Taclo Trawma

Mae stori a phrofiad pob un dynes yn wahanol pan mae’n dod i eni plentyn. Wrth drafod efo mamau eraill, mae rhai yn tynnu wyneb, yn edrych i ffwrdd a ac yn ysgwyd eu pennau ac yn yngan “Byth eto!”, rhai eraill yn siarad mewn modd rhamantaidd iawn am y peth ac wedi cael profiad hynod o ysbrydol a goleuedig, ac eraill yn ffeindio hi’n anodd iawn i siarad o gwbl ac yn gwrthod trafod y profiad.

Wrth i mi ysgrifennu hwn, rwy’n ymwybodol iawn fy mod i wedi rhwystro fy hun rhag meddwl yn ôl i ddyddiad geni William Idris – yn syml iawn oherwydd mae’n brifo gormod. Y gwrthwyneb llwyr i’m mhrofiad i o enediageth fy merch, Gwen, chwe mlynedd ynghynt, er yn eni llafurus o ddau ddiwrnod o fod mewn poenau llafur, mae’r atgof o’i geni hi yn un dwi’n mynd yn ôl ati o hyd. Y profiad o roi genediagaeth yn naturiol, ei theimlo hi yn dod allan a’r munudau gorawerus yna o’i dal hi ar fy mron am y tro cyntaf erioed, croen wrth groen.

Nid dyma ddigwyddodd gyda William, pedwar diwrnod ar ôl fy nyddiad disgwyl ac ar ôl dau sweep. Mi ddeffroais yng nghanol y nos yn teimlo’n annifyr ac yn teimlo yn hynod o ansicr os oedd y dŵr wedi torri a’i peidio.  Mi ffoniaias y fudwraig a derbyn sicrhâd oddi wrthi nad oeddwn i mewn llafur.

Erbyn amser swper y noson honno roedd y cyfangiadau (contractions) wedi dechrau ac er fy mod yn poeni am beth oedd o fy mlaen, roedd fy nghorff fel petae yn gyfarwydd iawn â’r broses ac roeddwn i yn delio yn dda gyda’r poenau. Mi dreuliais i gyfnod hir adre yn bownsio ar y bêl ac yn gwneud defnydd o’r peiriant TENS. Erbyn 1 y bore, dechreuais deimlo yn reit sicr ei bod hi’n amser mynd am yr ysbyty, ac yn wir erbyn i mi gyrraedd yno, doeddwn i braidd yn medru cerdded a mi roedd Duncan (fy mhartner) a minne yn falch iawn o weld porter yr ysbyty yn dod â cadair olwyn i mi a’m  mhwsio i’r ward mamolaeth.

Er fy mod i mewn poen difrifol mi basiodd yr oriau nesaf mewn cwmwl o gyflenwad da o aer a nwy, awyrgylch eitha hamddenol a geiriau calonogol y fudwraig yn fy annog i weithio drwy’r boen ac i ganolbwyntio ar wthio. Wrth i ben William ddod i’r golwg, wna i fyth anghofio geiriau’r fudwraig: “ Mi rwyt ti’n gneud yn wych Elen, mae pethe’n mynd yn dda, ac ar y rât yma mi fyddwch chi adre erbyn 7.30 am”

Rhoddodd hyn y ffocws i mi i weithio’n galed ac ymhen dim roedd William allan o’r groth ac ar fy mron.  Mi deimlais i yr union yr un wefr llethol o gariad a wnes i pan fu Gwen ei geni, ond y tro yma roedd rhywbeth mawr yn bod.  Doedd William ddim yn symud, ddim yn crio, yn liw anarferol o las, ac yn raddol bach, bron fel petae bob dim yn symud yn araf a’r gydnabyddaieth arswydus yna o sylweddoli nad oedd o yn anadlu.

Mae’n anodd imi drio disgrifio’r munudau â ddilynodd. Dwi’n cofio’r larwm, y llu o ddoctoriaiad a ddaeth i mewn i helpu William a’r teimlad ohono yn cael ei dynnu yn arw o’m mreichiau ac yn fy amddifadu  o’r munudau gwerthfawr hynny a ddylai fod yn llawn gorfoledd, hapuswyrdd a rhyddhad i fam. Wrth iddyn nhw weithio ar William, dwi’n cofio edrych ar fy mhartner a pledio arno i ddweud fod William yn mynd i fod yn iawn ond yn gwybod o’i brud a gwêdd nad oedd o yn medru cadarnhau hynny.

Roedd y disgwyl yn anioddefol ond mi gawsom gysur o wybod ei fod yn anadlu ac wedi mynd i’r Uned Gofal Arbennig. Mae rhywun yn trio ei gorau i gadw’r platiau rhag disgyn cyn i’r babi gyrraedd, ond i ni, mi chwalodd y platiau i gyd yn deilchion ar ôl geni William. Ac os nad oedd hynny yn ddigon, mi aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i’r fudwraig geisio ei gorau glas i dynnu fy mhlasenta stwbwrn. Er gwaethaf ymgeision y doctoriaid ac ar ôl dipyn o halio a thynnu roedd rhaid mynd ar frys i’r theatr am lawdriniaeth.

Nid genediagaeth perffaith oedd genediagaeth Willaim ond un brawychus, ac un yr ydw i’n ei ystyried yn drawma. Mae profiadau trawmatig yn wahanol i bawb ac mae’n anodd iawn diffinio beth yn union yw trawma, ond rydw i o’r farn ei fod yn brofiad sydd yn eich ysgwyd chi i’r carn ac yn codi iâs ynoch wrth drio ail fyw y profiad. Mae ysgrifennu’r blog yma yn brofiad cathartig a dwi’n grediniol bod eisiau i ni siarad am ein profiadau geni yn fwy agored er mwyn helpu ein gilydd. Mae’r broses yn bersonol ac yn unigryw i bawb a mae fy nyled yn fawr i staff Ysbyty Maelor Wrecsam y bore hwnnw. Dwi’n teimlo yn hynod o lwcus o gael bod yn fam i William Idris sydd erbyn hyn yn 15 mis oed.

Yn ngeiriau Danielle Bernock o’i chyfrol ‘Emerging with Wings: A True story of lies, pain and love that heals’:

“Trauma is personal. It does not disappear if it is not validated. When it is ignored or invalidated the silent screams continue internally, heard only by the one held captive. When someone enters the pain and hears the screams, healing can begin.”

Gan Elen Mai Nefydd.

Gadael Ymateb