Colli Mam a Dod yn Fam

Mae ysgrifennu hwn yn teimlo’n rhyfedd achos fel mae unrhywun sy’n nabod fi yn gwybod, dwi’m yn un am fod yn sentimental, nid yn gyhoeddus ‘ta beth.  Ond ar fforwm sy’n dathlu bod yn fam ro’n ni am rhoi persbectif bach, bach, personol, o golli mam – ac yn dilyn o hynny, bod yn fam, heb fam.

Bu farw ‘nhad yn sydyn pan o’n i;n ddeunaw – trawiad heb rybudd ac un trawiadol o effeithiol.  Efallai bod hyn wedi newid fy mherthynas gyda mam, fel ein bod ni’n gwneud mwy gyda’n gilydd ac yn gwerthfawrogi’n gilydd, dwi’m yn gwybod (er nad oedd hi’n un am fod yn sentimental chwaith).

Ceffylau oedd yn ganolog i fywyd mam (ceffylau a llyfrau) a wnes i ddilyn yr un trywydd. Dyna lle fydden ni pob wythnos drwy’r haf, yn cystadlu mewn sioeau ar draws y wlad, yn teithio milltiroedd yn y lori fach gyda’n gilydd (wedd mam yn yrrwr blydi ofnadw’ mewn car ond rywffordd wedd hi’n iawn tu ôl i olwyn lori geffyle!).

Ar fy ffordd i sioe oeddwn i y penwythnos aeth mam yn dost.  Fe ffoniodd hi fi ar y nos Sadwrn i ddweud nad oedd hi’n teimlo’n ddigon hwylus i fynd i Sioe Gwyr fore trannoeth fel ro’n ni wedi trefnu– a rhai oriau’n hwyrach ffoniodd hi i ddweud ei bod hi ar y ffordd i Ysbyty Glangwili.  Mae’r hyn ddigwyddodd dros y misoedd wedyn yn stori hir, ond yn fyr, cancr y colyddun oedd ganddi a 15 mis yn hwyrach yn yr Hydref canlynol fe gollodd y frwydr.

Tair wythnos cyn iddi farw ro’n ni wedi gwerthu’r tŷ bach twt oedd gen i yn Abertawe ac wedi symud nôl i orllewin Cymru i fyw ar dyddyn 40 erw mam.  Ro’n ni’n gwybod bod ddim gwellhad iddi, ond daeth y diwedd yn llawer cyflymach nag o’n i wedi ei ddisgwyl.  O fewn 5 wythnos i symud nôl roedd yr angladd wedi bod, ac ro’n i’n eistedd yn ei chegin ar fy mhen fy hun, yn teimlo’n gwbwl ar goll ar sawl cyfrif. Ar ben y galar roedd euogrwydd, euogrwydd am beidio bod wedi bod yn well merch yn yr wythnosau olaf.

Roedd y gaeaf cyntaf hwnnw yn byw yn ei chartref hi, tra’n ceisio ei wneud yn gartref i fi, a thra’n ceisio parhau i weithio yn Abertawe, yn un hir ac unig.  Gawson ni rew caled ac eira mawr hefyd ac roedd gofalu ar ôl y ceffylau’n waith caled – er o bosib o edrych nôl, mi wnaethon nhw roi rhywbeth ymarferol i fi ganolbwyntio arnyn nhw.

Tan hynny, dwi’m yn credu mod i wedi sylweddoli cweit gymaint o’n i’n dibynnu ar mam.   Hi oedd fy ffrind gorau.  Nawr, roedd digon o gyfrinachau rhyngddon ni – roedd hi’n dod o genhedlaeth wahanol  ac er bod hi’n agored iawn, roedd digon o bynciau nad oeddwn i wir yn eu trafod.  Ond fe sylweddoliais i yn y misoedd unig hynny ar ôl ei marwolaeth, fy mod i wedi troi ati am bob dim, mai hi oedd yn gefn tawel i bopeth.  Roedd peidio ei cael hi ar ben arall y ffôn yn gadael gwagle enfawr, ac rwy’n cofio  mynd i’r gystadlaeuateh geffylau gyntaf hebddi a llefen y glaw ar ôl cyrraedd gatre.

Wrth gwrs, yn raddol bach fe wellodd pethau ac fe wnes i ddechre ymgartrefu yn y tŷ. Daeth yr haf ac fe giliodd y teimlad llethol ‘na o golled, yr un amrwd sy’n gallu troi chi’n berson hanner-call a thywyll.

Ond wedyn, yr un mor sydyn bron yn fy achos i, daeth y profiad o fod yn fam am y tro cyntaf. O’r eiliad gyrhaeddodd y babi, (roedd bod yn feichiog jest yn brofiad swreal, rhyfedd) daeth ton arall o golled law yn llaw â’r hapusrwydd.

Wrth gwrs y peth cyntaf oedd yr ysfa i ffonio adref i gyhoeddi bod y babi wedi cyrraedd yn saff – ond bydde mam byth yn clywed y geiriau hynny.  Roedd y dyhead i siarad â hi yn ddi-ddiwedd yn yr wythnosau cyntaf hynny.  Mewn byd sy’n taflu pob math o gyngor cymysg a chymysglyd at famau, yr unig berson roeddwn i am ofyn ei barn oedd mam (wedi’r cyfan, I’d turned out OK, right?).

Bwydo o’r fotel neu’r fron, ‘routine’ neu dim ‘routine’, cysgu gyda’r babi yn yr un gwely neu ddim, bwyd caled cyn 6 mis neu ddim, ayyb, ayyb ?  Coginio, cyngor, cwtshys, cewynnau, cwsg, we’n ni isie mam wrth fy ochr i gyda’r cyfan.  Ond uwchben dim, we ni’n ysu am iddi gael cwrdd â’r ŵyr bach, i’w fwynhau, i gael joio popeth sy’n grêt am fod yn famgu.

Roedd pawb oedd yn dod i ymweld oedd wedi ‘nabod mam (a dad) yn tawelu am ychydig eiliadau cyn dweud, ‘Oh fydde dy fam wedi dwli ar hyn’ – a phob tro bydde’n ni’n clywed hynny we ni’n teimlo ergyd fechan o alar o’r newydd.  Ond dylsen ni bwysleisio, doedd dim ots ‘da fi o gwbwl bod nhw’n ei ddweud e, i’r gwrthwyneb, we ni’n falch bod pobol yn cofio ac yn cydnabod bod yna berson pwysig ar goll.

I fod yn onest, roedd y flwyddyn gyntaf o fod yn fam, heb mam, yn llawer mwy anodd nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl, ac er bod y galar yn llawer llai ‘presennol’ dyddie ‘ma, 5 mlynedd yn hwyrach, mae’n parhau i ddal fi mas nawr ag yn y man.  I chi’n dyheu am y gefnogaeth ymarferol a’r un emosiynol, ac i chi’n gweld mamgus a thadcus eraill ar ddiwrnod mas gyda’u wyrion, neu’n gweld lluniau teuluoedd ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae ‘na deimlad o anhegwch ar adegau, bod fy rhieni i byth wedi cael y cyfle i brofi hyn gyda’m mhlant i.  A weithiau mae yna elfen o chwerwder – yn arbennig ar yr adegau rwy’n clywed pobol yn cwyno bod eu rhieni yn ffaelu neu’n gwrthod gwarchod y plant rhywdro, a rwy’n gorfod gweithio’n galed i gau nheg.

Ond y gwir yw bod gennai ddim byd i fod yn chwerw amdano a dwi ddim yn ysgrifennu hwn er mwyn denu tosturi.  Dim o gwbwl, rwy’n gwybod pa mor lwcus o’n i i gael mam (a thad) oedd yn ffrind, oedd yn gefn, oedd yn llawn cariad ac yn llawn doethineb.  Mewn ambell i ffordd rhyfedd rwy’n falch na fyddai’n gweld mam a dad yn heneiddio ac yn gorfod gwylio dirywiad creulon henaint na gwneud penderfyniadau anodd.  Rwy’n gallu eu cofio fel pobol heini, iach, llawn bywyd a hiwmor.

Mae fy mhlant yn siarad am mamgu a tadcu ac mae nhw’n gweld digon o luniau a chlywed storïau.  Weithiau fe wneith Trystan, y mab, gyhoeddi’n sydyn, ‘Rwy’n gweld isie mamgu’, a mae fy nghalon i’n stopio am enaid, er fy mod i’n gwybod mai parablu plentyn pum mlwydd oed yn unig yw e mewn gwirionedd.

Dwi ddim yn siwr pam rwy’n ysgrifennu hwn, felly.  Efallai mai er mwyn atgoffa’r rhai sy’n cymryd pethe’n ganiataol i beidio gwneud hynny – mae’n ystrydeb (un cyfoglyd braidd), ond mae e’n wir.

Ac os oes gennych chi ffrind sydd newydd ddod yn fam a hithe heb ei mam, ewch â lasagne iddi pan i chi’n ymweld, gwnewch rhywbeth bach, ymarferol, fydde ei mam wedi gwneud drosti yn ystod y misoedd rhyfedd cynta’ hynny o fod yn fam, achos mi fydd e’n meddwl y byd iddi.

Gan Branwen Davies

Hoffai Mam Cymru ddiolch o galon i Branwen am gysylltu gyda ni i gynnig rhannu ei phrofiad, ti yn amazing ac yn ysbrydoliaeth X

Os hoffech chi gyfrannu erthygl neu syniad cysylltwch gyda ni ar mam@mamcymru.wales.

3 Comments

Gadael Ymateb