurfio hunaniaeth diwylliannol. Nes ymlaen yn yr un rhaglen, cyfrannodd Charles Moore, dyn clyfar a huawdl i slot rheolaidd Radio 2  ‘What Makes Us Human?’ Yn ôl Moore, yr ateb syml i’r cwestiwn yw “geiriau.”

Tra o’n i’n coginio swper, meddyliais am berthynas iaith, hunaniaeth a diwylliant a sut mae’r tri pheth yn annatod. Dyma’r un fath o syniad mae’r ieithegydd Noam Chomsky yn awgrymu wrth ddweud “A language is not just words. It’s a culture, a tradition, a unification of a community, a whole history that creates what a community is. It’s all embodied in a language.” Fe wnaeth y ddwy ran hollol arwahan yma o sioe Vine  gydfynd â’i gilydd yn hyfryd. Ystyriais hanes hir yr iaith Gymraeg; natur unigryw ac arbennig hunaniaeth Gymreig; prydferthwch a chyfoethogrwydd diwylliant Cymreig  a pha mor blydi lwcus ydyn ni. Mor FFABLUSS bydd hi ym 2050! Wrth droi’r chilli, myfyriais am y pethau hyfryd hyn.

Cyn bo hir, daeth fy mab adre o’r ysgol, yn sgrechen y byddai ar “Y TELI !” Cafodd grwp o blant eu ffilmio a gyfer Newyddion 9 yn trafod eu syniadau ynglyn â sut allai cynllun newydd Llywodraeth Cymru weithio’n ymarferol. Gwyliodd y teulu cyfan, yn aros yn awyddus am ddeg eiliad o enwogrwydd Taliesin. Roedd e’n llawn balchder, fel potel o bop a braf oedd gweld brwdfrydedd y plant. Postiodd BBC Cymru Fyw y clip hyfryd hwn ar Facebook.

https://www.facebook.com/bbccymrufyw/videos/515495618787517/

Ond YNA, ysgrifennodd rhyw berson angharedig, sbeitlyd sylw o dan y clip yn pwyntio  mas tri camgymeriad treiglo yr oedd y plant wedi’u gwneud. Dim canmoliaeth i grŵp o blant ysgol gynradd, ail iaith, yn trafod cynllun llywodraethol yn hyderus ac yn rhugl – ei hunig ymateb oedd gweld bai a Chymraeg ddiffygiol. Bod eu Cymraeg nhw ddim yn digon da. Ddim. Yn. Ddigon. Da.

Roedd erthygl diweddar anwybodus, a thramgwyddus yn y Guardian fis dwetha yn cwestiynu yr “ethics of using the classroom to bolster a minority language” a galw’n “futile” yr ymgeision i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg (rhag eich cywilydd, The Guardian.) Rydyn ni’n hen gyfarwydd â’r syniadau rhagfarnllyd, blinedig sydd gan rai pobl ddi-Gymraeg (sydd mor, MOR ddiflas erbyn hyn), y bobl sy’n gwrthod ystyried bendithion bywyd dwyieithog. Ond, gadewch i ni ystyried y Gelyn Oddi Fewn.

Dwi’n dwli ar Bolycs Cymraeg. Os nad ydych yn gwybod amdano, ac yn hoffi hiwmor agos at yr asgwrn, chwiliwch am y dudalen ar Facebook. Mor ddoniol. Ond, mwy nag unwaith dwi ‘di gweld y person sy’n rheoli’r dudalen yn llawn dicter oherwydd y pedantiaid. Y bobl ‘na sy’n ymlusgo mas o’u tyllau bach, tywyll, yn gweiddi MAE FY NGHYMRAEG I YN WELL NA DY GYMRAEG DI wrth gywiro’n slei rhyw gamgymeriad treiglo. Dwedodd Bolycs Cymraeg wrthai bod “nifer sylweddol o bobol yn cysylltu yn uniongyrchol yn nodi eu pryder o safbwynt defnyddio’r Gymraeg ar cyfryngau cymdeithasol oherwydd y plismyn iaith. Dyw fy Nghymraeg i ddim yn wych, a neith o’m gwella, ond ti’n gwbod be? Dwi’n falch iawn o fy ngallu i siarad Cymraeg a na’i parhau i ddefnyddion fo, crap neu beidio.” Ychwanegodd ei fod yn dilyn y cyngor “Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic.”

Siaradodd y cawr o fyd rygbi, Jonathan Davies, yn gyhoeddus yn ddiweddar am y pwysau sy’n cael ei roi ar Gymry ym myd y campau i siarad “Cymraeg Gywir” –  siarad yn hollol gywir heb unrhyw wall. Nododd bod nifer yn anfodlon i ddefnyddio eu Cymraeg yn gyhoeddus gan eu bod yn poeni y byddant yn cael eu beirniadu a’u dilorni. Felly os yw iaith, diwylliant a hunaniaeth yn annatod, ydy’r targedau hawdd hyn yn cael eu gorfodi i wrthod eu Cymreictod rhag cael eu gwawdio?

Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain o agweddau sy’n hollol wrth-gynhyrchiol. Y peth yw, mae pendantiaid gramadeg Saesneg yn gyffredin. Maen nhw’n ddiflas ac yn anghwrtais ond maent yn cael eu hanwybyddu, gan fwyaf. Whatevs. Ond yn achos y Gymraeg, mae’r fath yma o feirniadaeth yn llythrennol yn atal pobl rhag defnyddio’r iaith. Gymerodd hi rhyw ddeng munud i fi gyfansoddi fy ymateb i sylw Facebook Debbie Downer gan fy mod yn poeni am fy nhreigladau ac am ddatgelu fy hunan fel rhywun nad yw’n Ddigon Da. Rwy’n gwybod bod nifer o’m ffrindiau ail iaith, a gafodd addysg Gymraeg fel fi, sy’n teimlo’n israddol i siaradwyr iaith gyntaf, yn enwedig o ran yr iaith ysgrifenedig. Neu’n fwy penodol, y rheiny’n sy’n credu bod gwallau yn arwydd o beidio â bod yn Ddigon Da. Neu’n Ddigon Cymreig.

Craidd y mater yw hyn : os ydym am gyrraedd y targed chwyldroadol ac uchelgeisiol yma o ddyblu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, mae’n rhaid i hyn ddod i ben. I normaleiddio’r iaith Gymraeg bydd angen ei chofleidio yn ei holl ffurfiau ac ar bob lefel o allu ieithyddol. Dylwn gefnogi a chymeradwyo pob ymdrech. Dywedodd Alun Davies ddoe hefyd bod y rhai sy’n parhau i bwyntio bys ac eistedd mewn barn ddirmygus gan feirniadu yn lle annog, yn chwarae rôl mewn lladd yr iaith.  Heb Iaith; Heb Genedl.

Gan Victoria Lewis

 

11 comments

  1. Erthygl gwych Victoria. Ond mae hyn yn digwydd ym mhob iaith, a mae na language pedants rownd y byd, felly rhywbeth I ddathlu. Mae’r bobl yna yn gallu dod drosodd yn hollol negyddol ond y gwir ydy mae’n profi bod nhw’n caru’r iaith llawer. Jesd rhan o dapestri cyfoethog ein iaith (rhan annoying).

  2. Dwi wastad yn defnyddio Cysill, sy’n rhan o Cysgliad ( http://www.cysgliad.com ) pan dwi’n ysgrifennu Cymraeg, er mwyn gwirio’r sillafu a gramadeg, mae’n well gen i allu cynhyrchu Cymraeg go lew, heb typos. 😉
    Hefyd, mae yna fersiwn ar-lein am ddim Cysill Ar-lein ( http://www.cysgliad.com/cysill/arlein/ ), ond darllenwch yr amodau yn gyntaf.

    Mae yna wirydd sillafu Cymraeg ar gael ar gyfer Firefox, LibreOffice a Microsoft Office ac mae’r rhain am ddim hefyd. Dwi’n cymryd na fyddai neb yn ysgrifennu Saesneg heb checio’r sgwigls coch… 🙂

  3. Erthygl gwych. Rhaid i bawb gofio fod plant yn ysgol gynradd dal yn datblygu ei iaith. Mae hyd yn oed plant oedran uwchradd yn dal i ddatblygu ei sillafu, gramadeg a’i treiglo.

  4. Erthygl gwych!
    .
    Mae rhaid i fi ddweud bod dw i wedi profiad o’r un peth dych chi’n siarad amdani.

    Dysgwr ydw i.

    Dw i wedi bod dysgu Cymraeg ers Nadolig. (Dw i’n rhedeg sianel YouTube ar gyfer dysgwyr fel fi)

    Dysgwr ydw i.

    Dw i wedi bod dysgu Cymraeg ers Nadolig. (Dw i’n rhedeg sianel YouTube ar gyfer dysgwyr fel fi) Dw i wedi siarad amdano fe yn fy erthgyl ar gwefan ‘ma yn fy erthygl (Wnes i dysgu Cymraeg – chi’n gallu neud e hefyd)

    At yr amswer O’n i’n dysgu am ddau wythnos neu rhywbeth fel hynny. Wnes i neud camgymeriad o ddangos fe un o fy fideos. Mae pawb oedd hapus gyda’r fideo. Wnes i cael llawer o sylw gwych ar ol neud e. Ond wnaeth fy hen ffrind yn casau fe!

    “You are doing the word order wrong!”
    “You’re saying ‘dw i’n’ – in the South we say Rwy’n!”
    “I don’t think you should make these videos until you’re a lot better!”

    O’n i’n siomedig clwyed rhywbeth fel hynny, arbennig am rhywun wnes i alw ffrind!

    Dw i’n eithaf cryf math o dyn rili. Felly, wnes i jyst sgwennu fe bant (wrote it off? Does that work? who knows?) Ond dwi’n nabod llawer o bobl pwy basai nhw wedi darllen neu clwyed rhywun dweud rhywbeth fel hynny a jyst stopio dysgu hollol.

    Chwe/saith mis wedyn. Dw i dal yn neud e. Dw i dal ddim yn gallu sgwennu llawer, ond gyda ‘Conversational Welsh’ dw i’n bron rhygl.

    Mae bobl fel dyn ‘na ddim yn gwybod beth math o ‘damage’ mae nhw gallu neud.

    Os bydd miliwn siaradwyr yn Cymru. Mae rhaid i ni disgwl llawer o nhw i dod o ‘Homes where several generations have grown up with no Welsh’ fel fi. Mae iaithiau datblygu, jyst fel Saesneg! Os Wnaeth Saesneg ddim yn datblygu, baswn ni dal yn dweud pethe fel “Where for art thou!”

    Mae’r iaith bydd datblygu, a siaradwyr fel ni dylai croeso nhw i’r teulu!

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: