Lleuwen – Jyglo cerddoriaeth a bywyd mam

Cafodd Lleuwen ei magu yn ardal Rhiwlas, ond mae hi bellach yn byw yn Llydaw. Mae Lleuwen yn teithio’r byd yn canu ac yn hudo cynulleidfaoedd gyda’i llais breuddwydiol ac unigryw. Mae hi hefyd yn actores wych ac wedi ymddangos mewn sawl cynhyrchiad theatr yma yng Nghymru a thramor, ac ar ben hyn i gyd, mae’n fam i Caradog sy’n 5 oed ac Eira sy’n 4 oed. Roeddwn i’n ddigon ffodus i fyw a chyd astudio BA mewn Theatr, Cerddoriaeth a’r Cyfryngau gyda Lleuwen yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, a threulio cyfnod yn astudio yng Ngholeg Pella yn Iowa, America. Yn ddiweddar, cefais gyfle i ddal fyny efo ‘Lleus’ i ddysgu sut mae’n llwyddo i jyglo gyrfa rhyngwladol a magu dau o blant.

Ti’n teithio’r byd yn canu a pherfformio, ydy’n anodd i jyglo’r cyfan ?

Dw i ‘rioed wedi cyfarfod mam sy’ ddim yn jyglo! Ond be sy’n gwneud y jyglo yn anoddach inni ydi’r barnu o bob cyfeiriad  . . .  geni adref; geni efo epidural; bronfwydo’n gyhoeddus; peidio bronfwydo; gweithio llawn amser; aros adre llawn amser a.y.y.b a hyd syrffed.

Efallai bod hi’n haws i ni famau sy’n gweithio’n llawrydd uno bywyd gwaith a bywyd cartref. Dw i’n gwybod bod fy mhlant yn hoff o deimlo’n rhan o’r tim beth bynnag, a mae hyn yn symlhau pethau o bosib. Mae’r plant yn dod efo fi i gigs ac ar daith. Dw i’n canu fy nghaneuon iddyn nhw a weithiau’n son am bynciau’r caneuon. Ma nhw’n mwynhau mynegi eu barn am hyn a’r llall a theimlo eu bod yn cymryd rhan yn fy ngwaith. A mae’n wir eu bod nhw yn ran annatod o’r gerddoriaeth.

Dw i isio bod yn fam onest. Dw isio isio iddyn nhw wybod yn union pwy yw eu mam . . . yr un sy’n creu cerddoriaeth yn ogystal a chreu’r cacennau; yr un sy’n chwarae’r gitar a’r un sy’n chwarae lego.

Ydy’r plant yn mwynhau canu a cherddoriaeth a dod i gigs efo ti?

Mae nhw’n hoffi dawnsio efo fi yn y gegin !

Mae’r gigs yn eu galluogi i gyfarfod pobl. Weithiau, byddwn ni’n edrych ar y map cyn cysgu a dwyn i gof gwahanol lefydd a chymeriadau sydd wedi bod o’n cwmpas, ac wedi bod yn garedig i ni ar hyd y ffordd.

Pan oedd y ddau yn fach doedd gen i ddim awydd perfformio rhyw lawer. Roeddwn i’n lwcus bod Lan (y gwr) yn gweithio’n llawn amser ar y pryd ac felly roedd modd imi aros adref am gyfnodau hir yn nythu. Yr unig gigs o’n i’n eu derbyn yn ystod y blynyddoedd cynnar oedd y rhai lle oedd modd ifi ddod a’r teulu efo fi. Roeddwn i’n bronfwydo’r ddau, un ar bob bron am gyfnod… roedd hynny’n hen ddigon o waith!

Buon ni yn yr Unol Daleithiau am fis y llynedd. Profiad arallfydol iddyn nhw ond roedd fy nerfau yn rhacs yn maes awyr JFK, yn llusgo ‘ngitars a ‘mhlant a bagiau ac amps! Ond wrth gofio nol, dw i’n hynod falch eu bod wedi dod efo fi. Baswn i wedi methu mynd i ganu yno heb eu bod nhw efo fi. Roedd eu presenoldeb yn galluogi imi ‘neud fy ngorau yn y gigs. Fel arall baswn i’n hiraethu gormod. Roedd gan y plant warchodwraig hyfryd yno a ddysgodd Saesneg iddyn nhw.

Mae nhw’n cyrraedd cyfnod arall rwan, a’u anghenion yn wahanol. Mae nhw wedi setlo yn yr ysgol ac yn hapus gyda’r strwythr yna felly efallai na fydd gymaint o deithio iddyn nhw yn ystod y blynyddoedd nesaf. Pwy a wyr. Dw i’n cymryd pob job ar y tro a derbyn bod dim rheolau. Dw i’n gwrando ar fy ngreddf fel mam.

Pryd a pham wnes di symud i Llydaw

Dod yma i neud gig nes i yn wreiddiol. Ac ar ol hynny roeddwn yn ffodus i dderbyn gwobr Cymru Greadigol i ddod nol a gweithio gyda cherddorion o Lydaw. Recordiais yr albym Tan gyda Vincent Guerin o Vannes. Tra roeddwn yn archebu fy nhocyn Brittany Ferries i ddychwelyd i Gymru, ges i alwad ffon yn cynnig rhan mewn sioe gerdd yn Plogoneg. Derbyniais y gwaith a mynd ati o ddifrif i ddysgu Llydaweg. Nes i syrthio mewn cariad efo fy athro, cael dau o blant efo fo, priodi a mwya sydyn mae wyth mlynedd wedi gwibio heibio !

Sut le ydy o i fagu plant ac ydy’n anodd bod i ffwrdd o’r teulu yng Nghymru?

Rydyn ni’n byw mewn ardal amaethyddol, ymhell o unrhyw ddinas a mae’r plant yn rhydd i chwarae allan. Mae yma lawer o dir o’n cwmpas a dim llawer o bobl. Mae’n hen dy bach clyd, yn gartref hyfryd a dw i ar fy ngorau yn y tawelwch. Rhaid cyfaddef fy mod yn colli bwrlwm y diwylliant Cymraeg. Dw i’n trio dychwelyd yn gyson er mwyn i hiraeth gadw draw ac er mwyn i’r plant gael profi diwylliant Cymru.

Mae sawl traddodiad Llydewig yn fyw iawn a’r un mor naturiol a’r tirwedd. Mae’r hen a’r ifanc yn dawnsio efo’i gilydd yn y fest noz a mae yna rhyw undod cynnes ac unigryw yn hynny. Ond eto, mae diwylliant yr iaith yn dioddef. Mae yna bob math o gymlethdodau pan ma hi’n dod i hunan hyder y genedl, yn rhannol oherwydd diffyg siaradwyr Llydaweg a’r ffaith bod system Ffrainc yn ei gwneud hi’n iaith israddol.

Sut mae’r system addysg yn Llydaw?

Mae’r plant yn mynd i Ysgol *Diwan (*y gair Llydaweg am ‘blagur’). Diwan yw’r mudiad ysgolion Llydaweg yma. Tydi Diwan ddim yn rhan o gyfundrefn addysg Ffrainc ac felly ychydig iawn o gymorth (ariannol ac arall) mae addysg Llydaweg yn ei gael gan lywodraeth canolog Ffrainc. O’r herwydd mae’r ysgolion yn dlotach yn ariannol ond yn gyfoethocach o ran rhyddid. Mae system addysg Diwan yn fwy agored a llai ffurfiol.

Rhaid cynnal digwyddiadau cyson er mwyn casglu arian i dalu am gyflogau staff ac am waith cynnal a chadw yr ysgolion. Mae’n dalcen caled. Yn frwydr barhaol. Ond mae Caradog ac Eira yn wirioneddol hapus yng nghymuned glos Skol Diwan Karaez.

*Hawlfraint Llun:    Celf Calon

Ydech chi’n magu’r plant yn y Gymraeg neu Llydaweg ?

Cymraeg yw eu mamiaith. Mae nhw’r un mor rhugl yn y Gymraeg a mae nhw yn Llydaweg. Mae nhw’n siarad Ffrangeg hefyd ac yn fy nghywiro yn gyson! Mae nhw’n siarad rhyw fath o Saenseg rwan hefyd  (diolch i’r daith i gigs a Netflix! ) Mae’n rhyfeddol sut mae plant yn dysgu ieithoedd heb feddwl am y peth a ninnau hen bobl yn gofrod bustachu mynd o ddydd i ddydd.

Roedd gen ti berthynas arbennig gyda dy fam. Wyt ti’n debyg iddi?

Atgofion cynnes sydd gen i am gariad di-amod mam. Roedd hi’n anghyffredin o anhunanol. Y peth mwyaf caredig fedr unrhyw un ddweud wrtha’i ydi fy mod i’n debyg i fy mam. Mae hyn yn digwydd yn aml, oherwydd fy ngwallt coch a fy mrychni haul mae’n debyg. Ond dim ond pryd a gwedd yw hynny ynde? A bod yn onest, fedra i ‘m ond breuddwydio bod yn fam cystal a hi.

Beth ydy’r peth gorau a’r peth mwyaf heriol am fod yn fam?

Y peth gorau ydi’r chwarae. Eu gweld yn dysgu trwy chwarae. Gemau a straeon dychmygol – chwarae siop, mor ladron, gofodwyr. Y peth mwyaf heriol yw bod hebddyn nhw a’r cylchoedd poen meddwl sy’n dod yn sgil hynny.

Beth yw dy uchelgais fel mam?

I greu unigolion hapus a hyderus sy’n caru eu hunain a’u cyd-ddyn.

Pa fath o bethau rydech chi’n mwynhau gwneud fel teulu?

Mynd am dro. Fel arfer i hel pethau – cregyn, cnau, madarch, dail . . . .dibynu ar y tymor a’r tywydd.

Pa gyngor sydd gen ti i famau newydd?

Da chi ddim angen cyngor. Da chi’n gwbod be i neud. Greddf!

Cewch y newyddion a’r manylion diweddaraf am berfformiadau Lleuwen ar ei gwefan www.lleuwen.com

Gan Heulwen Davies, Mam Cymru.

*Hawlfraint, Mam Cymru.

Gadael Ymateb