Bwlio, Unigrwydd, Iselder – Barn Lowri Cet am Sut all Rheini Helpu eu Plant

Mae’r ystadegau’n profi bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn dioddef o iselder ac unigrwydd, ac fel Mam, dwi’n poeni o hyd am sut fydd pwysau a disgywliadau cymdeithas yn effeithio ar fy mhlentyn i. Mae Lowri Cet yn ferch ifanc sy’n blogio am ei phrofiad hi o fwlio, iselder a phroblemau iechyd meddwl, ac er mwyn dysgu sut all rhieni helpu plant sy’n mynd trwy’r profiadau anodd yma, a sut allwn ni fel rhieni adnabod yr arwyddion pwysig yma yn ein plant, dyma drefnu cyflweliad.

Gynta’i gyd Lowri, ble ges di di fagu a sut fagwraeth oedd hi?

Ces i fy magu yng Nghaerwen, Sir Fôn gan fy mam a fy nhad a’n chwaer bach, Rhian. Roedd hi’n fagwraeth da, ond doeddwn i ddim yn blentyn hapus iawn.

Ges di dy fwlio yn yr ysgol, sut effaith gafodd hyn arnat ti fel plentyn?

Dwi’n cofio fo’n cychwyn pan o’n i tua 5 oed, ond dwi’n gwybod bod o wedi cychwyn cyn hynna. Wnai fyth anghofio ffordd roedd fy athrawes ym mlwyddyn 1 yn yr ysgol gynradd yn delio efo’r bwlio… fy rhoi i ar yr un bwrdd a’r bwlis, i ffwrdd o’m ffrindia. Wnaethon nhw dollti’r pot pensiliau drosodd a gwneud i mi godi nhw, yna tollti’r pot eto, ac eto, ac eto, oedden nhw’n greulon ac afiach. Er hynny roeddwn yn ferch boblogaidd yn yr ysgol, dwi’n cofio’n ffrindiau yn ffraeo pwy oedd yn cael eistedd wrth fy ochr i ar y bws.

O’n i’n gwbod fy mod i’n wahanol i’r genod eraill, ac un diwrnod nath o ‘dawnio’ arnai pam. O’n i’n dew. “Puppy fat” ma pawb yn deud oedd o, ond sbio nol oedd gen i fol crwn fel hen ddyn di bod ar y bîars a dybl chin. Dyna pam oedd pawb yn chwerthin pan on i’n neud gymnasteg a dyna pam gwaeddodd hogyn yn fy mlwyddyn i: “Lowri Cêt yn neud karate?! HAHAHAHA” ac ymunodd pawb yn y chwerthin a chymryd y mic. Nes i stopio mynd i’r gwersi karate yr wsos wedyn.

Sut datblygodd pethau yn yr ysgol uwchradd?

Pan es i i’r ysgol uwchradd roeddwn i mwya sydyn yn teimlo hyd yn oed yn fwy nag oeddwn i cynt. Nes i gael gwared o lot o luniau ohonai (dwi’n difaru rwan, ga i na fy rhieni byth mo rheiny nol). Roeddwn i’n un or genod mwya yn y flwyddyn, a doedd neb yn ffansio fi, so yn blwyddyn 8 nes i stopio byta, ac o’n i’n cerdded rhwng 5 a 10 milltir y diwrnod o wirfodd – heb son am gerdded o gwmpas yr ysgol. ‘Nath hogia dechra “popio fyny” ar Facebook ac MSN wedyn, so nath y starfio fy hun weithio yn do?!

Wedyn, wel, fel mae genod yn ei arddega’ yn neud, wnes i golli ffrindia, gwneud rhei newydd, colli rheiny, etc etc. Gwir ydy, doedd gen i’m llawer o gyswllt efo neb, doedd neb yn fy nabod i’n iawn. Er gwaethaf popeth, ar y tu allan o’n i’n edrych fel merch hyderus, hapus a llon ond ar y tu mewn o’n i’n hogan swil, unig a thrist iawn.

Ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 16 oed mae Lowri’n cofio hunan anafu am y tro cyntaf

Pryd wnes di sylweddoli dy fod yn dioddef o iselder?

Ddoth yr iselder law yn llaw efo’r bwlio a’r profiada yn yr ysgol dwi’n credu… dwi methu dweud yn union pryd ddoth o. Mae’n swnio fel bo fi’n gor-ddeud ond dwi’n cofio am y bwlio ac unigrwydd nes i brofi fel plentyn pob dydd, mae o dal i effeithio arnai. Dwi jest yn cal y teimlad ma fel bod fy nhgalon i’n boddi, a weithia ma na lwmp yn fy ngwddw i a ma nhrwyn i’n neud y peth weird ma lle mae o’n llosgi a ma nostrils fi’n fflêrio i stopio fy hun rhag crio. Y gwirionedd ydy fy mod i dal yn hogan bach trist tu mewn. Dwi jest wedi tyfu o’i chwmpas hi.

Fel merch ifanc sydd wedi profi bwlio ac iselder, pa gyngor sydd gen ti i rieni fel fi a sut allwn ni adnabod os ydy ein plent ni’n mynd trwy’r profiadau yma?

Y peth pwysig ydy bod yna i dy blentyn. Gwranda arnyn nhw a paid byth a dweud wrthyn nhw am wneud yr un peth nol i rhywun os ydyn nhw’n cael eu bwlio, achos wedyn geith nhw i drwbwl hefyd a neith nhw’m trystio dy gyngor di byth wedyn rili na? Dwi’n cofio bod yn gas iawn efo fy nheulu i “behind closed doors”, yn cymryd o allan arnyn nhw falle? Dim jest cas, ond brwnt, treisgar. Rois i bynsh go iawn i’m chwaer fach un waith a nes i ddychryn fy hyn efo faint o’n i wedi’i brifo hi – nes i fyth ei chyffwrdd hi eto. On i’n “actio allan”, ac mae pethau fel hyn, pan ti allan o dy gymeriad arferol, yn profi bod na rhywbeth yn mynd ymlaen, felly gwylia allan am y newidiadau yma yn dy blentyn.

Lowri with her mother and sister

Pa gyngor sydd gen ti i rieni plant sy’n dioddef o unigrwydd ac iselder?

Dwi’n teimlo falle bod fy unigrwydd i wedi dod o’r ffaith fy mod i ‘sort of’ fel yna yn naturiol. Mae fy nheulu i gyd yn reit breifat, a dydyn ni’m yn siarad am bethau personol efo’n gilydd. Tydi hynny ddim yn fai ar fy nheulu, dyna ein natur ni, ond pan roedd hi’n amlwg mod i’n diodda o iselder – wnaethon ni dal ddim siarad, ac mae hyn mor bwysig. Siaradwch efo’ch plant, rhannwch eich teimlada efo’ch plant a byddwch yn agored efo nhw am bethau o hyd, mae o’n two-way street, ac os ydech chi wedi arfer siarad yn agored byddan nhw’n hapus i siarad efo chi.

Sut allwn ni adnabod arwyddion bod ein plant yn dioddef neu’n mynd trwy brofiad anodd?

Efallai bod eich plentyn chi yn swil a thawel beth bynnaf, neu ella bod nhw’n uchel eu cloch a llawen, ella newch chi sylwi gwahanieth, ella ddim. Y peth pwysig yw i ‘checkio’ arnyn nhw a chymryd sylw ohonyn nhw yn gyson! Mae plant yn glyfrach nag ydach chi’n feddwl weithia. Yn aml iawn pan mae plant yn mynd trwy iselder, gor bryder, unigrwydd neu fwlio, tydyn nhw ddim isho poeni mam a dad neu nain a taid. O’n i’n ymddangos yn hapus o flaen fy rhieni ond wedyn yn mynd i’n stafell i grio.

Oes digon o gymorth proffesiynnol allan yna i bobl ifanc sy’n dioddef o fwlio, unigrwydd ac iselder?

Mae’r lefel o gymorth yn amrywio o ysgol i ysgol, ac o ardal i ardal. Chefais i ddim yr help roedd ei angen arna i. Rwan fel oedolyn, dwi’n gweithio efo plant, a dwi di sylwi nad ydy pob oedolyn mewn grym yn cymryd bwlio, unigrwydd ac iselder plant o ddifri. “Jest chwara ma’ nhw”, “O fysa plentyn bach so-and-so ddim yn neud hynna”, “Plant ‘di nhw.” Os nad ydy’r plentyn yn hapus – mae yna reswm, wir yr. Boed yn fawr neu bach, mae angen mwy o gymorth ar oedolion sy’n agos i blant, er mwyn adnabod arwyddion gwahanol, ac er mwyn gwybod sut i helpu’r plant yna.

Pam ti’n meddwl bod mwy o bobl ifanc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl heddiw?

Dwi ddim yn synnu ar yr ystadegau a’r ffaith bod mwy o blant yn diodde heddiw. Dwin cofio rhywun yn dod mewn i siarad efo ni yn yr ysgol gynradd am beth oedd bwlio pan ond gaswon ni dim addysg pellach yn yr uwchradd. Mae mwy o bwyslais ar bethau eraill rwan ond peidiwch ag anghofio am bwlio… mae o’n dal i ddigwydd, ac yn waeth oherwydd pethau fel y cyfryngau cymdeithasol.

Oes rhywbeth allwn ni wneud i ddiogelu ein plant yn well ar y cyfryngau cymdeithasol?

Plis, dwi’n erfyn arnoch chi fel rhieni. Dwi’n sal o weld plant bach blwyddyn 4, 5 a 6 yn dod fyny ar Instagram a Facebook a gweld fideos Musical.ly (ie, ma hwnna’n gyfrwng cymdeithasol hefyd) mae o’n anghyfreithlon i blant bach fynd ar y pethau ma a’ch rol chi fel rhieni ydy gwarchod nhw. Ydy’n ddoeth i blentyn 9 mlwydd oed rhoi selfie neu fideo i fyny ar y cyfrngau yma a derbyn sylwadau am sut mae nhw’n edrych? Sylwada da neu drwg – ma’n mynd i gael effaith arnyn nhw yn y bon.

Yn olaf, pa gyngor sydd gen ti i blant a phobl ifanc sy’n mynd trwy hyn?

Siarad, gyda unrhywun allan nhw ymddireid ynddynt, rhiant, athro, ffrind, modryb unrhywun. Y neges bwysig i blant wybod ydy bod bwlis ddim yn bobl hapus eu hunain, dyna pam mae nhw’n neud o. Hefyd, so what os oes rhywun yn cael mwy o ‘likes’ ar Instagram ac ati – pa wahaniaeth mae o’n gneud go iawn? Dim. Be sy’n bwysig i blant wybod ydy bod nhw’n sbeshal, dim ond un ohonyn nhw sydd ac mae’n bwysig bod y bwlis a’r bobl gas yma ddim yn difetha nhw achos mae bob un ohonan ni yn arbennig yn ein ffordd ein hunain.

Hoffai Mam Cymru ddiolch o galon i Lowi Cet am ein addysgu ni ac am agor ein llygaid ni. Dydy bwlio ddim yn dderbynniol, dylai yr un plentyn deimlo’n isel ac unig ac mae’n amlwg bod lle inni gyd chwarae rol er mwyn gwella’r sefyllfa a sicrhau bod yr ystadegau’n newid. Fel Lowri dwi’n casau gweld plant ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n amlwg bod y cyfryngau yma yn chwarae rol fawr ym myd bwlio a iechyd meddwl ein plant. Dwi ddim yn pregethu fel arfer, ond yn dilyn y cyfweliad hwn dwi’n credu bod hi’n gyfrifoldeb arnon ni fel rhieni i arwain trwy esiampl a meddwl am sut ryden ni’n defnyddio ein ffonau symudol o flaen ein plant a phobl ifanc.

*I ddarllen blog Lowri cliciwch yma

Gan Heulwen Davies, Mam Cymru

Gadael Ymateb