Heriau magu plant i rieni sydd heb rieni

Rwy’n cofio’r diwrnod fel ddoe. Roeddwn i’n eistedd yn y gegin yn bwyta fy mrecwast cyn mynd i’r gwaith. Roeddwn i’n 7 mis yn feichiog a roeddwn yn edrych ymlaen at ddechrau fy nghyfnod mamolaeth.  Canodd ffôn y tŷ ac eglurodd fy nhad, a oedd yn swnio’n braidd yn boenus, fod fy mam wedi syrthio ar ei thaith i’r gwaith a’i bod yn cael ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans. Roeddwn i’n byw yn y dref a felly dim ond taith fer oedd yr ysbyty leol. Yr wyf yn cofio aros yn y maes parcio i’r ambiwlans gyrraedd ac yn cael fy nghysuro gan y ffaith fod y seirenau neu oleuadau ddim yn fflachio. Ychydig a wyddwn fod hyn oherwydd y ffaith bod fy mam eisoes wedi marw o drawiad ar y galon wrth deithio. Roedd hi’n 58 ac nid oedd ganddi unrhyw gyflyrau meddygol blaenorol.

Yn anffodus, roedd fy mam yng nghyfraith ryfeddol wedi marw ar ôl brwydr fer â chanser y flwyddyn flaenorol ac felly roedd fy mam wedi penderfynu ymddeol yn gynnar fel y gallai dreulio cymaint o amser â phosibl gyda mi a’r baban. Roedd hi’n hoff iawn o blant ac roedd hi mor gyffrous am ddyfodiad fy mwndel bach o lawenydd.

Dau fis yn ddiweddarach rhoddais enedigaeth i fy mab (nawr yn 13). Nid oedd yn enedigaeth hawdd a chefais doriad Cesaraidd dan anesthetig cyffredinol. Yn ystod y misoedd yn dilyn, fe syrthiais mewn i iselder dwfn ac er y byddai ffrindiau a theulu ystyrlon yn ymweld â rhoddion a chardiau i ddathlu’r enedigaeth, roeddwn i’n gweld e’n galed ac yn delio gyda theimladau o golled, dicter ac euogrwydd am fod mor drist ar adeg dylai fod yn amser hapus.

Fodd bynnag, aeth bywyd ymlaen ac er fy mod yn gweld e’n galed heb fy mam a mam yng nghyfraith, fe wnaeth fy nhad ei orau glas i fy nghefnogi er ei fod yn nyfnderoedd ei alar hun. Gwnaethom bopeth gyda’n gilydd ac roedd yn dad-cu anhygoel i fy 3 phlentyn.

Yn anffodus, yn y blynyddoedd a ddilynodd, byddem yn colli fy nhad-yng-nghyfraith ac yn anffodus, fy nhad. Mewn ychydig o flynyddoedd roeddem wedi colli ein holl rieni.

Erbyn hyn yr oeddwn yn fy nhridegau ac yn cael fy nghadw yn brysur yn gweithio fel cyfreithiwr, yn rhedeg busnes ac yn rhuthro o gwmpas ar ôl y plant. Daeth yn amlwg yn fuan, fodd bynnag, bod y drefn hon yn anghynaladwy ac y byddai’n rhaid i mi roi’r gorau i’r yrfa yr oeddwn yn ei charu gymaint er mwyn cael swydd llai heriol yn agosach at adref. Er bod hyn wedi lleddfu’r pwysau braidd, roedd y ffaith fy mod wedi torri fy oriau a’m cyflog yn golygu bod yn rhaid i’m gŵr weithio oriau hirach. Roedd gofynion magu plant yn cynyddu gydag amser ac fel y byddai unrhyw riant yn ei wybod yn dda, mae gan blant fywyd cymdeithasol gweithgar iawn! Pan fyddant yn dweud ‘mae’n cymryd pentref’, mae’n wir.

Mae gwylio’ch plant yn galaru yn rhywbeth na fyddwn yn ei ddymuno ar unrhyw un. Roedd fy mhlant yn edmygu fy nhad ac roedd delio â’u galar nhw ochr yn ochr â fy ngalar fy hun yn, ac yn dal i fod, y peth anoddaf yr wyf wedi delio gyda ef. Mae’n torri fy nghalon pan welaf nhw yn crio am eu bod yn ei golli neu oherwydd bod eu ffrindiau yn cael ‘ cysgu draw ‘ gyda’u Mam-gu a Thad-cu. Mae fy merch ieuengaf hefyd wedi datblygu ofn ofnadwy o farwolaeth a hithau yn(nawr) 10 oed mae’n dorcalonnus i’w weld.

Mae bod yn rhiant heb rieni yn dod â diffyg emosiynol enfawr gydag ef, ond mae hefyd yn golygu nad oes gennych y gefnogaeth ymarferol a roddir i lawer o rieni eraill.  Helpu gyda cludo nhw i’r ysgol a’u holl weithgareddau, gwarchodwyr ar adegau, cefnogaeth emosiynol pan na fydd gennych syniad beth yr ydych yn ei wneud.

Mae yna ddyddiau pan fyddaf yn dymuno bod fy rhieni o gwmpas fel y gallaf ofyn iddynt am gyngor neu gymorth. Roedd gweld ffrindiau yn bwrw ymlaen â’u bywydau a chael amser gwych ar “date nights’ neu ar wyliau gyda’i gilydd yn fy nhristau yn fawr, ond nawr rwy’n teimlo’n ffodus fy mod o gwmpas ac yn gallu treulio cymaint o amser gyda fy mhlant. Rwy’n gwerthfawrogi fy mod yn lwcus.

Mae gen i ŵr cariadus a 3 o blant iach a gwych a ffrindiau gorau dwi’n ddiolchgar iawn amdanynt. Fodd bynnag, weithiau dwi’n teimlo fy mod wedi colli mas. Roeddwn i’n addoli fy rhieni a roedden nhw wir yn ffrindiau gorau i mi ac rwy’n eu colli yn ofnadwy.

Weithiau rwy’n meddwl, tybed a fyddwn i wedi dioddef y problemau iechyd meddwl yr wyf wedi’u cael oni bai am golli fy rhieni, ond fyddaf byth yn gwybod. Yr hyn yr wyf yn ei wybod yw hyn. Nid yw galar bob amser yn gryf, yn ddewr neu’n osgeiddig. Mae’n hyll, yn anniben, yn genfigennus ac yn ddinistriol a gall wneud i chi deimlo eich bod yn berson drwg. Nid ydych yn berson drwg, rydych yn berson sy’n delio gyda set anffodus o amgylchiadau.

Mae bod yn rhiant heb rieni yn golygu nad ydw i’n cymryd pethau’n ganiataol mwyach ac rwy’n caru gyda fy nghalon i gyd. Os ydych yn ddigon ffodus i gael eich rhieni gyda chi o hyd,  ffoniwch nhw neu ewch i’w gweld i ddweud wrthynt faint yr ydych yn eu caru ac yn eu gwerthfawrogi nhw. Ac ar gyfer y rhai ohonoch sy ddim mor lwcus neu am ba bynnag reswm gyda perthynas dan straen gyda’ch rhieni, cwtsh mawr i chi gyd.

Fel Mam dw i bob amser yn parchu fy nghyd famau a wir yn meddwl na ddylem roi gormod o bwysau ar ein hunain a’n gilydd ac y dylem fod yn gefn i’n gilydd. Rydym yn gwneud gwaith anhygoel a dylem gydnabod hynny mewn gwirionedd. Byddwch yn garedig, byddwch yn ddiolchgar, byddwch yn anhygoel!

Gan Nicola Rees.

Hoffai Mam Cymru ddiolch o galon i Nicola am gysylltu gyda ni i holi am rannu ei phrofiad personol er mwyn helpu a rhoi cysur i rieni eraill #MamPower. Os oes ganddoch chi stori neu syniad i’w rhannu gyda’n darllenwyr, cysylltwch â ni ar mam@mamcymru.wales

Gadael Ymateb