Barn Mam: Gŵyl The Good Life Experience a Llyfr Coginio Newydd Cerys Matthews!

Ar ôl gwyliau haf rhyfeddol iawn gyda fy nheulu, dechrau swydd newydd, setlo i mewn i flwyddyn ysgol newydd, clybiau ar ôl ysgol ac ati ac ati, roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at ymlacio a chrwydro’r Ŵyl The Good Life Experience gyda fy ffrind Clara sy’n fam hefyd.

Ar ôl cael gwahoddiad i adolygu’r Ŵyl ar ran Mam Cymru (diolch yn fawr iawn!), y cynllun oedd gwneud y gorau ohoni a theithio i fyny ar y dydd Gwener ac aros tan ddydd Sul. Yn anffodus, roedd gan fy nghorff syniadau eraill! Rydw i wedi bod yn dioddef o annwyd a byg ofnadwy ers nos Lun, sydd bellach wedi cael diagnosis gastroenteritis a haint ar y frest! Wna’i ddim rhannu gormod o fanylion ond y cyfan a ddywedaf yw nad yw fy nghyflwr yn ‘gyfeillgar i’r portaloo’! Penderfynais fod teithio i fyny am y dydd Sadwrn gymaint ag y gallwn ei wneud ac mae’r ffaith fy mod i’n ysgrifennu hyn yn profi fy mod i wedi goroesi #MamPower!

I’r rhai ohonoch sydd heb ddarganfod The Good Life Experience, mae’n Ŵyl flynyddol am bedwar diwrnod ym mis Medi ac fe’i cynhelir yn Ystâd Penarlâg, llecyn hynod hyfryd a heddychlon yng Ngogledd Cymru. Hon oedd y chweched Ŵyl ac ar ôl siarad â llawer o’r mynychwyr rheolaidd yn y digwyddiad, deallaf fod yr Ŵyl eleni yn fwy na’r arfer.

Un o’r sylfaenwyr yw un o’r Mamau Cymreig mwyaf cŵl sydd i’w chael, neb llai na Cerys Matthews, does dim angen cyflwyniad pellach! Aelodau eraill o’r tîm yw’r teulu Gladstone sy’n berchen ar yr Ystâd hardd hon. Eu breuddwyd ar y cyd yw creu (dyfynnu rhaglen yr ŵyl) ‘Gŵyl o hwyl a darganfod, a’r gorau a’r mwyaf agos atoch ym Mhrydain’.

Ar ôl cyrraedd y maes parcio, a oedd mewn lleoliad cyfleus yn y cae gyferbyn, ni chafwyd y ciwiau hir arferol i fynd i mewn, roedd yn teimlo’n groesawgar ar unwaith, hamddenol ac ymlacedig. Roeddwn yn falch iawn ei bod yn llai na 2 funud ar droed i’r fynedfa, ac yna’n llai na 5 munud ar droed i’r maes gwersylla. Pawen lawen fawr i chi am hyn, a phawen lawen arall am ddarparu cymaint o bortaloos, cawodydd a gorsafoedd ail-lenwi dŵr hefyd!

Rhwng y maes gwersylla a chae’r ŵyl ei hun roedd yr hyfryd Siop Fferm, yn gwerthu llawer o gynhyrchion hyfryd o Gymru a phethau hyfryd eraill hefyd. Roedd ganddyn nhw deli, cownter cig, cownter coffi ac roedd ganddyn nhw bopeth yr oedd ei angen arnoch chi ar gyfer y penwythnos, o becynnau brecwast i weini uwd ffres neu pitas brecwast poeth a llawer o gwrw a gin o Gymru (nad oeddwn i’n gallu manteisio arnyn nhw eleni yn anffodus!). Yn sicr, byddaf yn teithio’n ôl yma yn ystod y flwyddyn i gael danteithion blasus i’r ‘cwpwrdd Nadolig!’ (na, nid yw hi byth yn rhy gynnar!)

Roedd cae’r Ŵyl ei hun yn wirioneddol groesawgar ac yn llawer llai nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl. Dyma’r math o amgylchedd sy’n gwneud ichi deimlo eich bod wedi ymlacio, heb fod yn llawn dwsinau o lwyfannau a bariau a stondinau bwyd, dim ond man agored a hamddenol hyfryd, yn union yr hyn a orchmynnodd y Dr. Roedd popeth yn agos at ei gilydd, ac o ganlyniad, arhosodd llawer o blant a theuluoedd yn yr Ŵyl drwy’r dydd, roedd y plant yn gallu rhedeg a chrwydro’n rhydd ac roedd llawer o weithgareddau ar eu cyfer hefyd; o reidiau ffair hen-ffasiwn i’r trapîs i grefftau a mwy.

Mae yna lawer iawn o ffocws ar archwilio yn yr Ŵyl hon, archwilio treftadaeth a diwylliant ac mae cryn dipyn o’r ffocws hwnnw ar fwyd, y gair llafar a cherddoriaeth a sut mae’r rhain yn dod â phobl ynghyd i fwynhau a darganfod pethau newydd. Roedd yn braf gweld sut mae’r Ŵyl hon yn mynd â ni’n nol at bethau sylfaenol ac yn addysgu pobl sy’n mynd i’r Ŵyl yn hytrach na chanolbwyntio ar alcohol fel y mae’r rhan fwyaf o wyliau yn ei wneud!

Roedd gan Hybu Cig Cymru stondin ger y fynedfa a gwnaethom ddarganfod bod Cerys ei hun ar y ffordd draw i wneud arddangosiad coginio awyr agored i hyrwyddo ei llyfr newydd ‘Where the Wild Cooks Go’, a oedd yn cael ei lansio’n swyddogol yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Yn ystod y sesiwn hon roedd Cerys yn gwneud cawl ar Kotlich, crochan awyr agored sy’n hongian ar drybedd. Cefais fy nharo braidd pan ymddangosodd gyntaf, mae hi’n sicr yn un o fy arwyr, ac ni chefais fy siomi. O’r cychwyn cyntaf, fe fwrodd ati, yn torri’r llysiau i fyny, yn ein haddysgu am draddodiad cawl, esbonio’r llawenydd y mae’n ei gael o goginio o’r dechrau i’w theulu a’i hatgofion plentyndod o fwyta o amgylch y bwrdd.

Esboniodd hefyd sut mae Ystâd Penarlâg yn ddrwgenwog am frwydrau rhwng Llywelyn Fawr a’r Saeson, ac yn eistedd yno ymhlith dieithriaid o Gymru a Lloegr a thu hwnt, mae’n dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod fel Cenedl ac mae’n profi pa mor falch yw Cerys o’i threftadaeth a’i magwraeth Gymreig. Fe fanteisiais ar y cyfle i gwrdd â Cerys a’i Mam wrth iddi barhau i baratoi’r cawl! Roeddent yn hyfryd, ac felly hefyd y cawl cig oen o Gymru!

Yn nes ymlaen, cerddais i a Clara o amgylch rhes y gwneuthurwyr, y grîn naddu a’r stondinau, ac roedd yn hyfryd gweld crefftau traddodiadol a gwneuthurwyr arbenigol wrth eu gwaith yn creu pob math o ddarnau hyfryd o emwaith i gyllyll i ddarnau copr a bowlenni pren, fe allech chi dalu i ymuno a chreu darn i fynd adref gyda chi, sy’n syniad mor hyfryd.

Ymhlith y stondinwyr gwnaethom gwrdd â llawer o famau hyfryd o Gymru a oedd yma i arddangos eu cynhyrchion cartref a’u busnesau bach eu hunain, gan gynnwys Mabli Knits o Sir Gaerfyrddin a Bathing Beauty o Ruthun. Roedd hi’n wledd i’r llygaid rhwng y synhwyrau a’r cynhyrchion gofal croen hyfryd i ddillad a gemwaith, o fagiau ac esgidiau lledr i nwyddau cartref a chelf a chymaint mwy. Fe allech chi wneud llawer o ddifrod i’ch cerdyn credyd yma, ond byddai gennych falchder a chysur o wybod eich bod chi’n cefnogi’r busnesau a’r crefftwyr hyn a ddewiswyd yn ofalus. Nid oedd yr un o’r stondinau ‘tat’ na ‘rhad’ arferol yma, roedd y cyfan yn gynaliadwy ac o ansawdd uchel ac roeddwn wrth fy modd â’r cyfan.

Mae rhaglen yr Ŵyl yn llawn dop o sgyrsiau a siaradwyr gwadd. O sgyrsiau ysbrydoledig gan bobl fel y Fonesig Stella Rimmington, cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol MI5 i Helen Sharman, y Prydeiniwr cyntaf yn y Gofod i sgyrsiau am iechyd meddwl a hyfforddiant bywyd i gomedi, yn llythrennol roedd rhywbeth yma i bawb. Fe wnaethon ni daro ar sgwrs gan John Savage a oedd yn rhannu ei brofiad o’r Joy Divison gydag Emma Warren. Gan gofio mai sgwrs am 2 o’r gloch y prynhawn oedd hon, gyda phlant yn rhedeg o gwmpas, doeddwn i ddim wir yn gwerthfawrogi ei regi cyson a’r ffordd yr oedd yn siarad yn hudolus am gyffuriau, rwy’n credu y byddai’r sgwrs hon wedi bod yn fwy addas yn hwyrach yn y nos!

Cyferbyniad llwyr a llecyn croesawgar iawn oedd ardal yr afon ar Ystâd Penarlâg, yn enwedig gan fod yr hyfryd Ben Fogle ar y safle yn beirniadu cystadleuaeth blymio cŵn hynod ddoniol a phoblogaidd! Yma, fe allech chi rentu canŵ a phadlo ar eich cyflymder eich hun, cymryd rhan yn y sesiynau nofio gwyllt neu hyd yn oed y sesiwn Cerdded Tân, neu fe allech chi ymlacio a chymdeithasu yma fel y gwnaethon ni!

Gerllaw roedd yr ardal les gyda rhes o tipis yn cynnig tylino, reiki, adweitheg, cinesioleg, tai chi, ioga a mwy. Roedd mwyafrif y rhain wedi’u harchebu ymlaen llaw, ond roeddwn i wrth fy modd â’r ffaith ei fod mewn lleoliad mor heddychlon a phreifat, dw i’n difaru peidio ag archebu sesiwn ymlaen llaw ond fyddai’n gwybod tro nesaf!

Yn ddiweddarach yn y prynhawn aethom i lansiad llyfr Cerys a llwyddo i gael seddi rhes flaen. Nid dim ond dweud hyn ydw i, ond mae’r llyfr hwn ‘Where the Wild Cooks Go’ yn anhygoel! Nid eich llyfr coginio arferol mohono, mae’n gymaint yn fwy na hynny, mae’n daith addysgol arall o ddarganfod, fel yr ŵyl ei hun. Mae’r daith goginio hon yn mynd â chi ledled y byd wrth i chi goginio yn eich cegin eich hun.

Mae wedi’i rannu’n fwydydd o 15 gwlad wahanol, ac yn ogystal â dysgu am y traddodiadau a’r diwylliant bwyd yn y gwledydd hynny, ceir cerddi, straeon a lluniau o anturiaethau Cerys yn y gwledydd hynny a phe na bai hynny yn ddigon, mae hi wedi creu rhestr chwarae cerddorol i chi wrando arni wrth goginio’r ryseitiau! Unigryw, addysgiadol, ysbrydoledig a dim nonsens, a dyna sut y byddwn i’n crynhoi Cerys ei hun a’r Ŵyl hefyd.

Mae allan nawr ac yn werth y £25, rydw i a fy Mam yng Nghyfraith eisoes wedi cynllunio i goginio’r cawl yr wythnos hon ac rwy’n edrych ymlaen at wneud y Cyri Ffacbys a Thatws o Jamaica a Rhiwbob Rhost y Dwyrain Canol gydag Iogwrt gydag Elsi!

Yn ystod y lansiad, fe wnaeth Cerys siarad am faint o ganeuon sy’n cyfeirio at fwyd a sut maen nhw’n mynd law yn llaw, ac un o uchafbwyntiau’r Ŵyl i mi oedd gwrando ar Cerys yn canu Sosban Fach – mae ei llais yn anhygoel!

Ar y nodyn hwnnw, roeddwn yn falch o weld pabell ‘Pen Bar Lag’, lle’r oedd cyfle i fwynhau cerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg a hyd yn oed gwersi Cymraeg hefyd. Dwi bob amser yn cael fy nghythruddo pan nad yw Gwyliau yng Nghymru yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau yn y Gymraeg. Rwy’n gobeithio y bydd y rhan hon o’r Ŵyl yn datblygu ac yn cael ei hintegreiddio i’r Ŵyl gyfan gan fy mod yn credu y byddai’n wych gweld arwyddion dwyieithog, geiriau Cymraeg ar y pamffledi a’r deunyddiau marchnata ac ati.

Gan fynd yn ôl at fwyd, roedd digon o stondinau bwyd yma a gallech chi hefyd fwyta yng Nghaffi Ystâd Penarlâg hefyd wrth gwrs, a allai fod yn fwy addas ar gyfer plant ffyslyd! Os oeddech chi’n ffansio ychydig o wledd, roedd gwleddoedd gyda’r nos gyda chogyddion enwog a chan bod Clara yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed a finnau newydd droi’n 39 (sori Clara!) roedd Clara wedi dewis mynd â ni i’r Wledd cig Cymreig gyda’r anhygoel Chris Roberts o Gaernarfon sydd â’i gyfres deledu ei hun ar S4C.

Roedd hwn yn arbennig iawn, ac unwaith eto yn brofiad agos-atoch, gan ddod â dieithriaid ynghyd o amgylch y byrddau i gymysgu a dysgu oddi wrth ei gilydd a blasu bwyd lleol gonest da. Roedd y bwyd yn wych, yr holl gig o Gymru a fy uchafbwynt oedd y cig eidion a hefyd y bwmpen wedi’i rhostio â chaws y bu’n rhaid i mi ail-lenwi fy mhlât ag hi deirgwaith!

btfmdn

Fe wnaethon ni eistedd gyda ffrindiau o Fachynlleth a heddwas hyfryd o Lundain a’i wraig a threuliais ddwy awr yn siarad am ei waith cymunedol yn Grenwich a’r llinellau cyffuriau sirol brawychus sydd, fel rhiant, yn fy nychryn yn ofnadwy. Roedd y noson yn union fel yr oeddwn wedi’i ddychmygu, bwyd gwych a chwmni gwych a dysgais lawer. Er gwaethaf fy salwch llwyddais i’w fwynhau!

Ar ôl y pryd bwyd aethom i’r prif lwyfan, a oedd mewn gwirionedd mewn pabell fawr dan orchudd ac yn glyd. Rwy’n falch iawn ein bod wedi cyrraedd mewn pryd i wylio Errol Linton, roedd yn hollol anhygoel, fel yr oedd Junior Senior – ni fyddwn erioed wedi darganfod y ddau hyn oni bai am yr Ŵyl ryfeddol hon, ond byddaf yn lawrlwytho eu cerddoriaeth nawr!

Wrth i ni adael y Good Life Experience am hanner nos, roeddem yn falch iawn bod siop a chaffi’r Fferm yn dal ar agor! Te lemwn a sinsir oedd yr union beth yr oeddwn ei angen cyn mentro i’r babell. Sylweddolais bryd hynny fy mod bellach yn ganol oed, roedd y ffaith fy mod i wedi cyffroi cymaint â hynny am de yn profi bod fy nyddiau o bartïon gwallgof mewn gwyliau yn rhywbeth o’r gorffennol! Mae gŵyl agos atoch a bwtîc fel hon yn llawer mwy addas i mi, lle cefais gyfle i brofi’r holl bethau da mewn bywyd ymhlith pobl o’r un anian. Ni allaf aros i ddychwelyd a byddaf yn mynd ag Elsi gyda mi y tro nesaf gan y byddai hi wrth ei bodd hefyd. Diolch Cerys a’r Gladstones!

 

 

 

 

 

 

 

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: