Wrth feddwl am Cerys Matthews, y ddelwedd sy’n dod i’r meddwl yw cantores wyllt y band llwyddiannus Catatonia, neu’r ferch oedd yn chwifio’r faner dros y Cool Cymru, ond nid dyma’r Cerys cyfredol.

Heddiw mae hi’n dal i fod tu ol i’r meicroffon, ond yn cyflwyno rhaglenni radio neu deledu, yn hytrach na chanu, mae hi hefyd yn ysgrifennu llyfrau ac yn trefnu gŵyliau. Mae’r ferch wyllt o’r gorllewin wedi tyfu fyny, ac mae ganddi’r MBE i brofi hynny!

Mae Cerys yn Fam i dri o blant; Red Owen Abbot sy’n 7, Glynys Pearl y Felin Riddle sy’n 13 a Johnny Tupelo Jones Riddle sy’n 12. Wrth iddi gasglu Red o’r ysgol, cafodd Mam Cymru y fraint o sgwrsio gyda Cerys, ac roedden ni’n hapus i glywed hi’n gofyn i Red i ‘aros fana’ neu ‘dere yma’ yn y Gymraeg!

Dechreuodd y sgwrs yn naturiol wrth holi a oedd hi’n arferol i Cerys Matthews gasglu’r mab o‘r ysgol?!

Mae fy mywyd i yn cylchdroi o amgylch y diwrnod ysgol, ac rydw i wrth fy modd gyda fe. Fi’n dwli ar y strwythur mae hyn yn rhoi i fi, ‘dyw strwythur ddim yn rhywbeth sy’n rhan o fywyd pobl sy’n teithio gyda band neu’n gweithio yn y celfyddydau. Fy rol i nawr yw bod yna i’r plant, yn feddyliol ac yn gorfforol, i sicrhau eu bod nhw’n datblygu i fod yn unigolion hapus ac annibynnol o fewn y gymuned.

Pa mor anodd oedd hi i jyglo bywyd fel perfformiwr a bod yn Fam?

Fel rhiant, chi bob amser yn ceisio gwneud eich gorau, ond fydd e byth yn berffaith. Pan o’n i’n Fam sengl i blentyn 1 ½ a phlentyn 3 oed, ac yn teithio’r byd heb unrhyw fath o strwythur, ‘ro’n i wedi blino’n rhacs. Un o’n ffrindiau da wnaeth ddweud wrtha’i bod hi’n bwysig i gael y plant i fynd i’r gwely am 7 o’r gloch, fel bod cyfle gyda chi wedyn i gael amser i’ch hunan bob nos. Roedd hyn yn rhyw fath o ‘eureka moment’. Mae’n swnio mor rhwydd ond roedd e’n chwyldroadol i fi mywyd i fel Mam, roedd pethe’n llawer rhwyddach wedyn. Fel Mam, rydw i bob amser yn dilyn fy ngreddf. Rydw i bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella fy hun a dysgu, ond rydw i’n hyderus fy mod i y Fam orau y galla’i fod.

Ydy’n anodd i gadw traed y plant ar y ddaear pan mai ti, Cerys Matthews, yw ei Mam nhw?!

Na, mae’n rhwydd. Un o’r pethe gwaethaf gallwn ni wneud fel rhieni yw sbwylio nhw neu peidio dysgu nhw bod ‘NA’ a ‘TI DDIM YN CAEL’ yn bwysig. Mae fy mhlant i yn clywed y geiriau yma yn gyson. Hefyd, does dim ots beth yw eich swydd chi, fyddwch chi byth yn cool yn llygaid eich plant, a dyna fel ddylai hi fod.

Ti’n gweithio gyda Steve Abott, dy wr a rheolwr yn ddyddiol, ac rydech chi’n trefnu’r ŵyl y ‘Good Life Experience’. Ydy hyn yn anodd?!

 

Mae’n rhaid eich bod chi’n hoffi’r un pethau. Dydy hyn ddim yn radical na chwyldroadol ond mae’n bwysig. Pan ti’n cychwyn perthynas gyda rhywun dydy cofio hyn ddim bob amser yn rhwydd. Mae pethau eraill yn cael eu blaenoriaethu neu’n mynd yn y ffordd! Os chi’n hoffi’r un pethau, mae’n help mawr pan rydech chi’n treulio gymaint o oriau gyda’ch gilydd. ‘Dwi’n ceisio dysgu fy mhlant i am hyn, tra’n dweud wrthyn nhw am beidio mynd mas gyda neb nes bod nhw’n 30, peidio priodi, ond os ydyn nhw, rhaid gwneud yn siwr ei bod nhw’n HOFFI y person, mae hynna’n bwysicach na chariad a chwant.

I’r rhai hynny sydd ddim yn gwybod am y ‘Good Life Experience’, sut fyddet ti’n disgrifio’r ŵyl? https://www.thegoodlifeexperience.co.uk/

Mae’r cliw yn y teitl! Mae’r pwyslais ar gael profiadau ac am brofi pethau newydd. Cymdeithasu gyda pobl sy’n rhannu’r un meddylfryd, pobl diddorol; artistiaid, awduron, bragwyr ac yn y blaen. Mae bywyd wedi newid, fel pe bai ni’n gorfod cael mwy o bopeth, pethau di angen a pethau sy’n ddrwg i’r blaned. Mae’r ŵyl yn gyfle i greu atgofion a gwneud pethau, i weld crefftwyr wrth eu gwaith. Ryden ni eisiau eich cyflwyno chi i bobl o Manhattan sy’n creu bwyelli a phobl sy’n gwneud denim yn Shoreditch. Mae’n gyfle i ganu mewn cor, cwrdd â chogyddion byd enwog, dysgu sut i greu powlen neu nofio yn wyllt. Heb anghofio’r gwneuthurwyr gin a’r gerddoriaeth anhygoel! Dwi’n fussy gyda’r gerddoriaeth!

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn mis Medi ar stad Hawarden yn Sir y Fflint. Oedd hi’n bwysig i gynnal y digwyddiad yng Nghymru?

Teulu’r Gladstone’s yw perchnogion y stad, ac mae nhw’n ffrindiau da i ni. Roedden ni i gyd yn cael sgwrs am yr holl ŵyliau sy’n cael eu trefnu, ac er ein bod ni’n mwynhau mynd i rhain fel ymwelwyr a pherfformwyr, ni ddim yn hoffi’r ffordd mae’r digwyddiadau yma yn tyfu mor fawr ac yn dod yn fasnachol. Roedden ni eisiau trefnu gŵyl ble gall plant fod yn blant. Ble gall plant redeg o amgylch y lle a mwynhau, digwyddiad sy’n bwydo’r ymenydd a ddim jyst yn gyfle i fynd yn wyllt mewn cae. Gŵyl fydd yn eich ysbrydoli chi ac nid yn eich blino chi.
Mae stad y Gladstone’s yn le anhygoel ac mewn rhan hardd iawn o’r byd, felly roedd y penderfyniad am y lleoliad yn un hawdd. Ryden ni’n cydweithio ac yn falch o gael y cyfle i roi cyfle i’r teuluoedd i dreulio amser i ffwrdd o’r sgrins, i dreulio amser gyda’i gilydd yn gwneud pethau ymarferol a fydd gobeithio, yn creu atgofion hapus am oes. Mae defnyddio Cymru fel llwyfan ar gyfer y cyfan yn fonws anhygoel.

Mae Cymru yn amlwg yn bwysig i ti. Wyt ti’n magu dy blant yn ddwyieithog?

Rydw i yn siarad Cymraeg gyda nhw fel bod y plant i gyd yn ddwyieithog. ‘Dwi’n credu’n gryf bod dysgu mwy nag un iaith heb sylweddoli bod nhw yn, yn arbed llawer o amser a gwaith caled pan mae nhw’n hŷn. Mae hi hefyd yn llawer haws i ddysgu mwy o ieithoedd. Mae hi’n heriol achos Saesneg yw iaith ein cartref.
Mae fy ngwr wedi bod yn dysgu Cymraeg, mae e wedi bod ar gwrs yn Nant Gwrtheryn  ac mae e’n defnyddio’r adnoddau arlein gyda Say Something in Welsh, ond pan chi’n byw bywyd prysur yn Llundain mae’n anodd cael cyfle i ymarfer bob dydd, ac mae’n fwy o her pan ti’n byw tu fas i Gymru.

Wyt ti’n teimlo bod diwylliant Cymru yn rhan annatod o dy hunaniaith?

Ydw, dyma’r allwedd i ddatgloi pethe. Caneuon, llenyddiaeth, emynnau, y Mabinogion a Saunders Lewis. Heb yr iaith, byddai dim modd inni ddeallt y safbwyntiau gwahanol. Er hyn, mae’n bwysig i fi i beidio anwybyddu’r Cymry di Gymraeg sydd yr un mor Gymraeg a fi. Mae’r ddau lwyth yn bwysig. Yr hyn sy’n arbennig o ddiddorol i fi heddiw yw y sefyllfa gyfredol mewn cymunedau gwledig yng Nghymru. ‘Dwi’n dod o Sir Benfro ac mae’r iaith yn marw yno oherwydd bod yn rhaid i bobl adael yr ardal i chwilio am waith. ‘Dwi’n gofidio’n fawr am hyn.

Teyrnged fach i ‘Desert Island Discs’ efallai, ond beth yw’r gan sy’n cyfleu y Cerys Matthews sy’n sefyll yma heddiw?

What a wonderful world gan Louis Armstrong. Nid can sy’n cyfleu fi yn bersonol ond can sy’n cyfleu sut dwi’n teimlo am y bywyd gwyrthiol yma.

Beth fyddai dy ddiwrnod delfrydol?

Cyflwyno fy rhaglen radio ar Ddydd Sul. ‘Dwi’n caru’r gwrandawyr. ‘Dwi’n caru cael y cyfle i chware fy hoff gerddoriaeth i bobl sy’n hoffi’r un math o gerddoriaeth a fi – wedyn mynd adref at fy nheulu a bwyta cinio rhost gyda ‘Yorkishire Puddings’.

A gyda’r freuddwyd am y cinio rhost roedd hi’n amser i ffarwelio gyda Cerys, roedd ei mab yn ysu am gael rhannu manylion am ei ddiwrnod ysgol gyda’i Fam. Roedd Heulwen a fi wrth ein bodd gyda pa mor ‘normal’ oedd Cerys, mor alluog a mor gadarn ei meddwl.
Mae’n rhaid i fi ychwanegu, er nad ydy hi yn brif ganwr mewn band roc a rol erbyn hyn, ac er gwaethaf bod ei phlant hi’n siwr o anghytuno, mae Cerys Matthews dal yn uffernol o cwl!
Diolch yn fawr Cerys!

Gan Ashleigh Edwards, Mam Cymru.

Gadael Ymateb