Nol i ysgol- i fi

Dwi’n eistedd yn ysgrifennu hwn yn ffreutur fy mhrifysgol fel ‘glas fyfyriwr’ swyddogol ac wrth i mi edrych o’m cwmpas ar wynebau fy nghyd fyfyrwyr fe deimlaf bob mathau o bethau fel y gallwch ddychmygu dwi’n siŵr! Dwi’n teimlo’n nerfus, mae’n dipyn o beth ac mae’r fath fodd dwi wedi cael fy ngofyn am gyfarwyddiadau neu am fodiwlau yn rhagdybio nad ydw i’n gyd fyfyriwr mewn gwirionedd ond yn ddarlithydd, ac mae hynny’n cadarnhau un ofn sydd gen i – sef fy mod yn boenus o amlwg, yn wahanol. Wel mae bron i bythefnos wedi mynd heibio bellach ac ydw, mi YDW i’n teimlo’n LLAWER yn hŷn ond rwyf hefyd wedi darganfod y gallai hynny fod yn beth da.

 

Dyma fy rhestr sy’n mynegi pam fy mod i falch o fod yn fyfyriwr aeddfed:
1. Mae’r cliw yn y teitl. Rwy’n aeddfed. Wel rhan fwyaf o’r amser, ond pan fo’n cyfrif gallaf fod yn eithaf difrifol ac ymddwyn fel oedolyn.
2. Dydw i ddim yma i chwilio am hwyl/ffrindiau/perthynas. Wrth gwrs, dwi am fwynhau’r profiad hwn a dod ymlaen gyda fy nghyd ddisgyblion a darlithwyr ond nid ydw i yma i gwrdd â fy morwyn briodas na ‘mhartner i’r dyfodol.
3. Does dim ots gen i sut olwg sydd arna’i nac os yw fy nillad gyda’r mwyaf cŵl. Mae hyn yn berthnasol i’r uchod i ryw raddau. Y gwir yw mi ydw i’n poeni am sut olwg sydd arna’i; dwi’n hoff iawn o’r drych ac yn dueddol o goleddu ambell un o nwyddau Apple ond mae’r hyn rwy’n ei wneud / yr hyn sydd gennyf, yn cael ei wneud i mi, ddim i bobl eraill ei weld a’i farnu.
4. Does dim iot o ddiddordeb gen i mewn Snapchat, WhatsApp nac unrhyw un o’r apps negeseua sydyn sydd, fe ymddengys, yn cymryd drosodd bywydau 99% o fy nghyd fyfyrwyr.
5. Gwn fy mod i eisiau gwneud hyn. Dwi’n teimlo dim pwysau i wneud unrhyw un arall yn hapus a dwi ddim yn gwneud hyn oherwydd unrhyw ddisgwyliadau.
6. Mae gen i wir ddiddordeb yn y gyfraith, ac yn fwy penodol dwi am greu gwahaniaeth. Efallai bod hyn yn swnio fel delfryd gwirion braidd, ond mae’n wir.
7. Mae gen i brofiad go iawn o fywyd. Dwi’n 47, dwi wedi prynu tŷ, wedi cael ysgariad. Dwi wedi bod yn dyst mewn achos llys, a dwi wedi gweld Better Call Saul a Silk. Oce, does dim un o’r pethau hyn yn golygu fy mod yn mynd i gael meddwl mawr cyfreithiol OND dwi wedi bod drwy bethau a chael profiadau sy’n rhai go iawn ac sy’n werthfawr. Y gobaith yw y bydd f’amser ar y ddaear yn fy ngwneud i’n ddoethach ac efallai ychydig yn fwy pragmataidd. Oce, oce, mae’r busnes Saul a Silk dipyn bach yn wirion ond o ddifrif mae’r ddau ohonynt yn anhygoel ac os nad ydych wedi eu gwylio, yna gwnewch hynny plîs.
8. Mae’r ochr hunanol ac efallai hurt ohonof yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i fy nghadw’n ifanc, yn fy meddwl, o leiaf. Mae gwir ffobia heneiddio gen i. Dwi hefyd yn cael fy nenu’n benodol at greu embaras i fy mhlant fy hun. Dwi wrth fy modd yn gweld eu hwynebau pan fyddai’n datgan gair maen nhw’n teimlo sy’n perthyn iddyn ‘nhw’ neu’n gwybod geiriau rhyw gan rap hynod anaddas (ac y maen nhw’n ddirifedi). Mae’n rhoi llawer o bleser i mi ac mae gen i ffynhonnell reolaidd a dibynadwy a chyfredol bellach o’r ‘dench’ i gyd.
9. Dwi eisiau cadw fy meddwl yn chwim. Person gwneud ydw i, rhaid i mi fod yn gwneud rhywbeth a bydd hyn yn sicr yn fy nghadw’n brysur.
10. Dwi eisiau dangos i mi fy hun ac i fy mhlant nad yw fyth yn rhy hwyr i fynd am yr hyn rydych am ei gael. Dywedwyd wrthyf yn ddiweddar fy mod tua 20 mlynedd yn rhyw hwyr, ond wnaf i ddim derbyn hynny. Yr unig gyfyngiadau i beth allaf i, neu unrhyw un ohonom ei gyflawni yw’r rhai rydym yn eu gosod arnom ni ein hunain. Mae ein breuddwydion a’n nodau o fewn ein cyrraedd, canfod y dewrder i gymryd y cam cyntaf yw’r gamp.
11. Gwn fod hyn yn costio arian go iawn, rhywbeth na fyddwn wedi cael unrhyw wir gysyniad amdano tua 30 mlynedd yn ôl. Wrth fynychu’r brifysgol yn yr America yn wreiddiol, roeddwn i bob amser yn ymwybodol o gostau mawr mynychu prifysgol eto nid yw hyn yn cael argraff go iawn arnoch nes eich bod chi’n gweithio/ ennill/ cefnogi eich hun.

Felly dyna ni, am y tro cyntaf ERIOED dwi wedi creu rhestr gadarnhaol ynglŷn â bod yn hŷn. Fel y dywedais, roedd ofn arna’i y byddwn yn teimlo’n hen ac allan o fy nyfnder. Roeddwn i’n meddwl y byddwn mewn ystafelloedd yn llawn pobl ifanc ddisglair a fyddai’n cymylu drosof i â’u deallusrwydd a’u croen ifanc meddal, ond mae popeth yn dda hyd yma. Dwi’n teimlo mor ddiolchgar, mor barod, cadarnhaol a chyffrous. Wrth gwrs dwi’n casáu’r ffaith nad oes olion gobennydd ar eu hwynebau am 9am pan fo fy rhai i ddim ond yn dechrau diflannu o gwmpas amser cinio a dwi’n debygol o deimlo ing bach o hiraeth neu genfigen pan fyddan nhw’n trafod eu nosweithiau allan ond fyddwn i ddim am fynd yn ôl. 30 efallai, ond 18, dim ffordd.

Gadael Ymateb