Ble mae’r Mamau wedi mynd?

Bron i flwyddyn yn ol nawr, es i ati i lansio MABLI, http://www.mabli.co.uk cwmni dillad sy’n cynllunio dillad plant wedi’i gweu. Rydw i’n rhedeg y cwmni o’n cartref yn Sir Gar.

Cyn sefydlu MABLI,http://www.mabli.co.uk ‘o’n i’n gweithio yn Llundain, fel cynllunydd dillad wedi’i gweu. Roedd fy merch yn 2 oed, ro’n i wedi dychwelyd i’r gwaith ers tua blwyddyn a wnes i a fy mhartner benderfynnu ein bod ni am symud i fyw i Gymru (nol adref i fi, ond newid mawr iddo fe).

Roedd y ddau ohonom yn joio byw yn Llundain, a doedd hyn ddim yn benderfyniad rhwydd. Y broblem oedd yr hen gân, yr her i gael y balans iawn rhwng gweithio a byw, roedd yn rhaid i rhywbeth newid. Un diwrnod, wnes i ddarganfod fy hun yn beichio crio ar y llawr ar ol dod adre’ o’r gwaith, y foment honno wnes i benderfynnu ‘screw this’ – os taw dyma beth mae bod yn Fam sy’n gweithio yn y diwydiant ffasiwn yn gwneud i rhywun, mae’n rhaid i fi adael.

Mae’r diwydiant ffasiwn yn llawn merched. Ymhob cwmni rydw i wedi gweithio ynddo mae oleiaf 90% o’r gweithlu yn ferched. Yr hyn wnes i sylwi ar ol dod yn Fam, oedd bod yna fwlch rhyfedd rhwng gweddill y merched yn y swyddfa, a fi. Ble mae’r Mamau eraill wedi mynd? Oedden nhw wedi cael y foment ‘screw this’ hefyd?

Y prif reswm pan wnes i adael fy swydd, oedd oherwydd y diffyg cefnogaeth a hyblygrwydd oedd ar gael i sicrhau bod modd i fi fod yn llwyddiannus ac yn hapus ar yr un pryd. Dim problem gyda un cyflgowr oedd hyn chwaith, roedd yn rhywbeth cyffredin iawn yn y diwydiant.

Pan ges i gyfweliad ar gyfer swydd newydd, wnaethon nhw holi i fi a o’n i’n cynllunio i gael mwy o blant, oherwydd ‘roedden nhw’n gwmni bach, ac roedd cael staff ar gyfnod mamolaeth yn anodd iddyn nhw’. Efallai bod hyn yn wir, ond nid yw’n deg i holi’r cwestiwn. O’n i’n teimlo fel bod yn rhaid i fi ddweud celwydd a dweud nad oeddwn i eisiau mwy o blant. Ges i ddim o’r swydd, doedd hynny’n ddim syndod i fi. Mae’n rhaid fy mod i’n ormod o ‘risg’!

Roedd swydd arall, ond y tro hwn roedd y cyflogwr yn mynnu bod yn rhaid gweithio o 9 – 5:30. Yn y cyflweliad, wnes i esbonio y byddai’n rhaid i fi adael deg munud yn gynnar er mwyn casglu’r ferch o’r feithrinfa bob yn hyn a hyn, ond roeddwn i’n fodlon gweithio’n hwyrach ar ddiwrod arall, er mwyn cwblhau’r nifer o oriau roeddwn i fod i weithio mewn wythnos. Roedd fy rheolwr yn gadael i fi wneud hyn, ond o’n i’n gallu gweld yn ei llygaid hi ei bod hi’n ofni beth fyddai’r cyfarwyddwr yn dweud, felly roedd yn rhaid i fi ruthro allan yn llawn euogrwydd, gan obeithio na fyddwn i’n gweld y cyfarwyddwr ar y ffordd allan. Roedd hi’n arferol i’r staff gael y cyfarfod cyntaf am 07:30 ac aros nes 10 y nos. Doedd dim modd i fi gystadlu.

Ro’n in treulio’r dyddiau yn poeni, mae’n deimlad ofnadwy. Teimlad fel pe bai popeth ar fin syrthio’n ddarnau unrhyw funud, a bod dim ffordd i fi gyflawni holl ofynion y swydd, na gofynion bod yn rhiant. Hyd yn oed pan wnes i ddarganfod swydd gyda oriau hyblyg, roedd pobl yn fy marnu am ddefnyddio’r hyblygrwydd. Doedd dim ffordd i fi enill.

Mae’r sefyllfa yma yn gyffredin ac arferol, ac fel nifer o ddiwydiannau, mae bron fel pai’n rhaid i chi aberthu rhywfaint o’ch enaid er mwyn goroesi. Fel pe pai treulio pob awr posibl yn y swyddfa yn arwydd eich bod chi’n angerddol ac yn ufudd i’r swydd.

Dyma ble mae’r broblem. Dyma beth mae cyflogwyr angen sylweddoli. Ar ol dod yn Fam, roeddwn i wedi gweithio’n galetach nag erioed. Ro’n i’n cyflawni mor gymaint yn ystod fy amser yn y swyddfa. Doeddwn i erioed wedi treulio gymaint o amser yn gwneud gwaith o adref, ac ro’n i’n trefnu fy niwrnod mor drylwyr, i lawr i’r funud, er mwyn sicrhau bod modd i fi gyflawni mwy nag o’n i‘n meddwl oedd yn bosibl.

Angerdd, ymroddiad, uchelgais. Roedd y cyfan dal yno, ond oherwydd yr agwedd ‘one size fits all’, doedd neb yn gweld hyn. Dyma pam mae cwmniau yn colli y staff profiadaol, y rhai yn ei 30au, y rhai hynny oedd yn ei 20au sbel fach yn ol, ac sydd wedi gweithio mor ofnadwy o galed i gyraedd ble mae nhw yn eu gyrfa.

Dyma beth yw gwastraff gweithlu, bydd nifer o rhain byth yn dychwleyd.

Felly, mae’r profiad yma wedi fy arwain i ble rydw i heddiw. Mewn llai na blwyddyn, mae brand MABLI wedi mynd o nerth i nerth. Rydw i’n gwerthu’r nwyddau yn fyd eang, wedi enill gowbr am y busnes newydd gorau yng Ngowbrau Busnes De Cymru, ac rydw i ar fin cynllunio y pedwerydd casgliad. Rydw i hefyd wedi cael babi arall yn ystod y cyfnod yma.

Wrth i MABLI dyfu, byddaf yn cyflogi staff a hynny’n fuan. Fy uchelgais i fel cyflogwr yw i fod yn hyblyg a chefnogol i bawb, yn enwedig i’r Mamau hynny sy’n gweithio

Gan Lisa, o gwmni MABLI.

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: