Chwarae Meddal – Nefoedd neu Uffern?!

 

Nath fy mhrofiad diweddara o ganolfan ‘chwarae meddal’ fy narbwyllo unwaith ac am byth nad ydyn nhw i fi.  Roedd hi’n bwrw glaw ar fore dydd Llun, sef fy unig ddiwrnod cyfan gyda’r ddwy ferch.  Mae Melangell yn dair a Morfudd yn bedair mis.  Roedden ni wedi bod lan sbel fach, ac eisiau gadael y tŷ.  Dydyn ni ddim wedi mentro’n bell fel triawd eto; mae’r gorchwyl o ofalu am ddwy yn hytrach nac un mewn dinas yn fy nychryn i braidd, felly ar hyn o bryd dwi’n cymryd camau bach ac yn aros yn lleol.

Meddyliais felly byddai chwarae meddal yn syniad da, yn gyfle i Melangell waredu ar ei hegni.  Bant a ni i Coconuts ger y Barri.  Ni wedi bod yno i barti yn y gorffennol ac mi nath Melangell fwynhau.  Ond wrth i ni droi lan jest cyn 10 y bore roedd y lle ar gau.  Fi ddrysodd gyda’r amser (er mae’r wefan yn nodi dau amser agor gwahanol.)  Wel, fel allwch chi ddychmygu, roedd Melangell yn eu dagrau, fel tase rwbeth gwirioneddol ofnadwy wedi digwydd.  A’r peth yw, pan ma gyda chi ddau o blant bach, ma mynd i’r ymdrech o adael y tŷ, dim ond i weld bod y lle ar gau yn teimlo’n wirioneddol ofnadwy; mae’n hawdd colli perspectif.  Dim ots medde fi, awn i Mambo, un o’r llefydd Soft Play mwyaf yng Nghaerdydd.

Ffit Cymru – Ar-lein ar alw

Felly wedi bron i awr ers i ni adael y tŷ, ac ar ôl siwrne car llwyd a llawn conan, dyma ni’n cyrraedd Mambo, sydd ar ystad ddiwydiannol di-enaid ar gyrion Caerdydd.  Roedd Melangell wedi cwympo i gysgu a Morfudd wedi cysgu’r holl ffordd (diolch byth gan bod ganddi sgrech fel seiren).  Cyfle gret i fi gael nap yn y car cyn mynd mewn?  Na yn anffodus; roeddwn i’n marw eisiau pipi.  Felly dyma fi’n eistedd fan ‘na yn dala lan gyda ychydig bach o decstio ac yn trio peidio meddwl am ddwr.

Deffrodd Morfudd ac fe fwydais hi yn y car, ac wedyn dyma Melangell yn deffro, diolch byth.  Mewn a ni i Mambo.  Roedd tair gweithwraig wrth y til ar y ffordd mewn yn sgwrsio.  Roeddwn i’n sefyll yno am agos i funud heb iddynt edrych arnaf.  ‘Can I pay to go in?’ medde fi.  Dyma’r ferch yn cymryd fy nhaliad heb i’w llygaid gwrdd a’m rhai i o gwbl.  Nawr ma bod yn Fam newydd yn brofiad digon anodd, ynysig ar brydiau, sydd yn gallu rhoi ysgytwad i’r hunan hyder, felly roedd cael fy anwybyddu fel hyn yn ychwanegu at y teimlad o unigrwydd.  Dyliwn i fod wedi cwyno yn y fan a’r lle, ond nes i ddim; dwi’n rhy gwrtais a Chymreig weithie.

Ma Mambo yn aruthrol o fawr.  Mae ‘na fan i blantos tair a iau, a man arall i blantos sydd rhwng tair a phymtheg oed.  Ethon ni yn gyntaf i’r man i’r plant ifanca.  Roedd Melangell yn hapus yno am ychydig, ond roedd yn cael eu denu at y man mawr, ac roedd sgrechfeydd o fwynhad y plant ysgol oedd yno ar drip yn ychwanegu at swyn y ffram ddringo/man chwarae enfawr.  “Gai fynd fan ‘na Mami?” “Cei Cariad, ond cofia na fydda i’n gallu dod mewn atat.”

O’n i’n ei gweld hi’n mynd yn uwch ac yn uwch ac ymhellach ar y ffram ddringo, nes bod yr anochel yn digwydd. Mi aeth hi’n sownd mewn man anghysbell, ac oherwydd y modd mae’r gofod wedi ei osod yn Mambo nid oedd yn medru fy ngweld (mae trac rasio bach o flaen rhan o’r strwythur anferth).  Mae’n anodd gwylio eich plentyn yn anobeithio ac yn ypsetio, ond dyna oedd rhaid gwneud.  Ar ôl ychydig aeth dwy o’r plant ysgol i siarad â hi, ond do’n nhw ddim yn gallu ei symud gan ei bod wedi mynd i banig braidd.  Edrychais o’n hamgylch; nid oedd aelod staff i weld.  Doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn ymddiried yn ddigonol mewn pobl eriall i roi Morfudd iddynt pe fydden i’n dringo i ôl Melangell, felly bu’n rhaid i fi a Morfudd fynd ar antur gyda’n gilydd.

Gyda Morfudd yn fy mreichiau a fy nghalon yn fy ngwddf, mi ddringais, neidiais, gwasgais, a llithrais fy ffordd at y man lle’r oedd Melangell yn sownd.  Gafaelais yn ei llaw a lawr a ni yn araf.  Roedd cyrraedd mas o’r strwythur anghenfilaidd yn teimlo fel fy mod wedi cwblhau marathon, ac yn gymaint o ryddhad i’r dair ohonom.

Amser am snac glei.  Coffi mawr i fi, a sudd a chreision (Mam wael, ond y gwir yw, ro’n i eisiau pigo peth ohonynt hefyd) i Melangell, a bwbi i Morfudd.  Roedd y dair ohonom yn teimlo’n sigledig braidd wedi’r antur, ond yn llawn cyffro hefyd.  “Dwi’n gallu gwneud hyn, dwi’n gallu dod i le ridiciwlys fel hyn ar ben fy hun gyda dau o blant.”  Yn wir, yng nghanol yr egni cyffrous ni sylwais fy mod rhywsut, wrth godi fy nhop i fwydo Morfudd, wedi llwyddo i’w lapio rownd fy ngwddf.  Felly nid yn unig yr oeddwn wedi tynnu digon o sylw at fy hun drwy straffaglu’n lletchwith gyda babi bach i mewn i’r ffrâm ddringo, ond roeddwn wedi hefyd dangos fy mra a fy mol i bawb.  Cochais.

Ond y peth yw, dwi ddim yn meddwl y gwnaeth llawer o bobl dalu sylw.  Mae pob rhiant arall mor brysur gyda’u brwydrau teuluol personol dy’n nhw ddim yn becso beth mae pobl eraill yn eu gwneud, gan eu bod nhw yn aml yn profi anturiaethau mor epig yn ddyddiol.  Mae pob un ohonom yn rhy brysur yn trio cadw’n plant yn fyw (ac os yn bosib, yn hapus) i gymeryd sylw.

Wedi’r antur a’r snac, roedd y dair ohonom eisiau mynd gytre. Dim ond awr y treuliais i’n Mambo, ond roedd yn teimlo fel chwech.  Rhegais y lle, rhwng dagrau dramatig, yr holl ffordd ‘nol i Grangetown.  Sai’n gwybod pwy oedd balchach i gyrraedd adref a gwylio bach o Cyw!

Hoffwn orffen fy mlog drwy holi dau beth:

Tybed weithiau a fyddem ni fel Mamau yn gallu gwneud mwy o ymdrech i edrych o’n hamgylch i weld a oes rhiant arall yn stryglo rhywfaint?  Dangos ychydig mwy o chwaergarwch?  A allwn gynnig gwneud neu dweud rhywbeth bach i helpu’r person hynny?  Gwn y byddai gair bach, neu hydynoed gwen gan riant arall wedi gwneud fy mhrofiad yn Mambo i deimlo ychydig yn llai diflas.  (Byddai cael cydnabyddiaeth o’m bodolaeth gan y staff hefyd wedi gwneud i mi deimlo’n llai unig.)

Beth yw’r farn cyffredinol ar soft play; ai jest fi sydd yn ffeindio’r llefydd ‘ma’n waith caled?

Gan Rhiannon Williams

 

 

2 Comments

  1. non

    Diddorol Rhi. Wedi ca’l profiadau da yn Mambo a soft plays eraill (ac eithro pan mae’n bwrw ac yn brysur iawn yno neu pan ma G mewn mwd ofnadw). Ma ‘na siaradwraig Cymraeg hyfryd yno felly tro nesa (os ei di!!) tria edrych amdani, fe a’th hi mas or ffordd i ganu a siarad Cymraeg mewn parti y fues i iddo. yn gyffredinol wy’n deall be ti’n gweud a gallu gweld pam bo nhw’n hunllefus ac yn roi pen tost ond gyda bachgen mor egniol a byrlymus a G ma myn iddyn nhw wedi ac yn rhoi hoe bach ifi, er, sai di bod ers i O ddechrau cerdded a gan amla wy’n lwcus achos fyddai’n mynd gyda phlant yn hyn neu plant yn whar sy’n gofalu am G!
    hei, gyda llaw, os yw creision yn wael yna paid dod da fi, jiw ma G yn ca’l lot gwath na ny!! – pick your battles!!! 😉

  2. Elin

    Wedi teimlo rhyddhad wrth ddarllen hwn, teimlo union run fath am lefydd chwara meddal, a teimlo union run fath wrth fynd fy hun hefo’r ddau (G yn ddwy, A yn 4mis). Mi fasat ti wedi chwerthin fy ngweld yn gorfod dringo ar y trampolines yn yr Eisteddfod oflaen llwyth o bobl parchus a phlant oedd yn byhafio er mwyn llusgo fy mab oedd yn cael meltdown llwyr achos bod yr amser ar ben…a hynnu ar ol aros am ddeg munud i fynd arno gan drio egluro i hogyn bach penderfynol yn sgrechian crio bod rhaid aros ei dro🙈Ond, fel ti’n deud, ma pawb yn yr un gwch ac yn cael eu helyntion o dro i dro.xx

Gadael Ymateb