Barn Mam – Gwyliau Yn Lapdir Gyda’r Plant!

Ydech chi fel fi, ac wedi breuddwydio am fynd ar wyliau teulu i Lapdir, ond hefyd yn cwestiynnu ydy o werth yr holl bres? Un fu draw yno yn ystod Rhagfyr 2018 oedd Branwen Davies a’r teulu, a dyma holi i Branwen am adolygiad gonest o’r profiad ….

“I want to go to Spain!” Oedd ymateb fy mab, 5 mlwydd oed, pan glywodd e gynta’ bod e yn mynd i Lapland.  Nid y dechrau gorau…blydi plant (i egluro, doeddwn i heb fod ar wyliau tramor o’r blaen a’r unig le oedd e’n cysylltu gyda mynd ar awyren oedd Sbaen gan fod ei ‘childminder’ a’r teulu yn mynd yn aml ac joio yno!).

Yn ffodus, fe wnaethon ni lwyddo i’w ddarbwyllo fod Lapland yn well opsiwn na Sbaen yng nghanol Rhagfyr ac erbyn i ni adael ysgol am y tro olaf ar ddiwedd tymor a phacio’r bagiau roedd cyffro mawr ar gyfer ein gwyliau teuluol cyntaf.  Fe wnaethon ni ystyried fynd ar y trip 3 diwrnod sy’n boblogaidd iawn ond roedd meddwl am deithio dros 2 allan o’r 3 diwrnod, gydag un diwrnod mewn ‘Santa Parc’ ddim yn apelio rhyw lawer gyda 2 fach ‘in tow’.  Felly, dyma fynd am 7 diwrnod mewn cyrchfan gwyliau sgîo, a hynny yn llety rhannol (‘half-board’) a gwneud gwyliau iawn ohonni.

Roedd maes awyr Bryste yn orlawn am 5yb (roeddwn i wedi gadael gatre am 1.45yb) a fuon ni’n sefyll mewn ciw yn ddi-ddiwedd yr holl amser yno tan i ni hedfan am 7yb.  Ches i ddim y cyfle felly i brynu llyfr i fi a phethe lliwio i’r plant ar gyfer y daith ar yr awyren fel oeddwn i wedi bwriadu – camgymeriad sylfaenol gan rywun oedd heb fod mewn maes awyr ers sawl blwyddyn a heb deithio â phlant erioed o’r blaen.  Mi fyddai wedi trefnu’n well y tro nesa’!  Yn sicr, ces i fy atgoffa pam nad oeddwn i wedi bod ddigon dewr i deithio tramor fel teulu cyn hyn!

Wrth lanio yn Kittilä yn Lapland yng nghanol gwylltiroedd gwyn roeddwn i’n gwybod ar unwaith ein bod mewn lle anghysbell iawn.  Ac roedd penawdau’r papurau newydd am ddiffyg eira yn Lapland ychydig o wythnosau cyn i ni deithio – ‘Crapland’ yn ôl un – yn angof.  Roeddwn i’n aros mewn aradal Ylläs ym ‘mhentref’ Ylläsjärvi, ardal sgïo gyda gwesty, blociau fflatiau, rhai siopau (yn gwerthu dillad sgïo) ac ambell i dafarn a bwyty.  Oh a pharc carafannau (a nid phob un oedd yn wag chwaith er gwaetha’r eira a’r tymheredd!).  Roedd lleoliad y gwesty yn wych ac o’r balconi yn ein ystafell yng nghefn y gwesty roeddwn i’n edrych allan ar y llethrau sgïo.

Yn anffodus, roedd fy merch sy’n 3 oed rhy ifanc i gymryd rhan mewn gwersi sgïo yn ystod yr wythnos – roedd rhaid i’r plentyn fod yn 5 oed – felly fe benderfynon ni gadw at y sledio ac roedd llethr benodol ar gyfer hyn.  Roedd ein diwrnodau ar y cyfan yn cynnwys boreau dioglyd, sledio a nofio ym mhwll y gwesty, a wedyn trip bach i dafarn ar ddiwedd y prynhawn – patrwm wnaethon ni ddilyn i’r fath raddau bod fy merch wedi dechrau dweud, “I want to go to the pub!” tua 4 o’r gloch pob prynhawn, Wwps!

Ar ddiwrnodau penodol wnaethon hefyd ymuno â thripiau arbennig – unwaith eto, roedd Mari yn rhy ifanc i ymuno â nifer o’r tripiau oedd ar gael felly mae’n werth ystyried hyn cyn mynd.  Mi fuon ni ar ‘husky safari’ – 5km yn cael ein tynnu drwy’r eira gan 6 o hysgwn oedd yn brofiad fydd yn aros yn y cof am byth, uchafbwynt y trip i ni’r rhieni.

Ar y diwrnod olaf, fe wnaethon ni ymweld hefyd â fferm geirw draddodiadol Sami ddim yn bell o’r ffîn gyda Sweden, oedd hefyd yn brofiad arbennig, yn enwedig mewn tymheredd o -20!  Ac wrth gwrs, fe fuon ni’n ymweld â Santa – wnaethon ni ddim mynd i’r Santa Park, ond yn hytrach mynd ar drip byr i’w fwthyn yn y goedwig yn y tywyllwch, a chafodd y plant hefyd gyfle i sgïo, gwneud bisgedi a mwy yno.

Yn ogystal, roedd fy mab wedi rhoi ei fryd ar fynd i bysgota iâ;  roedd y trip swyddogol i wneud hyn yn ofnadwy o ddrud ond fe wnaeth un o’r ‘guides’ awgrymu ein bod ni yn llogi’r offer ac wedyn yn dal y bws sgïo lawr i’r llyn lleol tua 4km i ffwrdd, a dyna wnaethon ni. 

Mewn gwirionedd doedd dim gobaith caneri o ddal pysgodyn ar y llyn hon (ac roedd e’n amlwg bod y bobol leol yn meddwl ein bod ni off ein pennau) ond i blentyn 5 mlwydd oedd, roedd y profiad o dorri twll yn yr iâ a gostwng y wialen o’r ffon bysgota arbennig i fewn iddo yn ddigon i wneud e’n fachgen hapus.  Roeddwn i’n bod yn hynod Gymreig am y profiad o gerdded mas ar y iâ cofwch – roeddwn wedi cael fy rhybuddio cymaint tra’n blentyn i beidio ceredded ar ddŵr wedi rhewi dan unrhyw amgylchiadau – ac er gwaetha’r ffaith fod ‘snowmobiles’ yn croesi’r iâ hyn roeddwn i dal yn betrusgar a gofalus!  Ond roedd e’n le anhygoel i edrych allan ar yr olygfa a mwynhau’r llonyddwch.

Felly, gwyliau a phrofiadau bythgofiadwy ac i raddau mae disgwyliadau’r plant am dripiau tramor yn mynd i fod yn ofnus o uchel o hyn mlaen!  I fod y berffaith onest, doeddwn i ddim wedi gwneud llawer o ymchwil o flaen llaw a lwc pur oedd e ein bod ni wedi darganfod lle oedd mor arbennig.  O bosib mae ymweld â Rovaniemi, yr ardal mwyaf pobolgaidd a phrysur ar gyfer ymweld â Santa yn Lapland, yn brofiad gwahanol iawn ond roedd Ylläs yn syndod o dawel a ddim yn or-fasnachol o gwbwl, yn enwedig o ystyried ein bod ni yno wythnos cyn Nadolig.  Yn wahanol i’r wlad hon, doedd dim goleuadau gorliwgar  ym mhob man, na cherddoriaeth Nadoligaidd naff, dim ond rhai goleuadau cynnil ar ambell i goeden yn goleuo’r eira ac yn creu awyrgylch hudolus.

Wrth gwrs, nid popeth oedd yn berffaith.  Mae pob dim yn ddrud yno, o’r diodydd i’r teithiau.  Yn ffodus, gan ein bod ni yn ‘half board’ prin oedd yr arian wnaethon ni wario ar fwyd (cwato bwyd o’r buffet brecwast mewn cwdyn, fi? Byth!).  Roeddwn i’n mwynhau un rownd o ddiodydd alcoholig pob dydd fel ‘treat’ – ond wedyn falle bod hynny yn beth da!  Roedd cost y teithiau yn gost ychwangeol i gost craidd y gwyliau wrth gwrs ond mewn gwirionedd, onibai eich bod yn sgïo, roedd e’n anodd osgoi mynd ar ambell drip achos doedd dim modd neud rhyw lawer arall yno, ac o achos yr eira a’r lleoliad a’r tywyllwch (rhyw 3 awr o olau dydd iawn pob dydd) doedd dim wir modd trefnu gwneud teithiau ‘DIY’ annibynnol, a gyda 2 o blant bychan mae’r diwrnodau o fod yn deithiwr annibynnol, anturiaethus a mentrus wedi hen fynd, cyffyrddus, saff a rhwydd yw hi i fi dyddie ‘ma!

Yn sicr, mae yn oer yno.  Roeddwn i wedi llogi’r ‘all-in-ones’ mae’r twristiaid i gyd yn eu gwisgo yno, ond i fod yn onest, gan mai rhyw -8 oedd hi ar ein diwrnodau cyntaf yno roedd y gwisgoedd sgïo o Aldi yn ddigonol.  Ar y 2 ddiwrnod olaf fodd bynnag fe wnaeth y tymheredd ostwng yn sylwedol ac roedd yr oerfel yn cnoi adeg hynny.  Doedd hyn ddim yn broblem achos roedd y wisg iawn gyda ni gyd ac mae’n rhan o’r profiad o ymweld â’r lle yn fy marn i – OND yr un peth wnes i wir ddim fwynhau pedd y ‘palafa’ o wisgo pawb yn yr haenau di-ri bob bore er mwyn gadael y gwesty.   Fel wedodd un mam arall wrthai, “Do find getting everyone dressed adds an hour to your day?”  Yup!

A does dim gwadu bod yna gwympo mas a strancio teuluol ac mi roedd yna sawl achos o PDLMS ar fy rhan i (Public Displays of Losing My Mothering Shit) – mae gennai fab sy’n mynd drwy gyfnod o golli tymer am bob math o bethau gwbwl boncyrs ac annisgwyl, a merch sydd â phenderfyniad ac egni dwi’n edmygu, ond sy’n anodd i fyw gydag e weithie – yn enwedig mewn ystafell westy lle mae’n amhosib dianc fîn nos!

Yn sicr, mi fydden ni’n ystyried ymweld â Lapland eto a mynd yn ôl ar wyliau sgïo i Ylläs achos mi roedd e’n le bendigeig, â’r gwesty ar droed y llethrau sgïo (ac roedd modd hefyd dal y bws sgïo draw i ochr arall y bryn i Äkäslompolo a sgïo man hynny yn ogystal). Rwy’n falch ein bod ni wedi mynd ar drip hirrach ac mai nid ymweld â’r Ffindir i weld Sion Corn oyn unig oeddwn i – roedd e’n wyliau go iawn a rwy’n gobeitho pan fydd y plant yn hŷn a phrofiad Nadolig yn wahanol iawn y byddan nhw’n cofio llawer mwy na gweld Santa yn unig felly.  Yn wir, os rwy’n gofyn i Trystan am ei hoff ran o’r gwyliau nawr hyd yn oed, y pysgota iâ mae’n sôn amdano.  Petawn ni yn gofyn i Mari cofiwch, rwy’n credu byddai hi’n sôn am yr i-pad oedd yn rheoli a dosbarthu y diodydd amser brecwast, roedd hi wedi gwirioni’n llwyr gyda hwnnw!

I fi, fyddai’n cofio pob math o bethau.  Ie, wynebau’r plant o weld Santa a gweld yr hysgwn yn carlamu o’n blaenau drwy’r anialdir gwyn, ond hefyd yr oerni sy’n coglais-bigo’r croen, sŵn yr eira yn crensian dan droed (yn enwedig yn y goedwig yn y nos pan oeddwn i’n mynd mas i geisio gael cip o Oleuadau’r Gogledd – dim lwc gyda hynny yn anffodus) a milltiroedd ar filltiroedd o ddim byd ond coed ac eira gwyn-ddisglair.  Oh, a’r ffaith ei fod hi mor oer yno bod ‘snot’ fy nhrwyn yn rhewi!  #makingmemories ondife.

Hoffai Mam Cymru ddiolch o galon i Branwen Davies am rannu’r profiad a;i barn gyda ni. Mae’n amlwg felly ei fod o yn wyliau da a hudlous a bod modd gwneud ambell i daith neu ymweliad yn rhatach hefyd. Amdani?!

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: