Magu Bwytwyr Iachus

A ninnau ar drothwy cyfnod o or- fwyta a bwyta mwy o sothach na’r arfer (hyd yn oed!), dyma erthygl amserol a defnyddiol iawn gan Rebecca Storch, i’n cynorthwyo ni i annog y plant (a ni’n hunain) i fwyta’n iach ac annog perthynas hapus gyda bwyd.

Magu Bwytwyr Iachus.

Sefydlais i Eat Happy / Bwyta Hapus i helpu pobl i ddod nol mewn i gydbwysedd â bwyd. Gyda nifer wedi crwydro i lawr y llwybr caled a throellog (a diflas iawn) o gyfri caloriau, cyfri syns, neu ddyddiaduron bwyd o bob dim sy’n pasio’u gwefusau.  Daw’r llwybr hwn i ben fel arfer mewn rhwystredigaeth, naill ai trwy golli ffydd yn eu hunain yn llwyr neu beidio â gwybod beth ddiawl i’w fwyta mwyach.

Ac mae hynny ond ar gyfer yr unigolion sydd â pherthynas ‘ychydig’ yn wael â bwyd a bwyta – mae eraill yn bell iawn o’r trywydd cywir ac ond yn bwyta ffracsiwn fach o fwydydd derbyniol, gan fod bron ag ofn blasau newydd, neu erioed wedi dod i ddealltwriaeth sylfaenol am fwyta – addysg fwyd os hoffech chi, sy’n eu gadael naill ai dros bwysau, o dan bwysau neu’n llwgu am faeth.

Ni fyddem am i’n plant fynd i lawr y llwybrau hyn – rhai ohonynt yn gyfarwydd i ni.  Beth fyddem ni’n hoffi i’n plant fedru ei wneud pan fydd bwyd yn dod yn rhywbeth maen nhw wedi cael mwy o ddewis a chyfeiriad drosto?

Rwy’n betio y bydd y rhan fwyaf ohonom yn hoffi i’n plant fedru teimlo’n gwbl hapus yn yr hyn maent yn ei fwyta, gan wybod sut i gydbwyso maetholion yn naturiol (heb ei roi yn brif ffocws eu prydau), y teimlad o fod yn gartrefol wrth gymedroli a chydbwyso, mwynhad o goginio, ac yn y pen draw yn byw bywyd lle nad yw teimlo’n gysurus, neu gael eu sbwylio yn yn golygu cyrch ganol nos yn yr oergell, a stwffio, stwffio, stwffio di-baid.

Rwy’n gweithio ym maes caethiwed (addiction) gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mi ddwedaf i ar y pwynt hwn nad ydw i’n fam.  Mae gen i ddau lys-blentyn anhygoel, ac rwyf wedi gweithio gyda phlant am flynyddoedd lawer (fel Nani, Arweinydd Ysgol Goedwig, Gweithiwr Ieuenctid ac ati).

Ar hyd y ffordd, gyda’m diddordeb a’n addysg mewn bwyd, caethiwed ac arferion – rwyf wedi codi pa mor hawdd ydyw i ni arwain ein plant yn ddiarwybod tuag at or-fwyta, neu beidio â gwybod beth yw diet iachus neu berthynas wael â bwyd.

Sut y gallwn ni fagu bwytwyr iachus – yn iach eu corff ac iach eu meddwl?

  1. Y Bwyd ar eu Platiau

Dim ond yr oedolyn sydd wir yn gyfrifol am y bwyd ar blatiau plant, boed hynny yn bastai borcoli a thatws, neu’n frechdanau tiwna ar fara gwyn.  Mae’r hyn yr ydych chi’n ei weini i fyny i chi yn unig, yn enwedig pan fo’r plentyn dan 3 neu 4.  Fodd bynnag, mae faint caiff ei fwyta i fyny i’r plentyn.  Mae’r awydd i weld y plant yn gorffen eu bwyd yn rhoi cysur i’r oedolion fod eu bwyd yn dda ac na fydd y plentyn yn llwgu.  Mae hyn yn ddealladwy.  Ond cyn belled â bod y bwyd yn gyffredinol (nid yn unig ar y plât, ond ar y diwrnod hwnnw) wedi’i gwblhau’n dda mewn amrywiaeth o gynhwysion a sut y cânt eu coginio, yna ni fydd plant yn diodde diffyg maeth.  Gadewch i’r plentyn fwyta nes eu bod yn teimlo’n gyfforddus o lawn.  Annogwch y plant i roi cynnig ar fwydydd, nid trwy godi’r fforc at eu ceg, ond drwy ddweud “rydym i gyd yn rhoi cynnig ar fwydydd newydd yma.”  Mae’n ddatganiad cyffredinol sy’n creu disgwyliad o ymddygiad o gylch bwyd.  Os nad yw’r plentyn yn rhoi cynnig arni, ceisiwch beidio â phoeni.  Gall plentyn gymryd hyd at 15 ymgais cyn hoffi bwyd arbennig, ond mae ei geisio yn y lle cyntaf yn golygu y dylid cyflwyno’r bwyd mewn sawl gwahanol ffordd; ei guddio, ei stemio, wedi’i ferwi, yn blaen, mewn saws, mewn pryd.  Efallai nad ydych chi’n hoffi’r madarch wedi’u ffrio hynny mewn brecwast, ond yn eu derbyn mewn saws neu â phasta.

Yn fy mhrofiad i, mae plant a dewis yn mynd fel hyn – y mwyaf peryglus neu bwysicaf yw canlyniad y dewis, a’r mwyaf o bobl y mae’n ei effeithio, y lleiaf y dylid caniatáu i’r plentyn wneud y penderfyniad hwnnw.  Mae’n swnio’n amlwg pan fyddwch chi’n meddwl am bethau fel croesi’r ffordd, neu benderfynu pryd i fynd i’r gwely hyd yn oed.  Ond mae pethau fel dewis pa dedi neu ddeinosor i fynd i’r ysgol yn iawn i blentyn benderfynu.  Mae bwyd yn aml yn creu llinell anelwig ar y ffin hon.  Gall pobl anghofio mai nid heddiw yw’r unig ddiwrnod ar gyfer y plentyn hwnnw, mae yna yfory a bywyd oedolyn o’i flaen.  Felly, mae gadael i blentyn ddewis eu pryd bwyd eu hunain heddiw, yn golygu dewis eu deiet eu hunain yfory, a’u harferion bwyta eu hunain am fywyd.

2. Beth i fwydo’r plentyn?

Mae’r plant yn bwyta rhan llai o’r rhan fwyaf o fwydydd oedolion.  A dyna ni mewn gwirionedd.  Os yw eich deiet yn wael, yna bydd deiet eich plant hefyd.  Peidiwch mynd am ‘Fwyd Plant’, jyst gwnewch ‘Fwyd Bwyd.’

Os cewch eich drysu, dychmygwch linell yn eich meddwl.  Ar y pen draw mae franken-fwyd a grëwyd mewn labordy (coco cola, y rhan fwyaf o gynhwysion prydau parod, bisgedi lliw rhyfedd) ac ar y pegwn arall mae bwydydd naturiol; grawnwin, moron, ac ati.  Yn y canol mae yna ystod gyfan o fwydydd, o geirch wedi’u rholio sydd ond wedi eu prosesu ychydig tuag at un ochr, ac yna gallai bara gwyn eistedd ar yr ochr fwy wedi’u prosesu.  Yn syml, ceisiwch ddewis mwy o fwyd tuag at y pen naturiol, a llai (os o gwbl) o fwyd o’r pen arall.

Sut ydych chi’n gwybod a yw’r hyn rydych chi’n ei brynu neu ei baratoi yn eistedd tuag at yr ochr or-brosesedig o’r raddfa hon?  Gofynnwch rai cwestiynau i chi’ch hun:

1: Wrth ddarllen bwyd cyfleus, gofynnwch i chi’ch hun, “oes gen i unrhyw un o’r cynhwysion hyn yn fy mhantri adref?  A fydden i’n gwybod ble i ddod o hyd iddynt, neu hyd yn oed beth i wneud â nhw pe bawn i’n llwyddo?”

2: Am yr hyn ydyw, a oes ganddo ormod o gynhwysion?

Ar gyfer Pastai’r Bugail, byddech chi’n disgwyl tipyn go lew o gynhwysion.  Ond a yw’n ymddangos fel bod gormod?  Yn y sushi yr wyf yn ei greu gartref, mae gen i tua 5 cynhwysyn – yn y sushi a werthir mewn siop mae yna’n aml hyd at 30 cynhwysyn neu fwy.  Ychwanegwch y ffaith hon at y cwestiwn uchod a byddwch yn gwybod a yw’n eistedd ar un pen o’r llinell neu’r llall.

3. Beth yw eich Strwythurau Bwyd?

Rydym yn ddiwylliant o snacwyr.  Ond pam?  Fy theori i yw ein bod ni’n bwyta cymaint o fwyd llawn siwgr ac wedi’ or-broses, mae ein cyrff ar roller-coaster insulin parhaus – sy’n golygu ein bod ni’n teimlo’n llwglyd yn aml.  Mae ein bwyd yn rhydd o ffibr a maeth, a llwglyd ydym felly ar gyfer daioni.  Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anodd mynd rhwng prydau heb fwyd.  Ymddengys ein bod ni’n ofn newynnu.  Daw dim drwg o fod ychydig yn llwglyd. A dweud y gwir, mae plant yn ymdopi ag ef yn well nag oedolion!  Cyn belled â bod gennych fwyd sy’n llawn ffibr (darllenwch: cyflawn a go iawn) yna byddwch chi’n teimlo’n llawn. Mae’r un peth yn wir gyda phlant.  Gallant fynd o frecwast tan ginio fel arfer heb drafferth.  Mae byrbryd strwythuredig tua 4yp yn golygu y gallant aros i fwyta pryd gyda’r teulu cyfan. Mae snacio yn golygu bod plant yn fwy agored i siwgr a chemegolion, a’r arferion y maent yn dysgu wrth dyfu’n hŷn yw fod yn rhaid cadw’r teimlad llwglyd i ffwrdd.  Nid dyma’r ffordd iachaf o feddwl.  Os nad ydynt yn snacio, yna bydd plant yn barod i fwyta eu bwyd ar adegau priodol o’r dydd – brecwast, cinio a swper.

Strwythur arall yw ble mae bwyd yn cael ei fwyta.  Cadwch eich car yn lân a bwytewch wrth y bwrdd bwyd!  Ddim o flaen y teledu, yn y drol neu wrth fynd allan am dro.  Nid i ddweud na allwch chi fyth wneud y rhain wrth gwrs, ond ystyriwch fod y rhain yn adegau i fwynhau’r profiad ei hun, nid i fwyta â nhw hefyd. Mae’n debyg y byddwch chi’n dweud ‘mae hynny’n ddiflas!’ Ond mae hyn yn rhywbeth yr ydych chi’n teimlo sy’n heriol oherwydd efallai y cewch chi gysur gan fwyd pan fyddwch chi allan o gwmpas y lle hefyd.

Mae hyn yn dod lawr i fod ag agwedd dda tuag at fwyd eich hun; os nad ydych chi’n barod i roi cynnig ar rywbeth gwyrdd a chrynslyd, yna dysgwch eich hun ym mha ffordd y byddech chi’n derbyn y blas a’r gwead hwnnw, a defnyddio’r profiad hwn i helpu’ch plant.  Mae angen i chi gymryd cyfrifoldeb bod diffyg maeth yn beryglus.  Os nad ydych chi’n fodlon bwyta amrywiaeth o fwydydd, yna mae angen i chi dderbyn y gall hyn fod yn niweidiol i’ch plentyn.  Yr wythnos hon ar y BBC, siaradodd Louis Theroux â phobl ag anorecsia.  Yn dilyn diffyg maeth, fe gollasont eu hewinedd, eu gwallt ac weithiau eu golwg a’u clyw.  Nid mod i’n dweud mai dyma beth fydd yn digwydd i’ch plentyn!  Ddim o gwbl, mewn gwirionedd, mae bodau dynol yn rhyfeddol o wydn yn wyneb diffyg maeth.  Ond nid yw hyn bob amser yn fater chwerthin.  Nid yw bwyta sglodion o hyd, yn ddoniol.

Cofiwch mai chi yw’r person sy’n amddiffyn y plentyn.  Byddwch yn bendant ac yn dawel, rydych chi’n iawn fel yr ydych chi.  Mae gennych y gallu anhygoel i gysuro gyda chwtshys a dealltwriaeth, nid bisgedi.  Rhowch rywfaint o barch i chi’ch hun a phat haeddiannol ar y cefn.  Pan fydd plentyn yn syrthio, neu’n sâl, jyst byddwch yno gyda mwythau, cadach gynnes a sws.  Chi mae eich plentyn ei eisiau yn yr achosion hyn, ie ‘dim ond’ chi.  Os ydych chi’n rhoi bisged yn yr achos hwn, efallai y dysgant nad ydych chi (h.y. ‘eu byd’) yn ddigon.

Rydych chi’n llawer mwy galluog a chryf nag yr ydych chi’n meddwl.  Rydych chi’n oedolyn, sy’n gallu mynd trwy fywyd ac sydd â nifer o wersi bywyd a doethineb i’w basio mlaen.  Byddwch y person hwnnw i’ch plentyn.  Y person cadarn, caredig, doeth a chryf hwn.  Mae hwn yn berson sy’n paratoi prydau pryd y gallant, ac yn credu eu bod yn ddigon da, ac nad sy’n coginio i archeb ar ôl i bryd bwyd gael ei wrthod.  Mae gennych bethau gwell i’w wneud, rwy’n siŵr!  Chi yw’r un sy’n cynnal trosolwg y teulu, gan gadw’r darlun mawr mewn golwg, fel rheolwr – ond rydych chi’n garedig ac yn deall hefyd.  Nid yw cadernid yn greulondeb.  Mae gadael i blentyn deimlo canlyniad naturiol peidio â bwyta yn golygu gwybod sut mae’n teimlo i gael bol gwag, a bydd yna wastad bryd bwyd newydd yfory.

Os ydych chi eisiau mwy o gyngor ar sut i gael eich plant i fwyta’n well, gadewch i mi wybod ac mi ysgrifennai’r hyn rydw i wedi’i ddysgu i chi.

Pob hwyl!

Rebecca Storch

Creodd Rebecca Eat Happy / Bwyta Hapus i helpu pobl i deimlo’n hapusach gyda’u bwyta!  Ar ôl profi anhwylderau bwyta ers blynyddoedd lawer a sylweddoli nad oedd bod ar ddeiet a mynnu bod yn denau yn ei gwneud hi’n hapus, penderfynodd newid.  Bellach mae hi’n blogio, ac yn cynnal gweithdai a sgyrsiau i rannu’r hyn a ddysgodd i helpu eraill i roi’r gorau i fod ar ddeiet ac, o’r diwedd, i fwyta’n hapus!

Ewch i www.eathappy.wales / @Eathappy / www.bwytahapus.cymru / @Bwytahapus

Gan Heulwen Davies, Mam Cymru.

 

One comment

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: