Dad Caerdydd – Dad y Mis, Medi 2017!

Mae Mam Cymru wrth ein bodd yn clywed gan Dadau led led Cymru a thu hwnt, fydden ni ddim yn Famau hebddoch chi wedi’r cyfan! Yr wythnos hon, cawsom yr erthygl hyfryd hon Dad di enw o Gaerdydd! Wyddon ni ddim pwy wyt ti, ond ryden ni wedi pendrfynnu mai ti sy’n cipio’r teitl Dad y Mis, Mam Cymru ar gyfer Medi 2017. Llongyfarchiadau!

Mwynhewch yr erthygl ddoniol a gonest am ei brofiad o ddod yn Dad am y tro cyntaf!

Tir Newydd

Roedd yna eiliad, pum niwrnod ar ôl genedigaeth ein merch, pan sylweddolais bod fy mywyd wedi newid cyfeiriad rhyw fymryn.  Roeddwn i’n cerdded trwy Farchnad Ffermwyr Riverside yng Nghaerdydd, gyda fy Mam-yng-nghyfraith, yn ceisio ffeindio bresych siâp addas, er mwyn lleddfu bronnau fy ngwraig.  Dyna’r eiliad.  Jyst fanna.  Pryd sylweddolais fod pethau wedi newid.  Am byth.  Roeddwn I wedi camu i diriogaeth newydd.

Roedd Bresych, Bronnau, a Mam-yng-Nghyfraith yn eiriau nad oeddwn erioed wedi disgwyl eu cyfuno yn yr un frawddeg.

Nol a ni bum niwrnod ac roeddwn i’n eistedd wrth ymyl y pwll, nid ar wyliau ond yn penlinio wrth ymyl pwll geni Ystafell 14a yr Uned Famolaeth yn nwfn yn Ysbyty’r Waun yng Nghaerdydd.  Roedd fy ngwraig yn dangos lefelau cryfder goruwchnaturiol, lefelau ffocws tebyg i arch-bencampwr gwyddbwyll, gan aros yn hollol calm.

Yn y cyfamser, roeddwn i’n chwilota’n wyllt ar fy ffôn am gerddoriaeth briodol i sylwebu moment mwyaf anhygoel ein bywydau ni hyd yma.  Nid tasg hawdd, ond un eithaf dibwys o’i gymharu â’r wyrth yr oedd fy ngwraig yn ei gyflawni ar yr un amser – gwthio bod dynol arall allan ohoni hi hun ac i’r byd.  Ac i wneud pethau’n waeth, roedd fy ngwraig wedi gofyn i mi sawl gwaith yn ystod y misoedd diwethaf i baratoi playlist o ‘gerddoriaeth geni’ ar gyfer y diwrnod mawr … ac roedd ar fy rhestr to do…reit ar y brig …ond do’n i heb ei wneud… roedd y babi wedi dod yn gynnar, ac erbyn hyn roedd hi bendant yn rhy hwyr.  Ac roedd batri fy iPhone yn rhedeg yn isel.  Roedd y pwysau ‘mlaen, ac ro’n i’n cyfrifo fod angen i’r babi gyrraedd o fewn 45 munud os oedd y gerddoriaeth i bara’r cyfnod.

Pan ddaeth pen y babi allan, roedd yn gwynebu i lawr yn y dŵr, ac roeddwn ar fin plymio i mewn i’w achub (fel pe bawn ar Baywatch) Dydy hi ddim yn gallu boddi” meddai’r fydwraig yn rhagweld fy mhanig, dydy hi ddim gwybod sut i anadlu eto.”

Roedd hwn yn un o sawl datguddiad anhygoel, mind-blowing a oedd wedi bod yn chwalu fy mhen ers i’r dosbarthiadau NCT gychwyn.  Stwff fel bod y babi ond yn gallu gweld mewn du a gwyn i ddechrau.  Neu sut bod bronnau’r fam yn gallu adnabod salwch yn y plentyn dim ond drwy’r gysylltiad â cheg y babi, ac yna’n darparu llaeth newydd, gyda set ychydig yn wahanol, o faetholion a all helpu i’r babi deimlo yn well.

Mind. Blowing.

Roedd y bydwragedd yn anhygoel.  Roedd tair ohonynt wrthi, fel muskateers, pob un ar business end y twba poeth.  Wedi’i leinio i fyny fel maeswyr criced yn y slips.  Roeddent yn rhoi adborth, yn cynnig tips, anogaeth, cyfeiriad ac ysbrydoliaeth. #MidwifeSquad

Pan gyrhaeddodd y babi o’r diwedd, roeddwn am fod y cyntaf i adnabod y rhyw.  Yn awyddus i wneud rhyw fath o gyfraniad at y foment ryfeddol hon… “BACHGEN!” meddwn i, cyn i dair bydwraig a ngwraig droi atai mewn cytgord a dweud “MERCH.”

Roeddwn wedi camgymryd y llinyn bogail am bidyn.  Mewn gwirionedd dim ond un pidyn oedd yn yr ystafell a fi oedd honno.

Yn fy amddiffyniad, roedd gan ein babi gnwd trwchus o wallt du, wedi’i sbeicio fyny fel pync.  Roedd fy ngwraig yn ei dal yn dynn.  Roeddent yn edrych yn anhygoel gyda’i gilydd.

Roedd y pwll geni yn edrych fel crime scene.

“Hoffech chi dorri’r llinyn?” dywedodd un o’r bydwragedd wrth roi siswrn i mi a chyfle i adennill fy hun.  Roedd yn fwy o orchymyn na chwestiwn.  Roedd y llinyn bogail o dan y dŵr, roedd gwaed a sylwedd o’r enw lanugo yn cymylu fy ngolwg, ond es i amdani.  Cymerais dri snip ychydig yn sinsir cyn llwyddo i dorri drwyddo. Roedd yn llawer cryfach nag yr oedd yn edrych!

Treuliwyd yr oriau nesaf gydag amryw o arbenigwyr yn ceisio tynnu’r placenta o groth fy ngwraig.  Proses ddelicet ofnadwy, nid yn anhebyg i’r milwyr hynny sy’n diffodd bomiau mewn ffilmiau o’r enw ‘Hurtlocker.’  Pan lithrodd y placenta allan o’r diwedd, roeddwn yn synnu pa mor fawr ydoedd.  Dyma nyrs yn garedig iawn yn ei ddal fyny o’n blaenau a’n siarad drwy ei ddyluniad a’i swyddogaethau.  Doeddwn erioed wedi cymaint â meddwl am blacenta, heb sôn am weld un fyny yn agos.  Tir newydd unwaith eto.  Gofynnodd y nyrs a oeddwn am fynd ag e adre.  Gwrthodais.

Yn ystod y 24 awr nesaf, fe’n symudwyd rhwng ystafelloedd a wardiau wrth i nifer o staff meddygol fesur, pwyso, ymestyn, prodio, a thynnu ein merch fach newydd sbon.  Mewn lifft rhwng un llawr ag un arall, gwelodd nyrs hŷn ein babi gyda’i mop o wallt rhyfeddol cyn edrych arna i a dweud “Mae ganddi fwy o wallt na’i thad!”

Mae’n dda gweld yng nghanol yr holl boen a’r dioddefaint y maent yn dyst iddynt, fod y nyrsys ‘ma yn llwyddo i gadw eu synnwyr digrifwch Prydeinig.  Edrychais yn nrych y lifft gan ystyried fy hairline.

Mae’r NHS yn debyg i westy gyda’r staff gorau yn y byd, gwasanaeth 5 seren anhygoel gyda concierge 24/7 yn dosbarthu cymorth, cefnogaeth a chyngor arbennig.  Fodd bynnag mae’r addurn, y bwyd a’r dodrefn yn debycach i Butlins na’r Hilton; waliau sydd angen cot o baent, lifftiau sydd angen gwasanaeth, toiledau sydd angen eu glanhau.  A bwyd sy’n galw allan am ymgyrch Jamie Oliver.

Yn ffodus, ni chefais i samplu unrhyw beth yr oedd ceginau’r ysbyty yn eu gweini, gan fod gwragedd cinio Ysbyty’r Waun yn ymddwyn fel cymeriadau Dickensian, o olygfa mewn cartref amddifad Fictorianaidd, gan ddosbarthu’r slop yn gyndyn iawn.  Doedd eu gruel yn bendant ddim ar gyfer tadau.

“Te cariad?” meddai aelod tebyg o’r tîm arlwyo wrth iddi ddod mewn i’n hystafell. “Ie plis!” meddwn i, cyn iddi ateb yn ôl yn swta “Ddim y chi.  Does dim te i chi, dim ond ar gyfer eich gwraig.  Does dim hawl gan bartneriaid i gael te na unrhyw ddiod poeth arall, nac unrhyw fwyd.  Dyw DDIM ar eich cyfer chi.”

Nawr dwi’n cyfaddef nad oeddwn wedi gwneud unrhyw beth yn agos mor arwrol â ngwraig, ond siawns na allent sbario cwpanaid o de i bartner a oedd wedi bod yn eistedd mewn cadair blastig am 48 awr?  Rwy’n gwybod bod arian yn dynn yn yr NHS ond dydy paned o de ddim yn lot i ofyn amdani!

Es i i nol fy nghar.  Nawr dyma rybudd ar gyfer tadau’r dyfodol: mae parcio car yn Ysbyty’r Waun, Caerdydd yn her a hanner.  Mae fel trio dod allan o un o’r llefydd Escape Room hynny.  Unwaith eto, nid mor ddrwg a rhoi genedigaeth, ond yn eithaf anodd serch hynny.

Roeddwn wedi prynu car newydd.  Yn enwedig ar gyfer y diwrnod hwn. Ac yr oeddem wedi prynu sedd car Maxi Cosi newydd sbon.  Tynnais y sedd ac fe es i gasglu fy merch fach.  Mae’r daith allan o’r ysbyty yn frawychus.  Y babi bychan bach hon, sy’n dibynnu arnom ni i ofalu amdani.  Y siwrne adre oedd yr arafaf, mwyaf gofalus erioed.  Tua 15 mya.  Er hynny, mae’r daith go iawn ond newydd ddechrau.

Gan Dad Caerdydd.

*Os ydech chi’n Dad sydd eisiau cyfrannu I’r blogzine mewn unrhyw ffordd, e bostwich ni ar mam@mamcymru.wales

*Hoffai Mam Cymru ddiolch i Elen Clwyd am gyfieithu’r erthygl hon. Os hoffech ein helpu ni trwy gyfieithu erthyglau i Mam Cymru, cysylltwch!

Gadael Ymateb