Gŵyl Rhif 6 – I Deuluoedd?

Rydw i newydd ddychwelyd adref (ac wedi cael cawod a bwyd cynnes) ar ôl diwrnod gyda’r teulu yng Ngŵyl Rhif 6, sydd wedi ei leoli ym mhentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog.

Mae Gŵyl Rhif 6 wedi bod ar fy rhestr ‘to do’ ers sawl blwyddyn, ond mae yna ddau beth sydd bob amser yn fy atal i rhag prynnu tocynnau; yr amseru gwael, mae’r digwyddiad bob amser yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos gyntaf yn yr ysgol ar ôl gwyliau’r haf, a’r ail beth ydy’r gost – rhwng £180 – £195 am docyn penwythnos i oedolyn, sy’n anodd cyfiawnhau ar ôl gwyliau’r haf! Yn ffodus, wnes i lwyddo i gael tocyn y wasg i fi a’r teulu, felly wnes i fynnu bod y gwr ac Elsi yn codi am 7 o’r gloch bore ‘ma! Felly, ydy hon yn Ŵyl i deuluoedd?

Mae Portmeirion tua awr o’n cartref ni, ac ro’n i wrth fy modd yn gweld nad oedd yna unrhyw ‘giw’ i fynd i mewn i’r maes parcio, sydd tua pum milltir o’r pentref ei hun. Doedd yr ail sypreis ddim cystal! Dysgu bod cost parcio yn £25! Waw! Mae’n rhaid talu efo arian parod hefyd! Yn ffodus doedd dim rhaid i fi dalu oherwydd bod gen i docynnau i’r wasg, ond alla’i ddychmygu bod hwn ddim yn groeso cynes i’r miloedd sy’n teithio yma i’r Ŵyl o bell ac agos! Aeth Gareth ati i barcio yn agos at yr allanfa, oherwydd yr holl straeon newyddion o’r Ŵyl yn 2016, pan roedd nifer yn ‘styc’ yn y maes parcio am amser maith oherwydd y glaw trwm – roedd yr un tywydd wedi glanio heddiw a doedd bod mewn cae mydlyd gwlyb gyda phlentyn 5 mlwydd oed ddim yn apelio!

Wedi’n arfogi gydag esgidiau glaw, ymbarel a cyn gymaint o gortex ag oedd yn bosibl i’w stwffio yn y bag, i ffwrdd â ni ar y bws (am ddim diolch byth) o’r maes parcio i’r Ŵyl. Cwmnïau lleol oedd yn rhedeg y bysys a’r gyrrwyr yn siaradwyr Cymraeg croesawgar. Doedd ‘na ddim llawer o Gymraeg i’w glywed ar ôl inni adael y bws! Mae’r Gymraeg ar goll ar wefan yr Ŵyl, yn y deunydd hyrwyddo a’r app hefyd, ac o ystyried bod Gŵyl Rhif 6 yn cael ei chynnal yma yng Nghymru, mae hynny’n siomedig iawn yn dydy?

Wedi glanio yn harddwch y fynedfa ym Mhortmeirion, roedd hi’n anneglur ble ddylai pawb fynd o fan hyn. Doedd dim map nag arwyddion i’w gweld ac roedd hyn yn rhwystredig iawn, yn enwedig pan mae gyda chi ferch fach gyffrous sydd ‘eisiau mynd’. Roedd hi hyd yn oed yn fwy rhwystredig i’r teulu gerllaw gyda bygis a llond llaw o blant bach! Doedd y stiwardiaid ddim yn gwybod ble roedd y ‘Little Big Top’ – yr adran i blant, felly dyma edrych ar yr app ar fy ffon, oedd yn wych iawn, er y diffyg Cymraeg, a darganfod ei fod wedi ei leoli dau gae i ffwrdd o’r fynedfa – llawer haws nag mae’n swnio! (ond nid i’r bygis!).

Roedd Gareth wrth ei fodd bod yn rhaid mynd heibio’r cwt bacwn ar y ffordd ac ro’n i wedi fy mhlesio gyda’r portaloos pinc! Roedd yna nifer helaeth o ‘le 6’ yn yr Ŵyl hefyd – newyddion da i rieni!

Wnaethon ni ddarganfod dwsinnau o stondinau bwyd ‘cwl’ iawn yr olwg ar hyd y ffordd, ac roedd dewis gwych o fwyd ar gael ar hyd a lled y safle a digon o ddewis ar gyfer y plant; pizzas, bwyd môr, bwyd Thai, bwyd Indiaidd, bwyd stryd, cynnyrch lleol a mwy, a doedden nhw ddim yn wirion o ddrud chwaith. Pan ddaeth hi’n amser cinio, rhannodd Gareth ac Elsi pizza am £8, a wnes i gamgymeriad, gan ddewis ‘scotch egg’ cynnes a sglodion tatws melys – doedd o ddim yn neis a ddim fi oedd yr unig un oedd yn cwyno am y stondin yma (wnai ddim rhannu manylion!).

Roedd yna ddewis helaeth o fariau ar gael hefyd! Pe na bawn i’n gwisgo fy het ‘Mam Gall’ heddiw, mi fyswn i wedi mwynhau profi’r holl amrywiaerth oedd ar gael o’r bariau pefriog i’r bar gin i’r tŷ rum a’r coctels a phopeth arall ar hyd y ffordd….ond ddim heddiw Heulwen!!

Wedi darganfod ardal y ‘Little Big Top’, esboniodd aelod o staff bod hwn yn ddatblygiad newydd am eleni, oherwydd cyn hyn, roedd holl weithgareddau’r plant yn yr awyr agored! Diolch i’r drefn am y pebyll heddiw oherwydd roedd hi’n glawio yn uffernol, ac roedden ni’n tri yn hen barod i gilio!

Wrth fynd i mewn i’r ardal, oedd wedi’i amgylchynnu gyda ffensys isel a diogel, daeth aelod doniol o griw y Rave a Roo draw at Elsi ac esgus ei chyfweld hi gyda sgitl blasting! Esboniodd y dyn bod yn rhaid iddi brofi ei bod hi’n ddigon doniol a chlen i ddod i mewn i’r ardal blant – roedd Elsi’n meddwl bod y dyn yn ‘hileriys Mam!’ Roedd criw y Rave a Roo yn wych, yn llawn egni ac wedi gwisgo mewn sequins, plu, sbecs doniol a glitter – sef mwy neu lai beth oedd pawb yn yr Ŵyl yn ei wisgo! Wrth sgwrsio gyda nhw, dysgais bod Rave a Roo yn rhan o gwmni adloniaint i blant o‘r enw Paper Chatterbox, a bod y cwmni’n anfon criwiau gwahanol allan i ddiddannu plant mewn digwyddiadau gwahanol – roedd rhain yn ddewis da!

Roedd y brif babell, sef y ‘Little Big Top’ a’r pebyll llai o faint, yn ddelfrydol ar gyfer plant dan 7 oed. Roedd adloniant yn cael ei ddarparu bob dydd nes 6yh ac mae’r holl weithgareddau gan gynnwys y crefftau, am ddim, sy’n gret.

Hoff bethau Elsi oedd addurno hwyiaid rwber ar gyfer y ‘Ducks Disco’, gwneud penwisgoedd ac anifeiliaid neon a hefyd y babell chwarae meddal a’r babell grefftau. Doedd y babell stori ar gyfer plant tawel, ddim yn apelio!! Roedd y plant yn cael dod a’r crefftau adref gyda nhw hefyd – sydd bob amser yn plesio Elsi a fi – ond ddim yn plesio Gareth, gan mai fo sydd fel arfer yn cludo’r ‘precious clutter’ – (fel mae’n ei alw) yr holl ffordd adref!

Wnaethon ni i gyd fwynnhau’r gweithgareddau plant, nes i Spectatoe Theatre berfformio’r hyn oedd yn cael ei alw yn ‘sioe theatr’, sef sioe am ddau ‘alien’ oedd yn glanio ar y ddaear ac eisiau i’r plant eu dysgu nhw am ein planed ni! Doedden nhw ddim yn gret! Byddai’n llawer gwell pe na bai nhw wedi dewis glanio yma heddiw, neu efallai dylien nhw wedi ymarfer rhywfaint cyn perfformio?! Roedd Gareth wedi gwylltio gymaint, nes iddo gerdded allan i ‘coolio’ lawr ac roedd Elsi yn ei dagrau ar y diwedd pan benderfynnodd un o’r aliens roi clogyn arni! Roedd yn amser inni adael!

Ar y ffordd i’r pentref ei hun, ges i bum munud i ymweld â’r farchnad dillad vintage – nefoedd! Yn anffodus, roedd hin bum munud byr iawn oherwydd daeth y geiriau cyfarwydd ‘dwishe mynd Mam’ ac i ffwrdd â fi rhag achosi mwy o ddagrau!

O’n i’n meddwl byddai mwy o stondinau, ond dim ond llond llaw o grefftwyr oedd yno, ac yn eu plith, stondin Cymdeithas yr Iaith, oedd yn cynnig sesiynnau Cymraeg mewn munud – syniad gret a braf oedd gweld unigolion a theuluoedd yn manteisio ar y cyfle i glywed a dysgu’r iaith.

O fewn y pentref ei hun, doedd dim darpariaeth penodol i blant a theuluoedd, ond roedd yr arlwy yn wych. Perfformiadau ar lwyfannau o amgylch yr ardd a’r goedwig a gweithgareddau o bob math yn yr adeiladau; o wersi ioga i sesiynnau ‘psychic’ a gwersi paddle board ar y traeth. Mae Elsi wrth ei bodd gyda cherddoriaeth a dawnsio ac roedd hi’n mynnu bod yn y rhes flaen yn yr holl berfformiadau! Fy hoff lwyfan i oedd llwyfan Gorwelion – sef llwyfan ‘Lost in the Woods’ a wnaethon ni fwynhau perfformiad Gretta Isaac a DJ Elan a Mari.

Wrth grwydro o amgylch y safle, wnes i ddim gweld llawer o blant a theuluoedd, ond mi wnes i deimlo dros y teuluoedd oedd yn straffaglu gyda’r bygis yn y mwd yng nghanol y goedwig (fy syniad i o uffern!) a llwyddodd Elsi i ddenu ambell blentyn i neidio i fyny ac i lawr gyda hi yn y pyllau mydlyd – Peppa style! Oherwydd bod y safle mor eang a gwasgaredig, ac o ystyried bod y tirwedd yn her, nid yw Gŵyl Rhif 6 yn Ŵyl hawdd na’r mwyaf diogel i deuluoedd, ac o ystyried bod dim llawer o staff i’w gweld o amgylch y lle, byddai’n hunllef i golli plentyn yma!

Wrth inni gerdded draw i ardal Castell Deudraeth i weld band press Llarregub yn perfformio, torrodd ymbarel Elsi, a sylwais innau bod pob rhan o fy nghorff yn wlyb erbyn hyn – hyd yn oed fy ‘nics’ (gormod o wybodaeth?!) felly am 04:30, dyma ni’n tri yn penderfynnu ei bod hi’n amser mynd nol i’r maes parcio ac i’r car cynnes – oedd ddim yn styc diolch byth!

Ar y cyfan, heblaw am y glaw – allwn ni ddim newid hyn, yr ‘aliens’-  sydd angen ymarfer a’r diffyg Cymraeg – sydd wir angen ei ychwanegu i bob elfen o’r Ŵyl, yn fy marn i, mae Gŵyl Rhif 6 yn ddigwyddiad cwl iawn sydd yn cynnig rhywbeth i bawb. Mae angen ehangu’r ddarpariaeth i blant, yn enwedig plant hŷn; llwyfan perfformio i blant a theuluoedd, disgo i blant neu ddisgo mud – rhai syniadau gawson ni wrth drafod yn y car. Mae wir angen darpariaeth Cymraeg i blant hefyd, byddai’n denu mwy o deuluoedd i’r Ŵyl ac yn gyfle i blant o tu allan i Gymru fwynhau ein iaith a’n diwylliant ni, rhywbeth ryden ni bob amser yn ei fwynhau wrth fynd i ddigwyddiadau tu allan i Gymru.

Wedi profi’r Ŵyl a rhyfeddu at faint y digwyddiad, ‘dwi’n credu bod y tocynnau, sy’n £180 – £195 yr un yn cynnig gwerth am arian, oherwydd mae’r amrywiaeth a’r rhaglen yn well na’r rhan fwyaf o ŵyliau rydw i wedi bod ynddynt, ac mae tocynnau’r plant yn rhad ac am ddim, sy’n wych!

Rydw i’n gobeithio dychwelyd blwyddyn nesaf i brofi’r gwersyll teuluol sydd ar y safle – ond ddim ond os ydy’n sych, oherwydd does dim cawodydd ar gael yma, a byddai hynny wedi gwneud i fi grio ar ôl y glaw trwm heddiw! Hoffwn i hefyd brofi’r arlwy sy’n apelio at Famau – yr ardal lles, y gwersi ioga a’r llawr dawnsio arbennig sy’n arnofio uwchben un o’r llynnoedd ar y safle – Gŵyl Rhif 6, dwi’n dod yn ôl – efo’n sequins a gortex!

Gan Heulwen Davies, Mam Cymru

One comment

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: