Byw gydag anabledd Heti

O’r eiliad gyntaf i chi’n gweld yr arwydd + yna ar y feiro beichiogrwydd, chi’n cynllunio ac edrych ymlaen at yr hyn a ddaw – edrych ymlaen at y 40 wythnos nesa o feichiogrwydd; edrych ymlaen at brynu nwyddau a dewis y pram gorau; edrych ymlaen at ddewis, a dadlau, gyda’r gŵr am enw ac addurno’r ystafell.

Wrth gwrs, fe fydd pob darpar riant yn poeni rhyw ychydig am y sgan 20 wythnos ond wedi i chi gael y bawd gan y radiograffydd, chi’n parhau i freuddwydio am eich bwndel bach newydd chi ac edrych ymlaen i’r holl gyffro a ddaw.

Felly, fe ddaeth hi fel sioc anferthol i ni ddarganfod trwy’r system ‘new born hearing screening’ fod ein merch fach berffaith ni, Heti, yn fyddar.

Roedd hyn bron i 8 mlynedd yn ôl bellach ac wrth edrych nôl mae’n anodd credu ein bod ni wedi dod trwy’r dyddiau tywyll yna ar y dechrau a dod allan y pen arall yn gwenu.

Wrth edrych nôl, mae’r wythnosau a misoedd cyntaf wedi geni Heti yn un cymysgfa fawr, aneglur o sioc, siom, apwyntiadau a dagrau.  Wedi diwrnodau o brofion fe wnaethom ni ddarganfod fod Heti yn gwbl fyddar – doedd dim nerfau yn cysylltu ei chlustiau hi gyda’i hymennydd hi. Ni fyddai hi byth yn clywed dim.

Fi’n cofio eistedd yn yr ystafell fach ‘sound proof’ yna yn yr ysbyty yn gwrando ar ddiagnosis y doctor a meddwl ‘Beth? Dim fi? Dim ni? Nid ein babi bach perffaith ni?’ a meddwl shwt ar wyneb daear o ni’n mynd i fynd ati i ddysgu’r bwndel bach yma sut oedd arwyddo? Ma’ fe fel gofyn i rywun siarad Eidaleg gyda’i plentyn a nhw ddim yn deall gair o’r iaith. Ond dysgu bu raid.

Pan chi’n darganfod am y tro cyntaf fod yna anabledd ar eich babi chi, mae popeth fel petai yn llythrennol yn cwympo lawr o’ch amgylch chi – dyna shwt o ni’n teimlo. Er ei fod yn ychydig o cliché i ddweud hyn, fe o ni wir yn teimlo mod i yn colli rheolaeth yn llwyr ar bopeth. Ac er bod pawb yn dweud eu bod nhw yn deall, chi’n teimlo fel sgrechian arnyn nhw i gau eu cegau achos dydy nhw ddim!

Fi’n credu i fi lefain bob dydd am ryw 6 mis – weithiau o flaen fy ngŵr i Rhys neu Mam neu gyda ffrind, weithiau yn gyhoeddus wrth ddal fy hunan yn mwynhau cerddoriaeth ar y radio a sylweddoli nad oedd Heti yn ei glywed, ac weithiau yn dawel bach adre ar fy mhen fy hunan.

Cafodd Heti fewnblaniad ABI (Auditory Brainstem Implant) pan oedd hi’n 2 oed yn ysbyty plant Manceinion a bellach mae hi’n gallu clywed peth ac yn dechrau siarad a chyfathrebu gyda ni.  Mae hi wastad yn mynd i fod yn ddibynnol iawn ar arwyddiaith ond mae’r ffaith eu bod hi’n clywed peth trwy’r mewnblaniad yn wyrth!

Heti a’i brawd mawr Gruff.

Wrth edrych nôl dros yr 8 mlynedd ddiwethaf sai’ i cweit yn siŵr sut wnaethom ni ddod trwyddi. Un peth sy’n sicr, roedd help teulu a ffrindiau yn hynod bwysig ac os fyddem ni’n rhoi unrhyw gyngor i fam arall yn yr un sefyllfa, dyma beth fyddem ni’n dweud:

Cymerwch bob help sy’n cael ei gynnig i chi – mae’n ddigon caled i ddelio gyda chael babi newydd a magu plentyn 3 oed hefyd heb sôn am orfod delio gyda’r ffaith fod eich babi chi gyda rhyw anabledd.

Os chi am lefain gwnewch hynny! Peidiwch bod ofn llefain – gadwch iddo fe gyd ddod mas – ma’n wir, fe fyddwch chi’n teimlo LOT gwell ar ôl hynny!

Ewch a rhywun arall gyda chi pan chi’n mynd i weld arbenigwyr – mae cymaint o wybodaeth yn cael ei daflu atoch chi am gyflwr eich plentyn mae’n beth da i gael rhywun arall yno i gofio’r manylion bach hynny.

  • Gofynnwch y cwestiwn twp yna – mae nhw yn siarad am eich plentyn chi, felly os nag i chi’n rhy siŵr o rywbeth mae’r arbenigwr wedi ei ddweud neu ddim yn deall rhywbeth – gofynnwch.

    Byddwch yn barod i bobl ofyn cwestiynau – yn enwedig plant a hen bobl o fy mhrofiad i! Gan amlaf ma’ nhw yn gofyn allan o gonsyrn i chi a’r plentyn – cymrwch yr amser i esbonio – mae’n anodd ar y dechrau ond fe ddaw hi’n haws, dwi’n addo.

  • Os oes plant eraill gyda chi, peidiwch a teimlo yn euog am nad ydych chi yn rhoi cymaint o amser iddi nhw. Fe fydda nhw yn iawn.

    Ond cofiwch hefyd i esbonio pethau iddyn nhw – mae’n anodd ond fe fydda nhw yn ei werthfawrogi yn y pen draw.

    Ceisiwch beidio gwylltio pan chi’n clywed mam arall yn cwyno am fod eu plentyn nhw ddim yn cysgu / yn sâl / ddim yn eistedd fyny eto ac yn y blaen. Dyna eu byd bach nhw a ‘di nhw ddim yn meddwl bod yn ansensitif! Dwi wedi, ac yn dal i, orfod cnoi fy nhafod yn aml pan fydd ffrind yn cwyno am rywbeth bach sy’n bod ar eu plentyn nhw – rhywbeth sydd i weld yn ddibwys i chi gan fod cymaint mwy gennych chi i ddelio gyda. Cnowch eich tafod ac anghofiwch amdano.

    Yn olaf, ond yr un mwyaf pwysig yn fy marn i – mwynhewch eich plentyn. Beth bynnag fo anabledd eich plentyn chi, cofiwch taw babi bach / plentyn bach ydi nhw – eich babi bach CHI. Eich babi bach hyfryd, perffaith, annwyl chi a mwynhewch bob eiliad achos mae amser gwirioneddol yn hedfan.

Bellach, mae Heti yn 8 oed ac yn llawn bywyd. Mae ei sgiliau arwyddiaith yn cynyddu o hyd ac mae hi’n yw bywyd llawn – mae hi’n mynd i chwarae pêl rwyd ac yn nofio, ac yn mynd i wersi coginio – yn union fel pob merch fach arall 8 oed. Dwi’n cyfaddef, ‘dyw hi falle ddim yn cael yr un rhyddid a’i brawd hi pan oedd e ei hoedran hi, am fy mod i yn poeni mwy amdani hi, ond ar y cyfan mae bywyd yn grêt.

Oes, mae ganddi anabledd a fydd hi byth yn clywed yn iawn – ac ydw dwi’n pryderi am eu dyfodol hi – i ble fydd hi’n mynd i’r ysgol uwchradd, sut fath o swydd geith hi, sut fath o ffrindiau – OND- mae gennym ni ferch fach hyfryd, gariadus, annwyl a phenderfynol iawn a bydde ni ddim yn ei newid hi, na’r 8 mlynedd ddiwethaf am y byd.

Dwi’n grediniol fy mod i’n well rhiant oherwydd y profiad.

Gan Elin Williams

One comment

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: