Heb grud, clytiau, bwyd na dŵr

Heb grud, heb glytiau, heb fwyd ac heb ddŵr

Ar ôl deg mis hyfryd, gwallgo a gwych o gyfnod mamolaeth, ddoe roedd hi’n amser i mi ddychwelyd i fy ngwaith fel Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau yn Oxfam Cymru. Wedi oriau o ddileu ebyst (roedd dros 11,000 yn aros amdana i!) ac yfed coffi, dyma fynd ati i ddechrau darllen datganiadau diweddaraf Oxfam, ac o fewn hanner munud o ddarllen roeddwn i’n llonydd yn fy nghadair ac yn groen gwydd i gyd.

Ydych chi wedi clywed am argyfwng pobl Rohingya yn Bangladesh? Os ydych chi fel, fi mae’n debyg y byddwch chi wedi clywed pytiau byr am y stori ar y newyddion tra’n trio gwneud swper neu newid clwt, ond heb ddeall gwir arswyd y sefyllfa.

Mae 600,000 o bobl bellach wedi ffoi i Bangladesh o Myanman ac yn crafu byw mewn gwersylloedd gorlawn. Mae mwy na 120,000 o’r rhain yn ferched beichiog ac yn famau newydd, ac mae 50 o fabanod yn cael eu geni yn y gwersylloedd hyn bob dydd. Does dim digon o fwyd, dŵr glân na lloches saff yn y gwersylloedd.

I nifer fawr o ferched, mae rhoi genedigaeth yn brofiad anodd, mi oedd o i mi a hynny mewn ysbyty fodern gyda gofal arbennig gan ddoctoriaid a nyrsys, a chefnogaeth a chysur y bobl agosaf ata i. Fedrwch chi ddychmygu rhoi genedigaeth mewn gwersyll ffoaduriaid? Heb unrhyw breifatrwydd, heb unrhyw ofal meddygol nac unrhyw gysur o fath yn y byd?

Yn y dyddiau cyntaf hynny ar ôl i fy mab gael ei eni, roeddwn i’n poeni – ydio’n cael digon o laeth? Ydio’n ddigon cynnes? Pryd gawn ni fynd adref o’r ysbyty i’n tŷ bach clud? Sut brofiad fyddai bod mewn gwersyll ffoaduriaid yn syth ar ôl geni babi? Beth fyddai’r pryderon? Heb wely, heb ddoctoriaiad, heb nyrsys, heb loches saff, heb grud, heb breifatrwydd, heb ddillad glân, heb flanced gynnes, heb glytiau, heb fwyd, heb ddŵr glân. Mae meddwl am y peth yn ddigon i wneud i mi deimlo’n sal.

* Llun: Hawlfraint Bekki Frost/Oxfam/Al Jazeera
Laila gydag Abdul a Jida

Mae Laila*, 18 oed, yn feichiog, ac mae ganddi ddau o blant, Abdul* sy’n 18 mis, a Jida sy’n ddyflwydd. Cyrrhaeddodd Laila Bangladesh ddiwedd Medi. Fe dreuliodd hi noson ar ynys, gan ffeindio lloches mewn ysgol leol, cyn croesi i Bangladesh ar gwch. Trigolion yr ynys dalodd am ei thocyn ar gyfer y fordaith.

*Llun: Hawlfraint Bekki Frost/Oxfam/ Al Jazeera
Abdul yn cysgu yn y lloches yng Ngwersyll Balukhali 

Rhoddwyd mymryn o fwyd a thamaid o darpolin iddi, cyn iddi hi a’r plant gael eu cludo i wersyll Balukhali dan olau’r lloer. Aeth gŵr Laila ar goll wrth iddyn nhw ffoi. “Dwi ddim yn gwybod os ydio’n fyw neu’n farw,” meddai Laila. “Dwi’n torri nghalon.”

Llun: Hawlfraint Tommy Trenchard/Oxfam/Al Jazeera

“Mae gen i ddau o blant bach a dwi’n feichiog – wedi mynd pum mis. Mae fy mhlant i’n sal. Dwi’n poeni am y bwyd, nad oes gen i ddigon o fwyd i’w bwydo nhw. A dwi methu rhoi meddyginiaeth iddyn nhw.”

Er mwyn cael dŵr i’w yfed, mae Laila yn gorfod gwneud twll yn y ddaear. “Mae’n fudur. Mae pobl yn mynd i’r toilet yma, ond heb ddŵr allwn ni ddim byw, felly mae’n rhaid i ni ei yfed. Mae’r dŵr mor fudur, ac mae’n drewi.”

Os hoffech chi roi at yr achos i helpu rhai o’r mamau, babanod a phlant hyn, ewch i wefan Oxfam neu gallwch ffonio 0300 200 1300. Mae modd rhoi arian at yr achos yn eich siop Oxfam leol hefyd, neu gallwch anfon siec i Oxfam, a’i anfon i Oxfam House, John Smith Drive, OX4 2JY. Hyd yn oed os allwch chi roi £5, mi fydd hynny yn ddigon i wneud gwahaniaeth i fam newydd, a’i babi newydd.

*Mae enwau’r unigolion yn yr erthygl wedi cael eu newid

Gan Casia Wiliam, Oxfam Cymru

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: