Ein Nadolig Cyntaf fel Mamau gan Catrin Enid

O’r diwedd, dwi’n cael hanner awr i eistedd lawr, i ysgrifennu’r darn o’n i wedi bwriadu ei ysgrifennu pythefnos yn ôl! Rhwng y pentwr o waith marcio, y pentwr stwff ‘dolig, a’r pentwr dillad glân i’w plygu dwi’n darganfod cornel fach ar fwrdd y gegin er mwyn rhoi mewn geiriau, sut mae bywyd wedi newid i fi a fy ngwraig dros y chwech mis dwethaf. Chwech mis anoddaf, mwyaf emosiynol ond bendigedig fy mywyd. Y chwech mis sydd ers i fi a Carys y wraig fabwysiadu efeilliaid bach tair oed, Myfi a Begw.

Ni’n dwy wedi arfer â bywyd prysur cofiwch! Deunaw mis yn ôl, roeddwn i newydd lawnsio cwmni arlwyo a chaffi fy hun, Bara Menyn ym Mae Caerdydd ac roedd Carys newydd ddychwelyd ar ôl cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia. Mae Carys yn gyn athletwraig Cenedlaethol a rhyngwladol, a chapten ar dîm athletau Cymru.  Mae fy ngwraig yn fenyw a hanner, yn gryf ac yn ffyrnig, ac yn hollol sensitif a meddylgar o eraill. Erbyn hyn mae’n gweithio gyda chwmni theatr Spectacle ym Mhorth ac hefyd yn rhedeg cwmni hyfforddi ei hun; ‘Hard Core Cymru’ yn ddigidol ac ar lein, wrth gynnig rhaglenni ymarferion i bobol gwella cryfder, iechyd meddwl a lles, ynghyd â hyfforddi athletwyr rhyngwladol eraill bron bob noson o’r wythnos! Yn fyr, mae bywyd wastad wedi bod yn brysur ond mam bach, rwy’n edrych yn ôl ar y cyfnod yna gyda gwên wybodus erbyn hyn… nawr, fel dwy Fam, mae bywyd fel ffair!

Doedd byth cwestiwn na fyddem ni un diwrnod yn rhieni. Ar ôl blynyddoedd o IVF mae’n amlwg iawn nawr, mai mabwysiadu oedd ein ffawd ni o’r cychwyn. Ffawd oedd bod ni a’r merched yn y system ar yr un pryd, ffawd eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, a ffawd oedd cwympo mewn cariad â’r ddwy fach anhygoel ‘ma o’r cychwyn. Rwy’n grediniol mae ein lle ni yn y byd hyn yw bod yn famau i Myfi a Begw. Ni’n ffitio.

Mae bywyd wedi gorfod addasu tipyn, gyda Carys yn aros adre i edrych ar ôl y plant (tasg anoddach, mae’n pwysleisio, na hyfforddi athletwyr ar lwyfan rhyngwladol) a minnau, wedi penderfynu gwerthu ‘lease’ y caffi a chamu nol i’r dosbarth fel athrawes Drama a Chymraeg.

Roedd rhedeg busnes prysur dydd a nos just ddim yn gweddu ein bywyd newydd, ac i fod yn hollol onest, doeddwn ni ddim eisiau colli allan mwy nag oedd rhaid wrth setlo’r merched i’w byd bach newydd. Penderfyniad anodd, ond heb os yr un orau i ni fel teulu. Mae Bara Menyn yn parhau ar nosweithiau pop-up, neu arlwyo i gleientiaid preifat, ond dydy’r pwysau mawr i wneud i fusnes lwyddo ddim gen i bellach. Rwy’n hapusach o lawer, ac mae gan y merched ddwy riant sy’n bresennol.

Ym mhrysurdeb y paratoadau ar gyfer ein Nadolig cyntaf fel teulu, rwy’n cael fy atgoffa ble roeddem ni union flwyddyn yn ôl; ar ddiwrnod cyfweliad y panel mabwysiadu. Cynhaliwyd y panel yn adeilad Cymdeithas Plant Dewi Sant, gyferbyn â neuadd y ddinas oedd yn frith o sŵn ac aroglau Gŵyl Gaeaf Caerdydd, fel y mae o heddiw. Rwy’n cofio troi at Carys a dweud pa mor anhygoel byddai cael ymweld eto flwyddyn nesa …fel teulu. Fe euthum ni ar ddiwrnod agoriadol yr ŵyl eleni, ac roedd y merched wrth eu bodd.

Mae’r broses o fabwysiadu fel dim byd arall yn y byd. Mae’r rhan ddechreuol yn un ymwthiol dros ben, gyda’r gweithwyr cymdeithasol yn holi ac yn ymchwilio i bob rhan o’ch bywyd, eich perthynas, stad meddyliol, iechyd, cefndir a phlentyndod ymysg pethau eraill, AC mae hyn yn oce. Rwy’n sylweddoli nawr bod y wobr ar y diwedd yn un werthfawr a hyfryd. Petaem ni ddim yn rhieni i’r merched byddwn ni eisiau i bwy bynnag fod wedi mynd drwy’r un broses drwyadl, ac mae’n rhoi ffydd i ni fod plant y system mewn dwylo da, oherwydd pa bynnag  mor anodd, neu emosiynol, neu ‘tuff’ yw pethau i’r oedolion, y plant yw’r flaenoriaeth a rhaid sicrhau bod y ‘match’ yn gywir er lles pawb.

Ar ddiwedd y broses o fetio mae’r aros am y ‘match’ cywir, sydd yn medru bod yn un hir i rai, ond yn ffodus i ni daeth yr alwad mwy neu lai yn syth. Roedd efeilliaid tair oed yn aros amdanom. Sioc, rhyddhad, arswyd, ofn! Y cam nesaf oedd paratoi i gwrdd â’r plant (ymysg paratoi’r tŷ, a thrawsnewid fy ngardd blodeuog  prydferth i barc chwarae!) cyn i’r holl beth ddod yn realiti llwyr a’r diwrnod mawr yn cyrraedd.

Wna’i fyth anghofio’r cyfarfod cyntaf hwnnw, a’r cyffyrddiad tlws cyntaf hwnnw wrth i Myfi basio’r uncorn binc draw am gwtsh. Mae’n anodd ddisgrifio, ar ôl aros a breuddwydio am ein teulu, o’r diwedd dyma nhw, ac roedd clywed y geiriau Mam a Mami yn dorcalonnus o arbennig.

Mam Brown a Mam Melyn i ni erbyn hyn (lliw gwallt) mae’r freuddwyd wedi dod yn wir, ac mae realaeth yn ein mynwesu gyda dagrau a chwerthin yn ddyddiol. Mae ein Nadolig cyntaf ar y gweill, rhestr Sion Corn wedi hen fynd i Begwn y Gogledd ac Elfyn y corrach bach drwg yn chwarae drygioni bob nos.

Erbyn hyn mae’r silff ‘rŵm ganol’ yn llawn o lyfrau a theganau, lle gynt oedd yn wag. Mae’r welydd  yn gymysg cariadus o wynebau hapus a’r sinc yn bentwr anniben o lestri bach plastig llachar.  Gyda geiriau anfarwol ‘Let it Go’ yn llenwi’r tŷ mae’r tawelwch byddarol wedi mynd, ac mae’r gwacter nad oeddwn yn ymwybodol ohono wedi llenwi.

Ydy, mae bywyd yn wahanol, wedi’r hir aros, ond y gwir amdani yw bod nhw wastad wedi bod yma. Mater o aros iddyn nhw gyrraedd oedd hi.

Gan Catrin Enid, Mam Brown Myfi a Begw.

Hoffai Mam Cymru ddiolch o galon i Mam Brown am ei chyfraniad a Nadolig Llawen Llawn Hapusrwydd i chi’ch pedair…mae’n amlwg bod yr anrhegion gorau wedi cyrraedd eich cartref chi eisoes! Mwynhewch X

*Os hoffech chi rannu eich stori gyda darllenwyr Mam Cymru, ebostiwch ni ar mam@mamcymru.wales

 

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: