Mam, dwi ofn y Coronavirus

Mam, dwi ofn y Coronavirus

Mae’n teimlo fel bod y byd wedi newid dros nos. Ychydig wythnosau nol, o’n i erioed wedi clywed am y Coronavirus, rwan mae o ymhobman; pob sgwrs, pob siop, pob trip ymestynnol i’r tŷ bach i olchi’n dwylo, bob tro mae rhwyun yn canu pen-blwydd hapus…bobman. Mae’n trendio ar Trydar ac ar flaen pob papur newydd, a dyma’r unig destun trafod ar raglenni teledu byd eang. Mae’r Coronavirus wedi dod yn seren dros nos, ac mae’n amhosibl ei anwybyddu bellach.

Llun: Today’s Parent

Fel rhiant ac fel merch, dwi’n poeni. Dwi’n poeni am fy merch a ngwr, yn poeni am fy nheulu, fy ffrindiau a’m cymdogion. Dwi’n poeni am arian, yn enwedig a minnau newydd fynd yn hunan gyflogedig wythnos dwytha. Dydy hyn yn ddim o’i gymharu a’r holl rieni sy’n ddibynnol ar glybiau brecwast a chinio ysgol er mwyn bwydo’r plant, a’r holl blant a rhieni sydd ddim yn byw mewn cartrefi cariadus a chefnogol. Dwi wir yn gofidio am y plant a’r teuluoedd yma. Cyn y Coronavirus roedd 1 ymhob 3 plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac mae’n debygol iawn y bydd hynny’n cynyddu rwan.

Dwi’n oedolyn, yn gallu deallt yr hyn dwi’n clywed, ac er nad ydw i’n cytuno gyda’r cyfan, dwi’n deallt y sefyllfa i raddau. Ond mae’r sefyllfa’n wahanol i’n plant ifanc ni. Yn ystod yr wythnosau dwytha mae’n plant ni wedi clywed pob math o sgyrsiau am y Coronavirus, wedi gweld mwy o glipiau newyddion a delweddau o bobl yn gwisgo masgiau. Mae nhw wedi gweld a theimlo sut ryden ni fel rhieni ac oedolion eraill o’i hamgylch yn poeni. Mae’r athrawon wedi bod yn rhoi gwersi golchi dwylo yn yr ysgol, ac mae’r plant yn trafod y feirws ar yr iard ac yn dod i fyny gyda damcaniaethau eu hunain.

Image: Brain POP

Rydw i wedi clywed am blant yn actio cymeriad y Coronavirus a hwnnw’n rhedeg ar ol y plant ac yn esgus ei lladd. Mae nifer o rieni wedi son wrtha’i bod eu plant yn codi yn y nos ac yn cael hunllefau neu’n gwlychu’r gwely am eu bod nhw ofn y Coronafeirws. Eraill wedi son am luniau brawychus mae’r plant wedi gwneud o fwysfilod Coronavirus yn lladd eu teuluoedd. Does dim dwywaith bod y cyfan yn cael effaith ar iechyd meddwl ein plant ni, ac mae hynny’n fy mhoeni i’n fawr.

Y peth dychrynllyd yw mai ddim ond y dechrau ydy hyn. Wrth i’n ysgolion gau, bydd hi’n gyfnod anodd iawn inni fel rhieni wrth inni geisio gwarchod y plant, talu’r biliau a chadw’n gall. Ydy mae hi’n heriol gorfod gweithio o adref tra’n gwarchod y plant, ydy mae hi’n siomedig i nifer bod yr Eisteddfod a digwyddiadau eraill wedi’i canslo, ac ydy mae’n wir eich bod chi a’r plant yn mynd i fynd ar nerfau eich gilydd yn amlach.

Ar ddiwedd y dydd mae angen inni fel rhieni geisio’n gorau i fod yn gall a phwyllog, oherwydd bydd hi’n gyfnod anodd iawn i’n plant ni hefyd. Bydd ei rwtins dyddiol nhw yn cael ei chwalu, bydd dim modd iddynt weld ei ffrindiau a Nain a Taid am gyfnod hir, efallai bydd dim modd cael parti pen-blwydd, efallai bydd dim modd mynd allan i chwarae yn yr haul a mynd ar wyliau, ac mae’n annhebygol y bydd arian sbar i fwynhau ‘treats’.

Mae aelodau hŷn fy nheulu bob amser yn dweud ein bod ni’n cael ein sbwylio heddiw oherwydd bod pethau mor hawdd inni, ac mae nifer ohonyn nhw wedi goroesi’r rhyfel. Bydd ein bywydau ni’n newid, bydd rhaid torri nol a bod adref am gyfnod hir o bosibl. Er lles ein plant, mae angen gwneud hyn yn bwyllog heb achosi pryder pellach iddynt. Bydd technoleg fel Facetime a Skype yn gymorth mawr i gysylltu gyda ffrindiau a theulu ac rydyn ni eisioes wedi trefnu ysgrifennu llythyron at ffrindiau ysgol, bydd pethau bach fel hyn yn gysur mawr i ni gyd ac yn hwyl hefyd.

Mae’n anodd bod yn bositif bob amser, ond mae angen i’n plant ni brofi a gweld y pethau positif sy’n dod allan o bob sefyllfa negyddol, fel yr ysbryd cymunedol a mwy o bobl yn helpu ei gilydd. Rydw i wrth fy modd yn gweld sut mae’r ysbryd cymunedol wedi ail danio yn ein cymuned ni a sawl un arall yn ystod yr wythnos dwytha. Rydw i wedi ymuno a sawl grwp Facebook lleol ac fel sawl teulu, rydym wedi bod heibio’r cymdigion i rannu manylion cyswllt a dangos ein cefnogaeth, a mynd a’n plentyn gyda ni oherwydd mae plant yn codi calon pawb …rhan fwyaf o’r amser!  Mae’n wallgo i feddwl bod hi’n cymryd pandemig i ail gysylltu gyda’n cymdogion, ond mae hyn yn beth gwych yn y tymor hir.

Wrth inni hunan ynysu a threulio cyfodau hir yn ein cartrefi, rhaid aros yn bositif a’i wneud yn hwyl. Gadewch i’r plant fod yn rhan o’r penderfyniadau a’r cynulluniau, y coginio a’r glanhau wrth gwrs! Gwnewch y mwyaf ohonno, mae’n gyfle euraidd i ail gysylltu gyda’n plant, i gefnogi’n gilydd a’r unigolion bregus yn ein milltir sgwar. Ryden ni gyd yn yr un cwch ac yn gwneud hyn am reswm pwysig. Daliwch i wenu a cadwch yn ddiogel. Cwtsh mawr i chi gyd.

Heulwen Davies, Mam Cymru

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: