Barn Mam – Disneyland Paris

O ystyried mai Americanwr ydw i, mae’n rhyfeddol fy mod wedi cyrraedd 47 mlwydd oed heb droedio cam yn yr un o deyrnasoedd hudol Walt Disney.  Dwi jyst ‘rioed wedi cael yr awydd, a doedd e ddim y fath o beth a fyddai wedi apelio at fy rhieni.  Synnais fy hun felly pan awgrymais ychydig ddyddiau yn Disneyland Paris ar gyfer pen-blwydd yr efeilliaid yn 5 oed.  Byddem yn Ffrainc beth bynnag cyn y diwrnod mawr, felly feddylion ni fod nawr yn amser cystal ag erioed.

Ychydig o waith ymchwil ac anadlu dwfn, ac roedd y gwesty half-board wedi ei drefnu a meddylion ni ddim mwy am y peth.  Disneyland!  Mae’n mynd i fod yn wych!  Fydd y plant wrth eu boddau!

Dim ond pan ofynnodd fy chwaer yng nghyfraith yn ddigon diniwed, beth oeddwn wedi’i drefnu ar gyfer ein hamser yn Disney…y gwawriodd arnai pa mor naÏf a di-hid yr oeddwn wedi bod.  Be ti’n feddwl?  Dwi di bwcio’r gwesty ac maent yn rhoi talebau ar gyfer ein prydau bwyd, beth arall yn y byd sydd angen i mi ei gynllunio?  Nag ydyn ni jyst yn troi fyny a gadael i’r hud ddigwydd, fel yn yr hysbysebion?  Ym, na.  Mae’n debyg fod yna lawer iawn y mae angen i chi ei gynllunio.  Mewn gwirionedd, mae angen i chi gynllunio popeth, hyd at y funud olaf.  Wel, os ydych chi am fwyta a mynd ar unrhyw reid hynny yw.  WPS.

Dim ots, fe lawrlwythais yr app, bydd popeth yn iawn.  Gallwch wastad ymddiried mewn app, bydd yr app yn dweud wrthym beth i’w wneud.  Not.  Yr hyn a wnaeth yr app oedd gwneud i mi obsesio gyda’r app ac amseroedd aros, a cheisio dod o hyd i fwrdd yn unrhywle ar gyfer swper, a beth sydd yn rhaid ei weld / ei wneud / ei brofi.  A dweud y gwir, efallai fy mod wedi treulio mwy o amser yn edrych ar yr app nag y gwnes ar unrhyw reid.

Wrth edrych yn ôl, ac i fod yn deg, doedd dim y gallai fod wedi fy mharatoi ar gyfer yr ychydig ddyddiau nesaf.  Roedd gen i un ragdybiaeth FAWR sef fel cwmni Americanaidd, y byddai Disneyland yn adloniant o’r safon orau a dim byd yn cael ei adael i siawns.  Wedi’r cyfan yn America y cwsmer yw’r brenin (neu’r tywysog / dywysoges).  Wel, roeddwn yn anghywir. Peidiwch â chamddeall, nid bod y staff ddim yn ddymunol na’n gymwynasgar…mi roeddent, o fath, ond dwi’m yn meddwl y gallwch chi gael y cyfeillgarwch dros y top ac OMG does dim byd yn ormod o drafferth, heb fod yn enetig Americanaidd.  Efallai fod yr ymwelwyr Ewropeaidd yn hoffi hynny am DLP, ond i mi roedd ychydig yn siomedig.  Mae’n debyg fy mod eisiau America heb orfod rhannu cyfandir â Trump.

Felly dyma rai pethau a ddaeth fel ychydig o syndod i mi:

Y Gost

Dydw i ddim yn mynd i roi union ffigwr ar beth wariwyd, ond mae’n ddigon i ddweud y gallech brynu car bychan am yr arian a drosglwyddwyd i’r boi bach llawen gyda’r clustiau mawr.  Rwy’n gwybod fod na fai arna i; es i ychydig dros ben llestri gyda’r trîts a’r anrhegion, ond yn fy amddiffyniad, daeth pwynt lle ro’n i methu ymladd mwyach.  Mae’r pwysau i wario, a hynny ar brisiau chwyddedig uffernol, yn enfawr.  Mae’r prisiau’n anhygoel, does dim rheswm pam y dylai 4 slushy gostio €24, na pham bod un Coke a thri Solero yn costio €19.  Neu fyrgyr a chips am €22.99?  Mae’n hollol wallgo’.  Dwi’n gwybod, dwi’n gwybod, grym y farchnad sy’n gyfrifol; os na fyddai pobl yn barod i dalu, byddai’r cyfan yn cau lawr…ond dwi’n dal i gredu ei fod yn wallgofrwydd ariannol llwyr!

Y Ciwiau / Rheolaeth y Dorf

O ddifrif, dwi erioed wedi profi unrhywbeth tebyg iddo.  Dwn im beth arall y gallaf ei ddweud am hyn ond ei fod yn uffern.  Yn gyffredinol, doedd gan bobl ddim cwrteisi, dim amynedd, dim dealltwriaeth o etiquette ciwio, dim syniad am wagle personol; ac ar adegau, dim synnwyr o’u harogl eu hunain.  Dyna ni, dwi wedi’w ddweud.  Roedd pobl yn sefyll rhy agos ata i ac yn drewi.  Dwi’n credu fod yr agwedd benodol hon a’r diffyg rheolaeth yn anesgusadwy gan Disney.  Dylai, a gallai’r ciwiau gael eu goruchwylio yn well, ac efallai na fyddwn i a’r cannoedd o garcharorion westeion eraill yn gorfod treulio 75 munud poenus drws nesa i rywun oedd am ein defnyddio i sychu eu chwys tra’n ein gwahodd / gorfodi i arogli eu stinky pits ar yr un pryd.  Roedd hyn, wrth gwrs, tra eu bod yn chwifio i’r 30 o bobl yr oeddent yn cadw lle ar eu cyfer yn uy ciw. Just sayin.

Y Torfeydd

Dwi’n gwybod, roeddem ni yn rhan o’r torfeydd hynny; ond yn wir Disney, chi’n gwybod eu bod yn dod, cynlluniwch ar eu cyfer.  Mae cael bottlenecks a chiwiau hir i fynd i mewn i ardaloedd penodol, i weld ‘pobl’ penodol neu ar gyfer bwytai yn uffernol.  Mae ganddynt yr arian i ddyblu, hyd yn oed i dreblu ar y pethau mwyaf poblogaidd.  Gwnewch hynny er mwyn Duw.  Ac yna anfonwch rai o’ch pobl gwasanaeth cwsmeriaid allan i SIARAD a’ch gwesteion; eglurwch ac awgrymwch, cynnigwch gymorth – neu gydymdeimlad.  Nid fi oedd yr unig riant a oedd yn cerdded o gwmpas gyda golwg fy mod rhywle rhwng labour pains a lobotomi yn barod i fwrw’r ffŵl nesaf sy’n meiddio arafu fy siwrnai epig i gael byrgyr gorbrisiedig.  Yn barod iawn.

Y Maint

Roedd yn enfawr, ond roedd 90% ohono yn siopau a oedd yn gwerthu’r union bethau ar brisiau ANDROS o chwyddedig.  Os na allwn eich cael chi i brynu snowglobe o Goofy yn y siop gyda drws pinc, yna coeliwch chi fi erbyn i chi gyrraedd y siop gyda’r wyneb allanol Tuduraidd ffug, rydych mwy neu lai’n begio i gael prynu’r blydi peth.  A’r crys sy’n dweud Je t’aime Mickey, er bo chi wir, wir ddim.  Petai’r siopau yn cael eu lleihau o hyd yn oed ¼ yna byddai’r lle yn dal i fod yn ddigon mawr i gymryd ychydig ddyddiau da i’w grwydro heb deimlo bod rhywun yn cael hwyl am eich pen tra’n gwagio eich waled.  Roedd y plant, sydd fel arfer yn llawn dop o egni, wedi gorflino, yn overwhelmed, ac yn erfyn am drugaredd wrth gael eu martsio o un lle i’r llall mewn ymgais ddesbryt i gael gwerth ein harian.  Wimps sy’n gorffwys!  Rydym ni’n Gymry a Duw, byddwn yn goresgyn!  Un peth dwi’n ei wybod yn sicr, dyw Disneyland mewn gwres 34 gradd gyda phedwar o blant blinedig wedi’u weindio fyny ar siwgr ac E numbers yng nghanol dathliad o fasnacholiaeth, ddim ar gyfer y gwangalon. Efallai fy mod wedi gweiddi arnynt unwaith neu ddwywaith.

Y Fasnacholiaeth

Mae’n wallgof.  Mae sut y gall canolfan siopa gyfan – ie dyna beth ydyw go iawn, os meddyliwch amdano – yn gallu cael siop ar ôl siop yn gwerthu UNION YR UN PETH a pharhau i fod yn llwyddiant, y tu hwnt i mi.  Roedd yn ddiflas, yn llidus ac yn rwystredig!

Iawn, felly y cwestiwn mawr – a fydden i’n mynd yn ôl? neu a fydden i’n argymell eich bod CHI’N mynd i Disney? 

Efallai y cewch eich synnu mai’r ateb yw BYDDEN.  I esbonio, fe ddefnyddiaf yr analogy o ryw.  Yn fwy penodol, tro cyntaf rhywun.  Cyn cael rhyw, rydych chi’n meddwl llawer amdano, yn dychmygu sut y bydd hi a beth rydych chi am e i fod.  Rydych chi’n siarad amdano â’ch ffrindiau, yn edrych ar luniau, gwefannau ac efallai y byddwch yn darllen ychydig amdano.  Rydych chi wedi ei weld mewn ffilmiau ac ar y teledu, neu efallai eich bod chi jyst yn disgwyl iddo ddigwydd heb falio dim am yr holl beth gan gadw meddwl eithaf agored heb unrhyw syniadau rhagdybiedig.

Y gwirionedd yw, hyd nes eich bod chi wir wedi CAEL rhyw EICH HUN, does gennych ddim syniad.  Mae’r realiti yn aml yn rhywfaint o siom.  Fodd bynnag, nid yw hynny’n ein hatal ni nac yn tynnu oddi wrth yr awydd i’w wneud unwaith eto (ac eto, ac eto, ayb, ayb…). Na, rydym yn ailgrwpio, ac yn neidio yn ôl i mewn gyda’r gobeithion y bydd y tro nesaf yn well.  Rydych chi wedi’ch paratoi yn well ac yn gallu eistedd yn ôl, ymlacio a mwynhau’r daith.  Felly ydw, dwi yn bwriadu neidio’n ôl i’r ‘gwely’ gyda Mickey, Donald, Goofy a Cinderella hefyd.  Ddim yn syth, mae angen ychydig o amser arnaf i ddod dros y gyfathrach gyntaf, ond mi fyddaf yn ôl.

Gan Ashleigh Edwrads, Mam Cymru

 

2 comments

  1. We went to Disney Paris last year and our experience was really different! We stayed in an AirBnB apartment in Serris, which is ten minutes away from the park and has a free bus which runs frequently all day. It meant we were out of the craziness of the park for at least a few hours each day! Serris has a shopping mall with plenty of restaurant options for the evenings (much cheaper than the parks) and a supermarket, so we could stock up on food and snacks to take into the park the next day. We saw the signs saying no picnics but noone ever said anything or stopped us eating our picnic at any point! We’re going back next year and staying in the same apartment. I would really recommend it.

    We also took advantage of the Fast Pass tickets, we went straight to what we knew would be the longest queues (Ratatouille was the one that sticks out in my mind) and got a Fast Pass to return later that day.

    Enjoy your next trip!

Gadael Ymateb i Cardiff Girl Diddymu ymateb

%d bloggers like this: