Yn gaeth i siwgr

I ddefnyddio ymadrodd sy’n cael ei orddefnyddio ar hyn o bryd – “Rydw i ar siwrnai”, a dyw hi ddim yn un hawdd chwaith.

Fy enw i yw Ann ac rydw i wedi bod yn gaeth i siwgr ar hyd fy mywyd.

Gan nad ydw i dros fy mhwysau, does neb yn fy nghredu i fod siwgr wedi cael gafael arnaf o ddifri a’m mod i wedi bod yn ceisio rhoi’r gorau iddo fwy neu lai trwy gydol fy mywyd fel oedolyn. Ar fy mhen-blwydd yn 20 oed fe wnes i ddweud wrth fy hun y byddwn i, unwaith ac am byth, yn rhoi’r gorau i’r arfer hwn. Mi fethais. Fe wnes i ailadrodd yr addewid ar fy mhen-blwydd yn 30. Mi fethais. Fe wnes i ailadrodd yr addewid unwaith eto ym mis Mai eleni, ar fy mhen-blwydd yn 40 oed. Rydw i’n gwneud fy ngorau, ond unwaith eto, rydw i’n methu.

Ar ôl gwersi ballet yn 3 oed, mynd i’r siop gyda fy 10c oedd uchafbwynt yr wythnos ac roedd hi’n benderfyniad anodd rhwng bar Highland Toffee, Wham falle, neu gwpwl o’r cwpanau siocled bach yna yn eu ffoil rhychiog. Nawr ac yn y man, fyddwn i’n dewis cwpwl o cherry lips, sherbet pips, neu ychydig o Refreshers. Yn bendant rhai Black Jacks a Fruit Salads, a phecyn neu ddau o Spangles, Pacers, neu Tooty Frooties. A’r wyddor galchog ryfedd yna? Wrth fy modd. Wrth. Fy. Modd. Gallwn lanw’r blog cyfan hwn yn mwynhau’r atgofion melys o fy ngorffennol.

Roedd siwgr yn arfer bod yn trît, ac wedi’i gyfyngu, fel y dylai fod; i mi, roedd wedi’i gyfyngu i foreau Sadwrn. Wrth imi dyfu’n hŷn, roedd gennyf fwy o arian trwy amryw ffynonellau – arian poced, fy rownd bapur, swydd penwythnos yn yr adran lysiau yn Somerfield: roedd gennyf arian i’w wario, ac yn anffodus, dyna fyddwn i’n ei wneud wrth imi frysio i’r siop bapur newydd. Dyna pryd y gafaelodd y ddibyniaeth arnaf, ac mae’n dal i afael yn dynn.

Yn hapus fy myd, ar ddiwedd fy 20au, fe gwrddais â dyn oedd wrth ei fodd â siwgr hefyd; byddem yn treulio ein nosweithiau yn gwylio gormodedd o 24 ac yn bwyta gormodedd o lolipops Mr Frosty a Rainbrow drops. Fe dyfodd e allan o’r cyfnod hwnnw, ac fe ddychwelodd i’r diet cytbwys a’i ddannedd gwych. Rydw i’n rhyw amau ei fod wedi esgus bod yn gaeth i siwgr i fy hudo i’r gwely, neu i’m cael i’w briodi. Naill ffordd neu’r llall, fe lwyddodd, ac mae hynny, o leiaf, yn beth da.

Pan oeddwn yn feichiog gyda fy mab cyntaf, roedd llosg cylla ofnadwy yn gynnar iawn yn golygu bod fy niet yn weddol gyfyngedig: tatws pob gyda chaws a ffa, diodydd blodau ysgaw pefriog diddiwedd, ac ysgytlaeth mefus. Wrth geisio canfod fy nhraed yn ystod niwl y babi cyntaf, fe ddefnyddiais siocled er mwyn rhoi hwb hawdd i’m hegni. Yn gyson. Trwy gydol fy ail feichiogrwydd a’r misoedd cyntaf gyda’r efeilliaid, dilynais yr un patrwm. O, yr euogrwydd, y gallai fy nibyniaeth arwain at fy mechgyn yn dioddef diabetes yn ddiweddarach yn eu bywydau …

Nid trît ar foreau Sadwrn yw siwgr bellach, mae’n rhan hanfodol o fywyd ac mae ar gael yn rhwydd ac yn farchnad anferthol gyda miliynau o ffans brwdfrydig (neu ai gweision ydym ni?). Mae’n rhan o fywyd bob dydd y mae llawer o blant yn ei gymryd yn ganiataol ac yn ei fynnu, ac mae rhieni yn ei ddefnyddio fel byrbryd cyflym cyn y llu o weithgareddau ar ôl ysgol. Rwy’n ei gasáu. Rwy’n casáu’r gafael sydd ganddo arnaf, a’r pryder yna yng nghefn fy meddwl ar ôl gwrando ar bodcast sy’n awgrymu ymhen 20 mlynedd, bydd siwgr yn cael ei ystyried yn yr un ffordd ag ysmygu ar hyn o bryd.

Mi es i weld iachawr naturiol ar ôl cyfnod o deimlo’n anhwylus. Efallai fy mod wedi rhoi gormod o wybodaeth iddi trwy ysgrifennu ar fy ffurflen fy mod yn fam flinedig i 3 gyda swydd lawn amser a dibyniaeth ar siwgr. Ar ôl mynd ag ychydig flew o fy ngwallt, fe chwaraeodd offeryn (wel, dyna fel yr oedd yn edrych) gan ddweud wrthyf am yr holl ddiffygion fitamin a mwynau sydd gennyf mae’n debyg (fe allai hyn fod yn wir, neu beidio – mae fy meddwl yn agored i iechyd amgen). Yna fe ddywedodd wrthyf fod yn rhaid i mi roi’r gorau i’r siwgr oherwydd bod lefel y siwgr yn fy ngwaed yn sbigo a disgyn yn gyson, sy’n arwain at fy niffyg egni. Ar ôl talu’r ffi, mi gerddais allan a llwyddo i osgoi’r stwff drwg am fis. Ar ôl ychydig ddyddiau o gur pen a dringo’r waliau, fe ddechreuais deimlo’n wych. Yn llythrennol, rhyfeddol. Roedd fy hwyliau yn sefydlog, roeddwn yn teimlo’n well am fywyd, ac am y tro cyntaf ers yn blentyn, roeddwn yn deffro yn y bore heb gloc larwm a doeddwn i ddim yn teimlo’n flinedig. Fel oedolyn, doeddwn i erioed wedi codi allan o’r gwely mor hawdd.

Ac yna aethom ar ein gwyliau i’r Eidal. Gan fwrw’r hufen ia a’r siocled, yn galed, yn gwbl hyderus y byddwn i’n gallu rhoi’r gorau i’r siwgr yn hawdd unwaith eto ar ôl dychwelyd adref. Pa mor ffôl oeddwn i? Yn amlwg mae’n debyg i unrhyw ddibyniaeth arall, dydw i ddim yn gallu bwyta bar o siocled a chredu bod y cyfan dan reolaeth; Siwgr sydd yn fy rheoli i. Bellach, mae’i afael yn dynn amdanaf unwaith eto, y Crunchie cudd wrth lwytho’r peiriant golchi dillad, y llond llaw o buttons siocled wrth i mi esgus edrych am y cit rygbi, fy 2 Nobbly Bobblys cyn gwely pan fydd y plant yn cysgu’n drwm. Ie, 2, ych. Rwyf wedi dychwelyd at fy hen ffordd, a bob bore, pan fydd y cloc larwm yn fy neffro o fy nhrwmgwsg, rwy’n teimlo fel pe bai gordd wedi fy mwrw ar fy mhen. Dw i wedi blino drwy’r amser, a dwi’n gwybod pam. Nid oherwydd diffyg cwsg (rwy’n cael fy 8 awr yn rheolaidd), ac nid y swydd lawn amser, ac nid y plant chwaith. Y siwgr sydd ar fai. Dw i’n gwybod mai’r siwgr sydd ar fai achos dwi’n teimlo’n wahanol hebddo. Roeddwn i’n teimlo’n llawer gwell. Roedd popeth yn well.

Rhaid i mi ddychwelyd i’r fan honno, ac felly mae’r darn hwn yn golygu bod fy ymrwymiad yn gyhoeddus. Rydw i eisiau teimlo fel yr oeddwn i am y cyfnod dedwydd, byr hwnnw ar ddiwedd Mehefin pan oedd y cyfan dan reolaeth. Roedd hynny, wel, yn felys.

Ann Thomas, benyw sy’n gweithio’n llawn amser, newydd gyrraedd fy 40au ac yn ceisio hunan-welliant a chyfrifoldeb amgylcheddol ac yn rhywun 40 oed sy’n dwli ar Instagram a podcasts… dw i hefyd yn fam i 3 o fechgyn. Bechgyn gweddol dawel, felly does dim cymaint o chaos ag y byddech chi’n dychmygu. Yn ffodus, maen nhw’n dal i fwynhau cwtshys a swsus a dal eisiau mam i dwymo’r gwely gyda nhw yn y nos. Mae fy ngŵr yr un peth, felly mae bywyd yn dda.

Diolch i Lowri Schiavone am gyfieithu’r erthygl ar ran Mam Cymru!

 

 

11 Comments

  1. Beth

    Dwi wir wedi mwynhau darllen hwn, mae o’n union fel dwi’n teimlo ar hyn o bryd. Mae’n teimlo bo fi mewn brwydr dyddiol hefo siwgwr ond does neb yn i weld o. Mi fyswn ni wrth fy modd cael yr yn gefnogaeth a petawn ni’n rhoi gorau i alcohol neu smygu ond dwi ddim yn gweld dim byd allan yna. Dwi’n deffro bob bore yn meddwl dyma’r dydd bydd o ddim yn cael y gorau ond mae’r siwgwr wastad yn ennill, pob hwyl hefo’r sialens. Mae’n braf clywed am rywun arall sy’n brwydro, gobeithio byddi di’n llwyddo x

  2. Ann

    Helo Beth, diolch yn fawr am y sylwad, a dwi’n hollol cytuno. Mae bob diwrnod yn frwydr ac mae’r llais bach yn y pen yn dweud bod “dim ots, mae’n iawn i gael tipyn o siwgwr, gaf fi ddiwrnod ‘da’ yfory….”
    Mae rhai diwrnodau yn haws na lleill, ond dyfal donc, ac fe ddaw. Dw’i ar fin ‘sgrifennu rhestr o awgrymiadau sy’n fy helpu i osgoi cwympo yn ol i’r un trap, a wna’i rhannu rhag ofn gall fod o help.
    Pob lwc i tithau hefyd. X

Gadael Ymateb