Dwi’n Gaeth i Weips!

Doeddwn i erioed wedi bwriadu dod yn gaeth i weips.

Ar y dechrau, roedden nhw jyst yn ffordd hwylus o sychu penolau’r babis. Wedyn ddechreuais i eu defnyddio nhw i olchi eu hwynebau, wedyn eu cadeiriau bwydo.

Cyn pen dim, o’n i’n eu defnyddio nhw am bopeth – bwyd oedd wedi tasgu ar y bwrdd, pethau oedd wedi sarnu ar y llawr, a hyd yn oed marciau creon ar y waliau. O sychu canllaw’r grisiau i lanhau mwd oddi ar y drws ffrynt, mae weip yn gallu glanhau bron a bod unrhyw beth.

Pwy allai beidio â syrthio mewn cariad â rhywbeth sy’n gallu cael ei ddefnyddio am unrhyw beth, o lanhau colur o’r llygaid i ddwstio sil y ffenestr? Gyda weip, gallwch chi wneud pethau a oedd y tu hwnt i ddyfeisgarwch dyn yn fy mhrofiad i: fel sychu marciau bwyd oddi ar fy jîns, neu sgwrio past dannedd o hoff siwmper.

Ac os ydych chi unrhyw le’n agos at yr ystafell ymolchi, beth yw’r ffordd hawsaf o gael gwared arnyn nhw? Y tŷ bach ynte? Un fflysh, ac i ffwrdd â nhw. A dyna ddiwedd arni.

Ond wedyn fe ddechreuais i weithio dros Ddŵr Cymru, a gwelais i oblygiadau obsesiwn cynyddol y genedl â weips gyda fy llygaid fy hun. Fe welais i beth sy’n digwydd ar ôl fflysio’r tŷ bach yna. A doedd hi ddim yn bert.

Mae Dŵr Cymru’n delio â 2,000 o dagfeydd pob mis – a weips, nwyddau mislif, ffyn gwlân cotwm ac eitemau eraill sy’n cael eu fflysio i ffwrdd sydd i gyfrif am 75% o’r rhain. Wrth gymysgu â braster a saim o’n sinciau, mae’r holl bethau hyn yn ceulo yn domen fawr o fudreddi danddaear.

Gwnaeth y ffeithiau brawychus yma mi i feddwl am fy arferion fy hun gyda’r weips. Roeddwn i’n gaeth, ac nid oeddwn i ar fy mhen fy hun. Mae poblogrwydd weips wedi cynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf.

Y broblem yw, nad yw weips – rhai babanod, rhai colur, rhai gwlyb, a rhai glanhau – yn datgymalu yn y pibellau fel y mae papur tŷ bach (ac mae hynny’n wir am y rhai sy’n dweud bod modd eu fflysio ar y pecyn hefyd, a oedd yn newyddion i fi!).

Gyda phobl yn fflysio’n ddifeddwl, mae cwmnïau dŵr ar draws y byd i gyd yn ei chael hi’n anodd cadw’r carthffosydd yn glir. Os nad yw’r dagfa’n cael ei dal mewn pryd, mae’r canlyniadau’n gallu bod yn erchyll. Yn y carthffosydd, mae’r weips yn arnofio ar ben y dŵr gwastraff gan amsugno’r olew a’r saim, ac maen nhw’n glynu at ei gilydd gyda’r braster a’r saim i ffurfio tagfeydd neu ‘domenni saim’ mawr fel y rhai rydych chi wedi eu gweld yn Llundain.

Mae gweld hyn gyda fy llygaid fy hun wedi gwneud i mi feddwl…

Mae’r syniad o domenni anferth o weips yn llechu yn y carthffosydd o dan eich cartref yn ddigon i droi stumog unrhyw un, ond mae’r risg o dagfeydd o ganlyniad i hynny’n waeth byth. Erbyn hyn, bob tro y bydd gen i’r demtasiwn i fflysio fy annwyl weips, mae’r posibilrwydd o achosi llifogydd carthion mewn cartrefi, ar draethau ac mewn cymdogaethau’n fy atal.

Mae pob un weip, ffon gwlân cotwm neu ddarn o edau dannedd yn mynd yn syth i’r bin. Ond dyw anfon yr holl bethau hynny i dirlenwi ddim yn ddelfrydol chwaith.

Dyw hi ddim wedi bod yn hawdd rhoi’r gorau i’r weips. Dwi wedi ceisio dychwelyd at fywyd fel yr oedd hi cyn y weips: defnyddio clwtyn ymolchi i glirio colur, defnyddio dŵr a sebon i olchi dwylo, a glanhau arwynebeddau â chlwtyn amldro yn hytrach na weips glanhau. Dim ond wrth newid cewynnau, ac i lanhau ambell i wyneb brwnt, y byddaf i’n defnyddio weips nawr.

Ac yn bwysicach na dim, rwy’n gwneud yn siŵr bod pob un yn mynd i’r bin, nid i’r tŷ bach.

Trwy’r newidiadau bychain yma, rwy’n gwneud fy rhan i atal llifogydd mewn cartrefi a chymdogaethau, ac i amddiffyn yr afonydd a’r moroedd fel y gall Mabel a’i chwaer fwynhau’r traethau am flynyddoedd i ddod.

Gan Hayley Spencer Edwrads.

Hoffai Mam Cymru ddiolch o galon i Hayley am gyfrannu’r erthygl a dwi’n siwr bydd pob un ohonom yn meddwl dwywaith cyn rhoi’r weips i lawr y toiledau yna o hyn ymlaen.

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: