Sut wyt ti?

Sut wyt ti?

Helo, Sut wyt ti? Heulwen sy’ma, Sylfaenydd Mam Cymru. Gynta’i gyd, diolch i bawb sydd wedi ebostio a chysylltu gyda syniadau, cynnwys ac ymholiadau yn ystod yr wythnosau dwythaf. Rydw i’n ceisio fy ngore i fynd trwy’r cyfan ac ymateb pan mae’n bosibl ac yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth parhaol.

Felly sut mae bywyd? Dwi wedi colli trac ar sawl wythnos sydd wedi mynd heibio ers inni fod adref. Dydw i ac Elsi heb adael ein pentref bach o gwbwl, diolch i’r gwr am wneud y  negeseuon hanfodol. Er fy mod i’n fwy diolchgar nag erioed am y ffaith ein bod ni’n byw yn y wlad gyda digonedd o lwybrau a mynyddoedd i’w crwydro’n dawel a diogel, mae hi’n dechrau mynd yn ddiflas gweld yr un llefydd o hyd. Dwi yn teimlo’n euog am ddweud hynny oherwydd dwi’n gwybod bod bywyd yn llawer mwy heriol i nifer, ond mae’n bwysig rhannu ein teimladau yn onest.

Yn ystod yr wythos gyntaf roeddwn i’n hollol gaeth i’r teledu a’r radio, yn gwylio pob clip newyddion a diweddariad ac yn mynd yn fwy a mwy stressed bob dydd. Mi ddysgais i’n reit handi nad oedd hynny’n llesol i fi nag i Elsi, roedd yn gwneud niwed i’n iechyd meddwl ag o’n i’n methu cysgu. Erbyn hyn, efallai wnai wylio un clip bob dydd rwan…a dyna ni.

Cadw Elsi yn hapus ydy’r flaenoriaeth i fi a Graeth y gwr. Ar ddechrau’r cyfnod roedd o fel gwyliau ysgol, roedd y tywydd yn braf ac roedd Elsi’n gallu treulio’r mwyafrif o’r amser yn yr ardd, ger yr afon, ar y trampolin neu’n beicio tra’n gwylio fi’n mynd yn fwy a mwy allan o wynt wrth geisio loncian wrth ei hochor! Roedd na water fights dyddiol, barbeciws a thostio marshmallows ar y tan – mae Elsi wedi meistroi’r grefft o greu tan erbyn hyn ac yn hynnod falch o hynny! Yn ystod yr wythnos dwythaf mae’r haul wedi diflannu ac mae Elsi wedi gweld eisiau ei ffrindiau mwy a mwy. Maen amser hir iddyn nhw dydy?

Fel pob unig blentyn, dwi’n credu bod y cyfnod hwn yn anodd iawn iddi. Dydy hi ddim yn normal iddi fod yng nghwmni oedolion trwy’r amser, ac er ein bod ni’n deulu agos ac yn ffrindiau mawr iawn, mae hi yn diflasu heb gael chwarae wyneb yn wyneb gyda’i ffrindiau. Yn ffodus, mae ganddi gylch eang o ffrindiau da a ffyddlon, ac mae cael galwadau ffon, galwadau Facetime a Skype a’r llythyron sy’n cyraedd yn wythnosol iddi yn help mawr, wnai fyth anghofio caredigrwydd y merched a’r bechgyn bach yma. Dwi mor ddiolchgar ac mor falch o’r ffordd mae hi’n delio gyda’r cyfan ac mor agored i darfod ei theimladau bownsio nol, mae’n sicir yn dysgu sgiliau bwyd ar hyn o bryd. Pan fydd hyn drosodd mi fydd y ‘parti gardd’ yma mae’n trefnu gyda’i ffrindiau a’i chyfneither YN digwydd!

Gwaith ysgol?! Dim yn ystod yr wythnosau cyntaf, y flaenoriaeth oedd cael hwyl a chadw Elsi i wenu. Mae agwedd yr ysgol yn wych, mae nhw mor gefnogol ac mae cael ebyst wythnosol a galwad gan yr athro hoffus yn golygu llawer. Ryden ni bellach yn cael tasgiau ‘y gellir’ eu gwneud gyda’r plant yn ystod yr wythnos, un tasg bach y dydd, sydd ar y cyfan yn hwyl a’r dechnoleg yn hwylus, a does dim pwysau i wneud bob un sy’n gret.

Dwi wedi dysgu nad ydw i’n athrawes ‘naturiol’, dwi’n gret pan mae pethau’n mynd yn dda ac yn hwyl, ond pan mae’n heriol mae’n heriol i bawb dydy?! Dwi’n parchu athrawon hyd yn oed yn fwy rwan…a wnai ddim anghofio hynny! Mae Gareth a fi yn parhau i weithio’n llawn amser ar hyn o bryd, felly y realiti ydy bod y gwaith yn gorfod ffitio mewn gyda’n amserlen waith ni. Mae cefnogi addysg Elsi yn hollbwysig inni, ond nid dyma’r flaenoriaeth inni fel teulu ar y pwynt yma.

Sut ydw i? Diolch am ofyn! Dwi’n oce ar y cyfan, ond dwi wedi cael ambell ddiwrnod llwyd ble mae’r rwtin newydd yma’n gwneud ifi deimo’n ddigalon ac emosiynnol, ac rydw i’n teimo’n euog am bopeth! Dwi’n amau nad ydw i ar ben fy hun? Dwi wedi darganfod mai awyr iach a chymryd brec ydy’r ffordd gorau o ddod dros hyn, mae edrych ar y darlun ehangach tu hwnt i’r 4 wal yn bwysig.

Wnes i lansio fy musnes fy hun @llaiscymru – cwmni marchnata, digwyddiadau a chyfryngau wythnos cyn y ‘lockdown’…amseru anffodus?! Does na byth amser iawn i fentro i fyd busnes a mynd yn hunan gyflogedig, ond gallai hwn fod wedi bod yr amseru gwaethaf o bosibl! Yn ffodus, a ‘touch wood’ fel mae nhw’n deud, dwi wedi bod yn brysur iawn ac rydw i’n ddiolchgar iawn, iawn am hynny. Eto, mae’r euogrwydd na yn cicio mewn, oherwydd wrth rannu hyn dwi’n adnabod nifer o bobl sydd allan o waith neu wedi colli swyddi yn ystod y cyfnod yma.

Fel yr arfer, amser ydy’r her fwyaf i fi ar hyn o bryd. Rydw i wedi bod yn codi am 6 a dechrau gwaith am 06:10 er mwyn gwneud rhyw ddwy awr cyn i bawb arall godi, ac wedyn mwyafrif yr amser dwi fewn ag allan o’r swyddfa nes tua 22:00 er mwyn cyflawni’r gwaith ar gyfer cleientiaid a rhannu’r gwaith gofal, coginio ayyb. Mae’n rhaid i fi wneud y mwyaf o’r prysurdeb oherwydd mae nifer o’r digwyddiadau roeddwn i’n trefnu ar gyfer yr haf wedi canslo, ac felly fe allai fod yn fyd gwahanol i’r busnes o fewn 6 wythnos. Ond! Dwi’n cadw’n bositif ac yn cymryd un wythnos ar y tro  – ‘coping mechanism’ da arall!

Tu hwnt i’r gwaith, dwi’n gweld eisiau’r rhieni a ffrindiau wrth gat yr ysgol, dwi’n methu fy nheulu ac yn ddigalon nad oes modd i fi gysuro aelodau’r teulu ac eraill sy’n profi galar a salwch difrifol ar hyn o bryd. Mae hynna’n anodd iawn. Dwi’n methu’r pethau bach fel mynd am dro ar lan y mor, dosbarthiadau ffitrwydd Nia Lewis, salad Medina yn Aberystwyth a’r salon trin gwallt!! Mae’n beth da fy mod i yn y pentref bach tawel ma oherwydd does na ddim ffordd mwy gonest na disgrifio fy hun, na dweud bod golwg y diawl arnai rhwng y gwallt ma a’r dillad rhacs a’r crocs (methu credu fy mod i wedi datgelu hynny!) dwi’n gwisgo bob dydd! Bydd pawb sy’n fy adnabod i yn synnu darllen nad ydw i wedi bod yn agos i ffrog ers dros 6 wythnos! Dwi methu aros i gael esgus i wisgo colur, rhoi ffrog lliwgar ymlaen a chael gwallt sy’n ymdebygu i wallt yn hytrach na mop bler

Cyn mynd, dwi eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i’r holl rieni yna sy’n parhau i weithio er mwyn edrych ar ein holau ni a’n cadw ni gyd i fynd yn ystod y cyfnod yma. Meddygon, nyrsys, parafeddygon, gofalwyr, athrawon, cogyddion a chynhyrchwyr bwyd, y rhai sy’n cludo bwyd a nwyddau i’n cartrefi fel bod dim rhaid inni fynd allan, y post brenhinol, yr holl siopwyr lleol a phawb arall rydw i wedi anghofio. Yng nganol yr holl heriau mae yna hyd yn oed fwy o ddiolchiadau a gwersi a newidiadau positif yn digwydd o’n hamgylch ni, ac mae’n rhaid ffocysu ar rhain.

Cadwch yn saff, cadwch yn ddiogel a sicrhewch eich bod chi a’r plant yn gwenu – dyna beth sy’n bwysig. Cwtsh mawr i chi gyd a hwyl am y tro, Heulwen X

ON Rydw i ac Elsi wedi bod yn creu podlediad Cymraeg o’r enw Pod y Plant i godi calonnau’r plant tra bod nhw adref. Os ydech chi am wrando mae o yma i chi – gobeithio fydd o’n gwneud i’r rhai bach wenu.

 

 

Gadael Ymateb

%d bloggers like this: