Beichiogrwydd a Diabetes – Profiad Siwan Richards

Naw mis. Allwch chi wneud lot mewn nawr mis. Allwch chi hefyd dyfu person.

Naw mis o feichiogrwydd. Naw mis o’r corff yn newid ac yn datblygu. Naw mis o ddarllen llyfrau di-ri. Naw mis o gael barn a chyngor. Naw mis o boeni yn gymysg ag edrych ymlaen. Naw mis o baratoi.

Daeth tro ar fy meichiogrwydd pan on i’n 29 wythnos wrth ddarganfod glucose yn y dwr. Gorfod mynd am brawf glucose mwy manwl o fewn 3 diwrnod a wnaeth gadarnhau fod gen i Diabetes yn ystod beichiogrwydd neu Gestational Diabetes.

On i wedi clywed am Gestational Diabetes, ond byth yn meddwl y byddwn i’n ei gael, felly odd e’n dipyn o sioc. Do’n i ddim dros bwysau, ddim dros 35 oed, a doedd dim hanes o diabetes teip 1 yn y teulu. Yn wir, roedd yr ymgynghorydd a’r sonograffydd mewn sioc o’r diagnosis hefyd.

Gestational diabetes yw siwgr gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd sydd fel arfer yn mynd ar ôl genedigaeth. Mae’n datblygu os yw’r corff yn methu cynhyrchu digon o inswlin – hormon sy’n helpu i reoli lefelau siwgr y gwaed – i gwrdd ag anghenion ychwanegol mewn beichiogrwydd.

Fe ddes mewn i rythm o brofi fy hun bedwar gwaith y dydd yn weddol hawdd, gan ddefnyddio teclyn i dynnu’r gwaed ac i weld os oeddwn i’n rheoli’r inswlin. Roedd yn rhaid cadw ar y trywydd cywir gyda popeth yr oeddwn yn ei fwyta. Os na fyddwn yn medru rheoli trwy ddeiet, byddai’n rhaid cymryd tabledi neu inswlin. I berson sydd ddim yn cymryd tabledi fel arfer, fe wnaeth hyn fy ngwneud i’n benderfynol o reoli trwy ddeiet.

Fe weles i’r newid mewn ffordd o fwyta yn eithaf caled.Hyd at hynny, ro’n i wedi bod yn bwyta’n ddiogel. Fyddwn i ddim yn dweud fy mod i’n bwyta’n wael, gan fwyta prydiau maethlon. Er hyn, os on i whant bwyd melys, fe fyddwn i’n ei gael heb feddwl ddwywaith.

Roedd hwn yn wahanol i ddeiet ro’n i wedi arfer ag ef. Fel arfer, byddwn i’n cael uwd, banana a grawnwin i frecwast dros misoedd oer y gaeaf – digon iach meddech chi. Er hyn, roedd uwd yn uchel mewn carbohydradau a’r ffrwythau yn uchel mewn siwgr. Felly, bwyta naill ai sleisen o fara brown gyda wyau, neu iogwrt plaen, aeron a chnau.

Fel un sy’n mwynhau paned o de, ro’n i wedi newid i yfed decaf ta beth. Y peth anodd oedd lleihau beth on i’n bwyta gyda’r te decaf! Dim siocled, bisgedi na chacennau. Ond cofiwch, ro’n i’n cael bisgien digestive neu ddarn bach o siocled tywyll weithiau, oedd ddim yn rhy wael, afal gyda peanut butter, neu rice crackers.

Cawl i ginio – perffaith. I swper, byddwn i fel arfer yn cael rhywbeth fel tatws stwmp gyda casarol cyw iar o’r crochan poeth. Nid oeddwn yn medru bwyta stwmp, sglodion, pasta na reis, felly dewis tatws pob neu tatws melys fach yn ei le, gyda mwy o lysiau gwyrdd.

Gan fod y beichiogrwydd yn risg uwch oherwydd y diabetes, roedd yn rhaid i fi gael sgan ychwanegol bob pedwar wythnos i sicrhau bod y babi’n tyfu a chwrdd gyda ymgynghorydd bob pythefnos. Roedd yn rhaid i fi eni yn y ward geni yn hytrach na’r uned bywragedd – rhywbeth yr oeddwn i wedi gobeithio osgoi. Er hyn, fe ges i enedigaeth positif iawn.

Dyw diabetes ddim yn gyflwr i’w gymryd yn ysgafn. Fe ddysgais faint mor ddifrifol yw pob math o ddiabetes trwy fod yn ei chanol hi. O’r eiliad y cafodd Gruff ei eni, fe aeth y diabetes, ac ma fe hefyd yn glir o’r cyflwr. Rhyfeddol! Er hyn, mae posibilrwydd cryf o gael Gestational Diabetes gyda beichiogrwydd y dyfodol a risg o ddatblygu diabetes teip 2 yn hwyrach mewn bywyd.

Roedd cael Gestational Diabetes wedi fy ngorfodi i fwyta’n dda iawn yn ystod ail hanner fy meichiogrwydd. Oherwydd hynny, fe wnaeth reoli fy mhwysau oedd yn arbennig o dda i’r iechyd yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd – rhywbeth y dyliwn i fod wedi ystyried o’r dechrau.

Felly, lleihau ar y carbohydradau a’r siwgr. Mae gwers fyna i ni gyd mae’n siwr. Ond cofiwch, fi’n mwynhau carbs a siwgr fel y person nesa!

Pwy a wyr pam fy mod wedi cael Gestational Diabetes ond roedd yn brofiad ac yn agoriad llygad. Yng ngeiriau Alex Jones, mae’r naw mis o feichiogrwydd, a’r cyfnod wedi hynny, wir wedi bod yn ‘Winging it’ i fi. A phwy sydd ddim!

Hoffai Mam Cymru ddiolch o galon i Siwan Richards am baratoi’r erthygl arbennig hon i’w rhannu ar Mam Cymru. Os hoffech rannu eich profiad chi o feichiogrwydd a magu plant yma yng Nghymru, ebostiwch mam@mamcymru.wales. 

Gadael Ymateb