Mae Sharon Marie Jones o Aberystwyth yn Fam ysbrydoledig. Yn 2016 fe gollodd Ned, ei mab 5 mlwydd oed mewn damwain car erchyll, ac ers hynny mae wedi rhannu ei phrofiad o alar a’i salwch meddwl mewn blog er mwyn helpu eraill. Yn ystod y cyfnod tywyll hwn mae Sharon wedi llwyddo i ysgrifennu a chyhoeddi dau lyfr stori i blant, ac mae’r ail; ‘Grace Ella – Witch Camp’ newydd gael ei lansio yn barod ar gyfer calan gaeaf. Mewn cyfweliad, cefais gyfle i ddysgu mwy am y gyfrol a dysgu sut mae’n ymdopi gyda’i galar tra’n magu dau fab ifanc.

Gynta’i gyd, llongyfarchiadau enfawr ar y llyfr newydd sbon yng nghyfres Grace Ella – i’r rhai sydd heb ddarllen y cyntaf, sonia ychydig am y cymeriad.

Diolch o galon! Dwi dal ddim yn gallu cael fy mhen rownd y ffaith bod dau lyfr efo fy enw i arnyn nhw allan yn y byd!

Merch fach naw mlwydd oed yw Grace Ella, ac mae’n darganfod cyfrinach … gwrach ydi hi! Mae’r llyfr cyntaf, ‘Grace-Ella: Spells for Beginners’, yn dilyn antur Grace-Ella wrth iddi ddechrau dysgu ac ymarfer swynion hudolus. Er mai gwrach ydi Grace-Ella, mae’n rhaid iddi fynd i’r ysgol fel pawb arall. Dydy hi ddim yn hoff iawn o ysgol oherwydd Amelia y bwli. Mae yna brofiadau a themâu yma y gall nifer o blant uniaethu gyda nhw.

Beth allwn ni ddisgwyl yn y gyfrol newydd?

Llond crochan o hud a lledrith! Yn ‘Grace-Ella: Witch Camp’, mae Grace-Ella a’i chath ffyddlon Mr Whiskins yn mynd i’r Gwersyll Gwrach am y tro gyntaf. Yno, mae hi’n gwneud ffrindiau newydd – Dilys, Mati ac Aisha. Mae swynion newydd i’w dysgu, diodydd hudol i’w cymysgu a brwsh hud i’w hedfan. Ond, mae Grace-Ella’n ffeindio’i hun ar antur llawer mwy ofnus un noson, yng nghanol y goedwig tywyll…

O ble ddaeth y syniad ar gyfer y cymeriad? 

Roeddwn i’n athrawes ac wrth yrru i’r gwaith un bore fe ddaeth yr enw Grace-Ella i fy mhen … ac mi arhosodd yna! Yn araf bach, des i adnabod Grace-Ella. Unwaith daeth y cymeriad yn fyw, dilynodd yr hud a lledrith. Dyma’r math o stori roeddwn i wrth fy modd yn darllen pan oeddwn i’n blentyn. Fy hoff lyfrau oedd rhai Enid Blyton, yn enwedig, ‘The Enchanted Forest’ a’r ‘Faraway Tree.’

Cefais fy magu yn Dolgellau, yng Ngogledd Cymru. Roeddwn i’n gwirioni gwrando ar chwedlau lleol am gewri a thylwyth teg. Roedd gennym ni goeden afalau yn waelod yr ardd, a chredwch chi byth, ond mi roedd yna ddrws tylwyth teg arno, hanner ffordd i fyny’r boncyff. M’ond i mi gau fy llygaid a chnocio’n dawel ar y drws tair gwaith ac mi roeddwn ym myd y tylwyth teg…Mae hi wedi bod yn freuddwyd i mi fod yn awdures ar hyd fy oes a rydw i bellach yn ysgrifennu’n llawn amser ac wedi rhoi’r gorau i fod yn athrawes.

Rwyt ti wedi llwyddo i ysgrifennu a chyhoeddi’r ddwy gyfrol mewn cyfnod anodd iawn, ond ti’n sôn ar dy flog bod ysgrifennu yn dy helpu i ddelio gyda’r galar…

Fe chwalodd fy myd ar Ddydd Gwener y Groglith, 2016, pan bu farw fy mab bach mewn damwain car. Does dim geiriau sy’n gallu disgrifio’r boen o golli Ned. Mae o’n annioddefol.

Yn y misoedd yn dilyn y ddamwain, roedd rhaid i mi neud rhywbeth i geisio lleddfu’r boen, ac roeddwn yn troi at ysgrifennu. Nid ysgrifennu storïau creadigol, ond ysgrifennu am beth oedd yn digwydd i mi. Roedd yr holl deimladau cymhleth a chwestiynau yn troelli’n ddi-stop yn fy mhen. Doedd dim byd yn fy mywyd yn gwneud synnwyr, felly roedd ceisio rhoi fy nheimladau mewn geiriau yn helpu ychydig bach.

Roedd yr ymateb yn gadarnhaol a nifer helaeth yn darllen am fy mhrofiad ar y blog a ges i gyfle i gyfrannu i’r gyfrol arbennig ‘Galar a Fi’. Ysgrifennais lythyr at Ned – dyna’r unig ffordd roeddwn yn gallu ysgrifennu’r darn. Ysgrifennais yn gwbl agored a gonest, yn sôn am y salwch meddwl oedd wedi cael gafael arnaf ar ben y galar. Cefais ymateb anhygoel i’r darn – pobl yn sôn am fy newrder ac yn dweud nad oeddent wedi darllen darn mor noeth o’r blaen.

Mae galar yn boenus. Mae o’n greulon ac yn hunllefus a doeddwn i ddim am guddio hynny. Dwi o’r farn ei fod yn bwysig siarad yn agored am ein profiadau.

Does dim poen tebyg i’r boen o golli plentyn. Er bod tair blynedd wedi pasio, mae’r boen yr un mor annioddefol ond mae ysgrifennu yn tawelu fy meddwl. Dwi’n gallu dianc o hunllef fy mywyd am ychydig, yn gallu dianc i fy myd ddychmygol. Mae hyn wedi fy helpu i allu ymdopi’n well gyda bywyd o ddydd i ddydd, ac yn fy helpu i fod yma fel mam i fy nau fab arall.

Roedd Ned wrth ei fodd efo storïau ac yn darllen o oedran ifanc iawn. Roedd o’n llawn cyffro wrth feddwl am llyfr mewn siop efo enw Mam arno. Mae hyn yn rhoi ychydig o gysur i mi wrth i mi barhau i ysgrifennu. Ac hefyd, wrth gario ‘mlaen i ysgrifennu llyfrau plant, rwy’n gallu dangos i Tomi a Cai (fy nau fab arall) nad ydw i wedi rhoi fyny ar y freuddwyd o fod yn awdures.

Pa gyngor fyddet ti’n rhoi i rieni eraill sy’n byw gyda’r galar o golli plentyn?

Mae hi bron yn amhosibl cynnig cyngor. Does neb yn galaru yn yr un ffordd. Mae’n rhaid i bawb ffeindio’u ffordd eu hunain drwy’r hunllef. Bydd pawb yn profi galar yn eu bywydau, ond mae colli plentyn yn boen na ellir ei gymharu ag unrhyw beth arall. Dylai ddim un rhiant orfod claddu eu plentyn.

Yr unig beth dwi’n gallu gwneud ydi bod yn onest am fy mhrofiad i. Dwi’n dioddef. Does dim diwrnod yn pasio lle dwi ddim yn crio am Ned. Dwi’n sâl ac wedi cael diagnosis o iselder, gor-bryder a PTSD. Dwi’n cymryd meddyginiaeth ac yn derbyn therapi seicolegol. Mae hi mor bwysig i gydnabod ein teimladau a gofyn am help.

Dydy bywyd byth yn mynd i fod yr un peth ar ôl colli plentyn. Sut gallith o? Ond mae bywyd yn parhau a rhywsut, mae’n rhaid ffeindio ffordd i gario ‘mlaen. Ac os ydi hynny’n golygu bod angen help proffesiynol, yna gofynnwch am help. Peidiwch dioddef yn dawel. Byswn i ddim yma yn ysgrifennu hyn heddiw heb help fy meddyg teulu a fy seicolegydd – dyna’r gwirionedd.

Gyda’u help nhw, dwi’n araf bach yn dysgu sut i fyw yn y byd newydd yma heb Ned bach. I fi, mae ysgrifennu’n helpu – efallai i rywun arall darlunio bydde’n helpu, neu chwarae offeryn. Dwi’n credu’n gryf fod cael allbwn creadigol yn gallu helpu i leddfu’r boen.

Mi fydd dyddiau drwg. Mi fydd dyddiau lle mae codi o’r gwely’n ormod. Mi fydd dyddiau lle does dim stop ar y dagrau. Mi fydd dyddiau o orwedd mewn pelen tynn yn trio gwasgu’r poen. Ond mae hynny’n iawn. Mae hynny’n naturiol. Galar yw’r cariad am eich plentyn. Mae o’n brifo, mae o’n brifo gymaint. Ond mae dyddiau lle mae’r boen yn dawelach. Mae dyddiau lle dwi’n gwenu wrth feddwl am Ned a’i gymeriad llawn bywyd; y ffordd roedd o’n llenwi’r tŷ gyda’i chwerthin a’i berfformio. Dwi’n gallu mwynhau bod gyda Tomi a Cai a fy ngŵr, Bleddyn. Mae nhw’n haeddu hynny. Dydy hynny ddim yn golygu nad ydw i’n meddwl am Ned. Mae Ned yn fy meddwl bob eiliad o’r dydd, mae o’n byw yn fy nghalon. Dwi’n ei gario gyda fi le bynnag dwi’n mynd.

 Ydy Tomi a Cai yn ffans o Grace-Ella?

Mae Tomi ym Mlwyddyn 8 ac yn casáu darllen ffuglen! Ond dwi’n gwbod yn dawel bach ei fod yn prowd iawn o weld enw Mam ar lyfrau ‘Grace-Ella’. Pan da ni’n mynd i siop lyfrau, y peth gyntaf mae Tomi’n neud ydi chwilio am gopi. Er bod Tomi yn yr oedran lle mae Mam yn hollol embarrassing, mae’r wen ar ei wyneb pan mae rhywun yn dod ataf i ddweud rhywbeth am fy llyfrau yn dweud stori wahanol!

Mae Cai ychydig yn ifanc eto, dim ond yn 5 oed. Ond mae o’n dechrau deall mai Mam sy wedi ysgrifennu’r storïau. Dwi’n edrych ymlaen at eu rhannu gyda fo pan mae o ychydig yn hŷn. Mae Cai hefyd yn mynd yn gyffrous iawn os mae’n gweld copi mewn siop, yn neidio fyny ac i lawr ac yn gweiddi ‘Hwre!’ Mae’n rhaid cyfadde, mae’n nhw’n ‘pros’ erbyn hyn ar hyrwyddo’r llyfrau!

Oes mwy o anturiaethau ar y gweill yng nghyfres Grace Ella?

Dwi wrthi’n ysgrifennu trydydd antur Grace-Ella ar hyn o bryd, felly fel mae’r dywediad yn mynd – ‘watch this space’…

Diolch o galon i Sharon am rannu ei phrofiad mor agored. Os oes un Fam gyda’r #MamPower ti yw honno Sharon a dwi’n methu aros i fynd i hwyl Calan Gaeaf efo Elsi fy merch yng nghwmni Grace Ella! Mae’r gyfrol yn fargen am £5.99 ac ar gael yma.

Gan Heulwen Davies, Mam Cymru

 

 

Gadael Ymateb